Yn ngwlad arall ni ffaela,
Trugaredd a diwedd da.
Ar ol hwn gwn gynnydd,
Gwn hefyd pa fyd a fydd;
Gwybydd mai hyn yw gobaith,
Mai gwynfyd Gwenddydd yw'r gwaith.
BREUDDWYD AM OWAIN GLYNDWR.
(o YSGRIF IOLO MORGANWG)
Ymddiddan bwhwman hwyr
A wnaeth yr enaid neithwyr;
Cyffes eres a orug
I'r corff oer rhag caru ffug:
Meddai 'r enaid, rhaid rhadlawn,
Mau ydd wyd, y corff meddw iawn.
CORFF.
Pa ddrygiawg air hawg er hyn?
Pa gyfaill? pwy a'i gofyn?
ENAID.
Myfi ydyw, mau fudiaith,
D'enaid teg, a fu 'n dwyn taith:
Ni adewais lednais le
Yn Nghymru ar fy nghamre,
Heb d' ymofyn, hyn yw 'r hedd,
I'r goreugwyr a'r gwragedd.
Ni wyddent neb p'le'dd oeddud,
Nid hawdd ymadrawdd â mud:
Tithau 'n egwan dy anwyd
Mewn glwth, ellyll mein-gul wyd,
Yn chwyrnu megys chwornell,
Gormodd bw! gwr meddw o bell.
Tra cherddais, mofynais fawl
Trwy Geri, gwlad ragorawl,
A'r Dref Newydd lifwydd lefn,
Bwrdeis-dref baradwys-drefn;
Ymlynais ym Maelienydd
Dy ol di, fal hel-gi hydd,
Ger tai meibion Lleon, llu
Phylip goeth, dewr-ddoeth, Dorddu.
CORFF.
Uchel-rwysg bobl wych hael-ryw,
Och fi! a oeddynt iach fyw?
ENAID.
Gwyr Elfael, geirw gwrol-feilch,
Byw a iach, nid gwychach gweilch.
CORFF.
A fuost yng ngwlad Fuellt,
Elfydd deg ei gwŷdd a'i gwellt?
ENAID.
Bum ar ei lled, mawr-ged mau,
Goleu-ddydd, yn cael gwleddau.
CORFF.
A fuost lle câr f'awen
Ar gain gyrch, Morganwg wen?
ENAID.
Búm, a gwaith digrif oedd bod,
Breninaidd bro wen hynod.
CORFF.
A fuost, le difeiaf,
Yn mlaenau terfynau Taf?
ENAID.
Yno y bûm mewn iawn barch,
Da hoyw-fawl gwyr di hafarch.
CORFF.
A fuost ar nawf awyr,
Ymlyn gwawd, yn Mlaenau Gwyr?
ENAID.
Treiglais yno trwy oglud,
Ni bum ar goll ei holl hyd;
Na chwech trech y Tri Chantref,
Gwell Cacaw na naw o nef.
CORFF.
A welaist wŷr Cydweli?
ENAID.
Gwiw oleu 'stryd, gwelais dri:
Digon genyf di egin
Gweled o'r tri Gadwaladr trin;
Tew oedd yn Ystrad Tywi
Dial dwys dy olau di,
Mal ol Addaf, aml oeddynt,
Pan yrwyd, gofynwyd gynt
Am yr afal, dial dwys,
A'i bryder o Baradwys.
CORFF.
Beth yw ef byth o'i ofyn
Abad y Tŷ gwinllad Gwyn?
ENAID.
Gyr gennad yn goeliadwy
I erchi more, ac arch mwy.
CORFF.
Deffro, oddiyno ydd awn
Ger Dugiaeth Geredigiawn.
ENAID.
Doniog yw'r oludog wlad
Ac anerch Rhydderch roddiad,
Ab Ifan Llwyd, anwyd arth,
Da hoyw-bost aur Deheubarth;
Abad ni ad arnad ing,
Tir Fflur, er rhoi tair flwring.
CYWYDD I OWAIN GLYNDWR.
Cywydd i Owain Glyndwr cyn iddo godi mewn rhyfel yn erbyn y brenin Harri y Pedwerydd; yn yr hwn y canmolir adeiladaeth ei lys ef; lle yr oedd Iolo wedi cael aml wahawdd, yn dyfod i darrio yn hen wr, fel y tystia 'r Cywydd.
Addewais yt hyn ddwywaith,
Addewid teg, addaw taith,