Cystuddfab Howel, costiai ei ochel,
Costrel ael-isel, nid ail Asaff.
Custaws gwartheg, cadw cawsdyau—a chadw
Cwd uwd brwd bradw, breu dwrch rhy-braff,
Cildwrnel gwan-leddf, celwrn bramsach-leddf,
Ceil mail milein-ddeddf, nid cynneddf Caff;
Cwlm ysgwthr twnffed, calon-mahunded,
Caled, er byred, ni wyr baraff.
Calgrwn carewn bochus, cyfled flamed flochys;
Cawldrwm llawnrechys, creceys croccer with raff,
Colwyd bugail Pedr, coleren wystugledr,
Celwydd-fedr cwfl lledr llwdn mewn ysgraff,
Cymwrn bur'm ysgai cymein a dimai,
Y Gân y bawai, ni graffai 'n graff.
Cafn agored yw safn gorwyr bawei,
I biccyn gwthr canwyr.
Safn pibydd swyfen pabwyr,
Safn llo gwas a ysa 'n llwyr.
Safn llydan ydyw, safn lledwyr—chwidawch,
Safn a chwydawdd neithwyr:
Safn llawn baw a chwyd awyr,
Safn cafn caws bydd haws hwyr:
Safn dyfrgi bawci bawwyr rheidusion,
Man lleithion, min llethwyr:
Safn gwrab, sefnig orwyr:
Safn yn ymsennu a wyr,
Safn cigfran, druan drawyr—y genau,
Safn ni chanawdd Sallwyr.
Safn drwg mal twll mwg magwyr,
Safn ffals ni saif o fewn ffwyr:
Safnog di gorphog daeog oer-ffwyr, lleipr
Cyhoeddgeipr ci hydd-gwyr;
Sennu pawb yw ei synwyr,
Safn goll-ast farw, safn garw gwyr.
CYWYDD BRUD.
Y Brudiau a ganai y Beirdd yn yr amseroedd terfysglyd a aethant heibio; yn enwedig yn ystod y tymhor blin o ymryson rhwng teuluoedd Caerefrog a Chaerhirfryn, am orsedd Prydain. Efallai fod cyfeiriad neillduol y Brud isod, at fradychiad Risiart yr Ail, i ddwylaw Harri Bollingbroke, a chyfodiad Owain Glyndwr yn y canlyniad i hyny.
Pan el y neidr pen Ion,
A'i gwyr a'u llu i Gaerlleon;
I rodio er llunio llid,
Y Prif-ffyrdd a llu y Proffwyd;
Tua'r drin ni chair hindda,
Cwyno yn ol cynu a wna;
Troi deheulaw draw i'r drin,
I'r bryn bydd dig y Brenin.
O fryn i bant y dygant dwyll,
Er ymwad llwyr i'r amwyll:
Yn y pant ffyniant i'w ffo,
Y cyrir gwae a'i caro.
Tynghedfen tan nen y ne,
Fydd yn oer ddychryn ddechreu;
Prydnawn fydd cynydd cóch,
Ar gweddwyr gwraig ar gwaedd groch:
Yna y cuddir cedwir co,
Yr eleirch a bair wylo;
Gwell syrthio i'r coed heb oedi,
Yn fuan meddan i mi;
Yno i ymddiffyn enaid,
Na'r holl gymdeithion yn haid.
Rhai dan wylaw draw i'r drin,
O gwr llu i'r gorllewin;
Rhai i'r hordd, gwaetha ffordd i ffo;
Rhai i'r dwyrain rhyw daro;
Un i'r deau gwar a'n gwyw,
O ddig hwyrfrydig ydyw.
Ar hyn gorllwyni tywyn tes,
Yn llechu yn ei lloches;
Paran' ofn i'n calon,
Eilwaith i'r un daith y don.
Anhyfryd o fyd a fydd,
Pob dyn gelyn i'w gilydd;
Brodyr ffydd a'u bryd ar ffo.
Ac offeiriaid yn ffario.
Batelau diau y daw,
Yn ol y gwaith arianlaw;
Dwnedair "myn Mair o ne,"
Chwerw fydd diwedd y chware.
Breuddwyd gwenddydd deunydd da,
O dyddwy modd y diwedda;
Dyna hanes pen hunor,
Tair llynges yn mynwes môr.
Galar o beth by gwelir,
O dair man y deuan i dir;
Y ddwy ddywaetha a ddaw
Yn ol y gwaith anaelaw;
Rhwng Bryn Eglwys lwys lid,
Ac afon waed a gyfyd;
Gofal doeth bid anoeth byw,
A gwinfyd i ynfyd yw.
Pedair blwyddyn cyn peidiaw
Diau ar dduwiau a ddaw,
Y cyrchir frwydr y cyrchan,
I hud y tyfod yr an';
Ag ar y Rhos gerllaw'r Rhyd,
Y gwelir teca golud;
Mwstwr ar fedd Arglwyddi,
Pedair iaith heb ein iaith ni:
Lladdfa fawr o'r llawr mewn llid,
A gaf arian a gofid;
Sarn o'r gwŷr synwyr son,
Oer ofid ar yr afon.
Taliesin ddewin am ddysg,
A Merddin yw fy mawr-ddysg;
Gwersi Thomas Urddasol,
A wyr terfyn hyn o hawl?
Y Baedd diwarth weithred,
Ar fedd Crist o fodd cred;
I'r wlad i ddial brad bron,
I wir Dduw ar Iuddewon;
I ynill o berffaith oes,
O angred i gred y groes.
Gwyr a dderfydd i Gaerwydd gwin,
I'r Bardd teilynga byddin;