Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ceinion Llenyddiaeth Cymreig Cyf I.djvu/40

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Gwna daith, yn Rhŷd Glyn Iaithon,
Gwŷr lawer a Maner Mon:
Gwna naw Câd, yn daladwy,
Yn un modd, ag na wnâ mwy.
Deigr Cadwaladr Fendigaid,
Dyred a dwg, dir dy daid:
Dyga ran, dy garenydd,
Dwg ni o'n rhwym, dygn yn rhydd.


ARAETH IOLO GOCH.

Cyfoeth Rhufawn Befr, fab Throthach Wledig, oedd Wynedd gynt; a chyfoeth Brochwel Ysgythrog oedd Bowys; a Macwy serchog-ddeddf[1] cystuddiawg, deuruddlas,a wnaed o gariad Rhiain Befr,[2] yr hon oedd i'w ladrad-garu. Rhiain ardderchawg ddisyml, barabl-groew, ruddell-drem, ddihurneidd-liw o ddihurneidd-lwyth, o adein-llwyth[3] Brochwel Ysgythrog; yr hon oedd yn rhagori o bryd a gosgedd, glendid a goleuni, rhwng y ddwy seren arbenig, nid amgen, yr Haul a'r Lleuad. Yr Haul sydd yn rhoi goleuni i bedwar ban y byd; nid amgen, Deheu, Dwyrain, Gogledd, a Gorllewin. Lle drwg oedd i ddyn arwain nych-glwyf o gariad ar yr unbenes;[4] canys ni allai ei dwyn o'i hanfodd, ni chai yntau hyhithau o'i bodd. Yno y cafas yn ei gynghor anfon ato ddiwyd-was synwyr-gall parabl-groew, ehud- aidd, a hudai yr adar gwylltion o'r diffaeth-goed anamlaf anial anaele; a rhagddo y cerddodd y gwas o'r bore hyd anterth; ac o anterth onid. oedd gyfuwch yr haul a blaen y gwŷdd; ac yno efe a welai Neuadd-gaer fawr fynor, a thyrau amlwg odidog-waith, a gwaith caer dlos arni; a rhagddo y daeth y gwas hyd y lle yr oedd yr unbenes fawr, uchel ei hystad, wedi ymgyfan- soddi mewn amrafaelion fain gwerthfawr, riwbi, perl, a saphir; mewn godidogwaith, neu wisg o bali didol-waith;[5] yn gwneuthur sidanwaith o aur a sindal.[6] Ac yna y dywawd y Gwas ei neges wrthi; "Henffych well heddyw, o dda ac o ddyn,[7] arglwyddes y tegwch, gogwyddor y digrifwch, meistress y goludoedd, ymherodres y rhianedd; y mae Macwy serchowg-ddoeth cystudd-liw, deurudd-las, o gowaeth Rhufawn Befr, yn nychu o'th gariad di. Mae dy gynghor di, foneddigeidd-ferch, wrth hyny?"

"O was," ebr y ferch, "hwyl ddisyfyd yw.hono; minnau sydd a chenedl feilchion, a chynghorwyr doethion ym'; a phan gaffwyf fi y rheiny i gyd yn nghyd, ti a gei atteb."

"Fy Arglwyddes," ebr y gwas, "Pa bryd y bydd hyny?"

"Pan fo can rhydded i Goch y Sebon ordderchu gwraig William ab Iolo, ag y bu i Uthr Bendragon ordderchu Eigyr, gwraig Gwrlais, Iarll Cernyw."

"Arglwyddes," ebr y gwas, "pa bryd y bydd hyny?"

"Pan fo cyhyd braich Gomach Grythor a braich Caswallon Law hir, y gwr a gyrhaeddai y maen oddiar y llawr i lladd y frân, heb ostwng mo'i gefn; canys cyhyd oedd ei fraich ag ei ystlys hyd y llawr."

"Arglwyddes," ebr y gwas, "pa bryd y bydd hyny?"

"Pan fo cystal Gwalldwr Monigrach o Faelor âg Absalom ab Dafydd Brophwyd; yr hwn y rhoai merched yr India naw talent o aur trathawdd am un blewyn o wallt ei ben, i wneuthur gwaith ac anrhydedd yn ei gylch."

"Arglwyddes," ebr y gwas, "pa bryd y bydd hyny?"

"Pan fo cystal gafael Ateyn Grupl o'r Eryri a Glewlwyd Gafaelfawr, y gwr a dderchafodd y pair i lawr oddiar y tan yn ei un llaw yn llys Taran Tair Ynys Brydain, a chig llen saith ychain ynddo yn ferwedig."

"Arglwyddes," ebr y gwas, "pa bryd y bydd hyny?"

"Pan fo cystal gwely Madog Hir-gig ar adlaw llyn Gwrth yn Rhossyr, yn Môn, a Math mab Mathonwy, y gwr ni chysgai ond a'i draed yn mloneg morwyn ifanc; ac ni's deffröai oni's cyffroai rhyfel."

"Arglwyddes," ebr y gwas, "pa bryd y bydd hyny?"

"Pan fo cystal saethydd Deicyn Ddiffrwyth[8] o Wynedd, a Mydr ab Mydrydd, y gwr a fedrodd daro 'r dryw, drwy ewyn ei ddwy goes, o Gaenog yn Nyffryn Clwyd, hyd yn Esgair Oerfel yn Iwerddon."

"Arglwyddes," ebr y gwas, "pa bryd y bydd hyny?"

"Pan fo cystal Pedestr Ffwg, Sodlau Segur, o Fon, i redeg, ag Edeyrn ab Gwyddno Garanhir,[9] y gwr a aeth i gyfredeg a'r gwynt pan ddaeth dirfawr lynges i ddwyn gwraig Phin ab Coel i drais."[10]

"Arglwyddes," ebr y gwas, "pa bryd y bydd hyny?"

"Pan fo cystal ieithydd Dafydd Bach ab Madoc Wladaidd ar adlif Llyn Gwerth, yn

  1. "Serchawg ddoeth," mewn hen ysgrif-lyfr arall, tra oedranus.
  2. O "gowaeth Rhuawn Befr."
  3. Nid yw yr "adein llwyth" mewn rhai hen ysgrifau.
  4. Neu, "Lle drwg yr oedd yr unben yn rhoi ei gariad ar yr unbenes,"
  5. "Di dylawd-waith."
  6. Neu, "Yn gwneuthur gwaith o aur a sidan."
  7. —"O Dduw, ac o ddyn."
  8. "Deicyn Feddw."
  9. Neu, "Pan fo cystal Pedestr Sodlau Segur, o Fon, i redeg, ag Eudrym ap Gwyddno ap Garanig," &c.
  10. Neu, "I ddwyn gwraig Elphin ab Coel i drais."