Yn gannaid ruddel felen,[1]
Yn gadr[2] ei phaladr a'i phen.
Pawb achlan o'r lle'r hanwyf,
A ofyn im', eofn wyf,
Budd a ddaw i'r llaw lle 'r êl,
"Beth yw 'r seren boeth awel?"
Myfi a wyr lwyr loyw-ryw,
Deall hyn, a dillyn yw.
—Dur yw ei phaladr, neu dân,
A draig i'r "Mab darogan."
Ni bu er's talm, wiw-salm wedd,
Sêr iawn i Sir o Wynedd:
Ond y seren eleni,
Sydd arwydd o newydd i ni.
Gem, yn arwain in' gymmod,
Gan Dduw glân, gwn iddi glod;
Teg yw 'r rhad goleuad gwrdd,
T'wysoges y tês agwrdd:[3]
Tân o fron y tyno frŷ,
Tywynodd rhad Duw ynny;
Lle diffoddes, dygesynt,
Y dalaith a'r gyfraith gynt;
Uchel y mae, uwchlaw Môn,
Yn ngolwg yr angelion.
Piler o aur goreu-ryw,
Post o gwyr o'r awyr yw.
Y naill a gawn, gwiw-ddawn gwŷr,
A'i Pab, a'i Brenin pybyr.—
Brenin hael am win, a mêdd,
Dewr a gawn o dir Gwynedd.
Duw a ddug, fe 'n di ddigia,—
Gwynedd i gael diwedd dâ:"
Goleu glan i gael y glod,
Ag arfau, a'r chwedl gorfod.
CYWYDD I OWAIN GLYNN DWR
WEDI EI FYNED AR DDIFANCOLL.
Yn ngwanwyn y flwyddyn 1405, cyfarfu Owain Glyndyfrdwy ag amryw anffodau blinion; canys mewn dwy frwydr a ymladdwyd yn mis Mawrth, efe a gollodd tua dwy fil a haner o wŷr; a lluaws o'i ganlynwyr a gefnasant arno, yr hyn a'i gwasgodd i gyfyngder dir- fawr, fel y bu dros beth amser yn gorfod llechu mewn ogofeydd, a diffeithfaoedd, o'r lle y byddai yn achlys- urol yn anturio ymweled à rhai o'i gyfeillion ffyddlonaf, y rhai a'i harlwyent ag angenrheidiau einioes; dywaid traddodiad mai un o'r cyfryw guddfeydd, ydoedd cilfachau Moelhebog, ger Beddgelert, a'r llall ydoedd "Ogof Owain," yn mhlwyf Llangelynin, swydd Feirionydd, lle ei porthid gan un Ednyfed ab Aron. Hwyrach mai dyma y pryd y cyfansoddodd ein Bardd y Cywydd blaenorol; a chyn diwedd y flwyddyn hon, cawn ein gwron ar y maes eto, a chanddo ddeng mil o Gymry dan ei luman, a byddin o Ffrancod yn ei gynnorthwyo.
Y gŵr hir, ni'th gar Harri.
Adfyd aeth, a wyd fyw di?
Ag od wyd, a gwayw o dân
Dyred, dangos dy Darian!
O wlad garw aergad eurgylch
Rhufain, dwg arfau'n dy gylch;
Dŵg feddiant, Pedr Sant, dan Sêl,
Drwy iawn-swydd, Duw a'r in-sel.
Dyred o wlad y Dwyrain,
Darw mawr, a bwrw dyrau main;
Rhwydd y daw, Rheiddiau[4] o dân
Rhagod, pawb a'th anrhegan.
Eryr glwys, dos, Ior o'r Glyn;
Iarll awchlais, i dir Llychlyn;
Y gwr a ddwg, arwydd iâch
Yn ei Darian bedeirach:
Tri Llew Glâs, fal yr Asur,
Trwy wyllt dân, a'r tair rhwyll dûr.
Rhown ni, ar y paun diwarth,
Rhowch rwyf ar yr Hwch a'r Arth;
Llyna'r tair bwyall unyd,
Lle mae'r gwaith, llu mawr i gyd.
Gollwng yn gynta gellych,
Saith Long, a Saith Ganllong gwŷch!
Dyred wrth ddymuned Môn,
O'r Nordd, hyd yn Iwerddon.
Rhaid yw i ti, rhu Duw Tâd,
Gael Owtils, a'i galw attad;
Cyfod o glau Galiod glân
Cawn glywed, cyn gwyl Ieuan:
Dyro filam, bennadur fllwch,
Draw'n Nulyn, drwy anialwch,
Gwna Lynges, gain o Longwyr,
O Gynfyl,[5] Gwyddyl, a Gwŷr.
Tyred, ŵr a draeturiwyd,[6]
O Fanaw dir, f'enaid wyd;
Gorau arwydd, gan Wyddyl,
Melyn a chôch, ymlaen chwyl:[7]
Urdda bensel,[8] Llywelyn,
Arddel hwy, a'r ddeu-liw hyn.[9]
Galw gar bron, gwae Loegr o'r brâd,
Lu Bryttaen, a'i lwybr attad.
Dyred i'n gwlad, dûr iawn glêdd,
Deyrnaswr, drwy ynysedd;
Cynneu dân cyn oed unawr,
I oror Môn, Eryr mawr!
Cúr gestyll, caerau gystudd,
Cwncweria wal, cŵn Caer Ludd.
Car a lladd, y wâdd a'i wŷr,
Cyrn aur Mon, cúr Normanwyr.
Dir yw gwnai, darogan oedd,
Fyd teilwng, o fateloedd;
Gwna frwydr, a gwaith grwydr yn grôch,
A'r Llew mwyn, Ior lle mynoch:
Gwaith dy Law a ddaw yn ddig,
Gwŷr meirw, a geir yn Merwig.
Gwna drwy'r Haf gwn droi'r Rhod,
Gymmynu, brwydr Gwminod;
Gwna gâd, fal toriad Deri
Fochno, a hŷn fŷch na hi.