Taled bawb tâl hŷd y bo
Addewid a addawo;
Beth anwyl mae'n bwyth uniawn,
Perwyl, mor anwyl, mawr iawn.
Myned mae adduned ddain,
Lles yw, tua Llys Owain;
Yno yn ddidro ydd âf,
Nid drwg ag yno trigaf;
I gym'ryd i'm bywyd barch,
Gyd ag ef o gyd gyfarch;
Fe all fy nâf, uchaf âch,
Aur-ben clêr, dderbyn cleiriach.
Clywedais bod, nis cêl Awen,
Ddiwarth hwyl, yn dda wrth hen;
I'r Llys ar ddyfrys ydd âf,
O deucant, odidocaf;
Llys Barwn, lle Syberwyd,
Lle daw Beirdd, am lle da byd.
Gwawr Bowys fawr, beus faig,
Gofyniad, gwiw a fynaig;
Llyna modd, y llun y mae,
Mewn eurgylch, dwr mewn Argae;
Pand da'r llys, pont ar y llyn,
Ag unporth, lle'r a'i ganpyn.
Cyplau fydd, bob cwplws ŷnt,
Cwpledig bob cwpl ydynt;
Clochdy Padrig, ffrengig, ffrwyth,
Cloystr West mestr, cloau ystwyth,
Cenglrhwyn, bob congl unrhyw,
Cafell o aur, cyfa oll yw;
Cenglynion, yn y fron frŷ,
Dordor megis daeardy;
A phob un, fal llun llynglwm,
Sydd yn eu gilydd, yn glwm.
Tai Napl, ar folt deunawplas
Ty pren glân, mewn top bryn glås.
Ar bedwar Piler, eres
Ei Lys ef, i nef, yn nes.
Ar ben bob piler pren praff,—
Llofft, ar dalgrofft adeilgraff.
Ar pedair lofft, o hoffder,
Ynghyd gwplws, clau cwsg cler;
Aeth y pedair disglaerlofft,
Nyth-lwyth têg iawn, yn wyth lofft;
To teils ar bob ty talwg,
Simneiai, lle magai mŵg.
Naw neuadd, cofladd, cyflun,
A naw Wardrob, ar bob un;
Siopau glân glwys, gynwys gain,
Siop landeg, fal Siop Lundain.
Croes Eglwys, gylchlwys, galchliw,
Capelau a gwydrau gwiw;
Pob ty'n llawn, pob ty'n y Llŷs,
Perllan, gwinllan gaer wenllys.
Gar llaw'r Llys, gorlliwio'r llall,
Y pawr Ceirw, mewn Parc arall;
Parc Cwning, Meistr Pôr cenedl,
Eryrdr, a meirch hydr, mawr chwedl.
Dolydd glan gwyran, a gwair,
Ydau mewn caeau cywair;
Melin deg, ar ddifreg ddŵr,
A'i G'lomendy, gloyw maendwr.
Pysgodlyn, cuddiglyn cau,
A fo rhaid i fwrw rhwydau;
Amlaf lle, nid yr ymliw,
Penhwyaid a Gwyniaid gwiw;
A'i dri bwrdd a'i adar byw,
Paenod, Cryhyrod, hoywryw;
A gaith i bob gwaith fo gwiw,
Cyfreidiau, cyfair ydyw.
Dwyn blaenffrwyth, Cwrw Amwythig
Gwirodydd, Bragodydd, brig;
Pob llyn, bara gwyn, a gwin,
A'i gog, a'i dân i'w gegin.
Pebyll y Beirdd, pawb lle bo,
Pe beunydd, caiff pawb yno;
A gwraig orau o'r gwragedd,
Gwyn y myd, o'i gwin a'i mêdd.
Merch eglur, llin marchawglyw,
Urddol, hael, o reiol, ryw;
A'i blant, a ddeuant bob ddau,
Nythiad teg o benaethau!
Anodd, yn fynych yno,
Weled, na chliccied, na chlo;
Na phorthoriaeth, ni wnaeth neb,
Ni bydd eisiau, budd ofeb;
Na gwall, na newyn, na gwarth,
Na syched, fyth yn Sycharth.
Gorau Cymro, tro, tra-glew,
Piau'r llyn, power y Llew,
Gwr meingryf, gorau mangre,
A phiau'r Llys, hoff yw'r lle.
CYWYDD I OWAIN GLYNN DWR PAN OEDD FWYA EI RWYSG.
Y Cywydd isod a ganodd yr hen Fardd pan oedd ei hoff wron yn nghanol ei ymdrechfeydd gorchestol i sicrhau rhyddid ac annibyniaeth ei genedl; yr hon yn ddiau ydoedd yn dra anesmwyth dan iau estroniaid, ac yn iaith ein Bardd, yn fynych iawn yn dymuno,—
"Cael arglwydd llawn arwydd llain
O honyn' hwy eu hunain;"—
ac awgryma fod cyfodiad disymwth, a gorchestion dihafal y pendefig o Lyn Dyfrdwy, yn ei nodi allan yn ddigon amlwg, fel un wedi ei gyfodi i'r perwyl wnw. Gellid casglu oddiwrth ddwy linell yn y Cywydd hwn;—
"Glan yw'r arglwydd mawl-rwydd mau,
Yn dial cam y Deau;"
fod y Bardd yn cyfeiro at ei wrhydri tra yn gwersyllu ar Fynydd Plymlimon; pan wedi ei amgylchu gan bymtheg cant o Flemingiaid, a draws-feddiannent Ceredigion, ac a orthryment y Cymry yn dost,—y darfu i Owain gyda dim ond chwech ugain o lewion arfog yn ei ganlyn, dorri ei ffordd a min y cleddyf trwy eu rhengau, gan ladd dau gant o honynt ar y llanerch, a gyru y gweddill i ffoi. Y fuddugoliaeth