Edeyrnion, âg Uriel Wastadiaith, y gwr ni chlybu iaith â'i glustiau na's traethai a'i dafod can gyflymed ag ei clywai."
"Arglwyddes," ebr y gwas, "pa bryd y bydd hyny?"
"Pan fo can decced pryd Ystyffan y Brain a Sandde bryd Angel, y gwr a ddïengys o'r Gad Gamlan rhag ei deced; canys ni röai neb arf arno, gan dybied mai angel adeiniog o'r nef oedd."
"Arglwyddes," ebr y gwas, "pa bryd y bydd hyny?"
"Pan fo can hacred Madog Gloddaeth a Morfran ab Tegid, y gwr a ddïengys o'r Gad Gamlan rhag ei hacred, gan dybied o bawb pan ei gwelynt, mai cythraul o uffern oedd."
"Arglwyddes," ebr y gwas, "pa bryd y bydd hyny?"
"Pan fo cystal tremyn Bleiddyn Rabi, a Thremydd ab Tremidydd, y gwr a ganfyddai draian y gwybedyn yn mhelydr yr haul yn mhedwar ban byd.
"Arglwyddes," ebr y gwas, "pa bryd y bydd hyny?"
"Pan fo cystal clustiau Deicyn Fyddar, o Fachynlleth, a chlustiau Clustfain ab Clustfein- wr, y gwr a glywai drwst y gwlithyn yn syrthio fis Mehefin, pan syrthiai oddiar y gawnen y mhedwar ban byd.
"Arglwyddes," ebr y gwas, "pa bryd fydd hyny?"
"Pan fo can ddiweiried Gonerus o Ruthin, a Gwenfrewi, yr hon a oddefodd dorri ei phen rhag bod iddi achos unwaith â gwr; a'r llall ni wasanaethai iddi lai na chan-wr bob dydd."
"Arglwyddes," ebr y gwas, "pa bryd fydi hyny?"
"Pan fo can deced ol troed Dwgan Ddugloff yn cerdded tomenydd y Bala, âg Olwen ferch Ysbyddaden Bencawr, yr hon y tyfai pedair Meillionen gwynion yn ol ei throed pa le bynag y cerddai. Ac felly y daeth y gwas a'r attebion yma at y Macwy serchawg-ddoeth deuruddlas, o gowaeth Rhufawn Befr, ei feistr.
Y FENYW DWYLLEDIG.
CHWEDL GYMREIG. GAN GWALCHMAI.
Pan y gwyro merch at wagedd,
Gwel mor llawn yw 'r byd o frad;
Deall hyny'n rhy ddiweddar
A'i hysbeilia o'i fwynhad.
Pa ryw degwch leddfa 'r gofid,
Oes a olcha 'r euog fraw?
Dyna wers i'r anmhrofiadol,
Rhag y maglau'i gadw draw!—Goldsmith.
Yn nghanol Deheubarth Cymru, yn nghymydogaeth pentref Llangadog, y mae cwm prydferth, a adwaenir wrth yr enw Careg Sawddwy.[1] Y mae y lle yn cael ei gylchynu ar bob llaw, a bryniau; rhai o honynt yn ymgodi yn dra phen uchel, gan sythu eu cribau i'r cymylau, ac yn teyrnasu yn eofn uwch ben y fro; tra y mae yno eraill yn esgyn yn raddol ac esmwyth ar i fynu, ac i'w canfod o bellder ffordd, fel yn uno y mawreddig a'r gwylaidd, y gwrol a'r tyner yn nghyd; a'r cyfan mewn ymddangosiad swynol iawn. Y mae yr afon Sawddwy yn ymddolenu ynddo yn dawel mewn rhai mannau, ac yn rhuthro drwyddo yn chwern ofnadwy mewn mannau eraill; ac y mae yn cael ei chroesi â phont goed, o'r gwneuthuriad mwyaf gwledig, a diaddurn; ac eto y mae yn ychwanegu yn eff eithiol at brydferthwch golygfa y wlad. Fel mai math o foneddwr lled ddiofal-heb fod o nemawr les i'r byd ydwyf fi, unig wrthddrych fy hoffder yw natur; ni byddaf byth yn cael digon o'i mawrhau, ac a chyfaddef y gwir, hi yw fy nuw, ac yn nheml hon y dymunwn addoli. Mi a dreuliais fynydau hoffaf fy ieuengetid, mewn ymgrwydro i ymddifyru yma a thraw; ac hyd yn oed yn awr, wedi cyrhaedd i oedran pwyll a phrofiad, gallaf freuddwydio ymaith lawer awr ddifyrus ar lannau dysglaer ddyfroedd y Sawddwy. Eto, er hyn i gyd, y mae ychydig o adgofion chwerwon yn dyfod weithiau ar draws fy meddwl, megis er fy ngwaethaf, nad allaf eu cadw draw, ag sydd yn dwyn aml ochenaid ddystaw o'm mynwes; y rhai y buasai yn well, ond odid, eu bod wedi eu claddu mewn ebargofiant i gyd: ond pan yr edrychwyf mewn myfyrdod, megis ar awel baradwysaidd y tangnefedd sydd yn teyrnasu o'm hamgylch, y mae fy meddwl yn ymollwng yn naturiol i ddedwyddwch a mwynhad; y mae tawelwch hyfryd natur yn cymeryd meddiant o'm holl deimladau; a'm calon yn cael ei dwyn i hwyl hyfrydwch; ac felly gyda chryn foddhad y byddaf yn gweled, er fod gwynfyd wedi cymeryd ei adenydd ymaith, fod ei wir ddelw yn aros eto yn ol.
Yn nghanol Careg Sawddwy, yn gyfagos i dŷ addoliad, yr hwn oedd yn gyrchfa hoff trigolion yr holl gymydogaeth, safai bwthyn, yn
- ↑ Sawddwy, a ysgrifenir weithiau Sawthey, sydd afon yn swydd Gaerfyrddin, yn codi yn y parth deheuol o'r Mynydd Du; yn agos i derfynau Brycheiniog; ac yn rhedeg tung un filltir ar ddeg gorllewin dde orllewinol i'r Teifi, gerllaw Llangadog.