gwaed, ac yn dyrysu pob adystyriaeth a feddai. A oes un angen am adrodd y canlyniad? Gorchfygodd cariad bob gwrthwynebiad; a'r eneth druan felly, gan ymollwng gyda grym arduedd naturiol, a warthnodwyd yn ol deddfau moesol cymdeithas, i waelodion dirmyg a gwae?
Pan y byddo gwylder unwaith wedi ei ddarostwng, y mae annibyniaeth a hunan barch y meddwl yn colli; a thyngedwyd Rhos Aelau felly i ddyoddef y canlyniad. Yr oedd ei thad wedi sylwi ar y cyfnewydiad graddol a gymerai le yn ei chymeriad, gyda'r pryder mwyaf; ac fel yr oedd yn canfod y dysglaerdeb yn colli o'i llygaid, a'r gwrid yn cilio o'i grudd, ymddiriedodd ei bryder i Mortimer, a cham gymerodd arwyddion enöadau cydwybod am amlygiadau gormodedd teimlad a serch. Ond yr oedd yr amser ar hyn, yn cyflym neshau, pan y byddai raid iddo ef ddychwelyd at ei ddyledswyddau milwraidd. Yr oedd rhyfel yn cael ei ddysgwyl yn feunyddiol i dori allan rhyngom a'r Cyfandir; ac yr oedd yspryd tanllyd gwlad-garwch, oedd wedi bod yn hir orwedd yn llonydd, yn awr yn dechreu cyffroi gyda'i yni arferol. Ymdrechodd, gan hyny, ond yn ofer, am gael golwg ar ei feistres, ac wedi addaw dychwelyd yn fuan, prysurodd ymaith at ei orchwylion. swyddogol, y rhai oeddynt erbyn hyn wedi cael eu hesgeuluso yn hir.
Gwedi ymadawiad Mortimer, rhoddai Rhos Aelau i fynu bob gorchwyl hoffus oedd ganddi o'r blaen, gyd ag ochenaid drist. Yr oedd y golygfeydd a fuasant gynt yn hyfrydwch iddi, yn awr wedi dyfod yn ddiflas yn ei golwg; ac yr oedd hi yn cael ei phoenydio gan bob adgofion am ei heuogrwydd blaenorol, fel y derbyniodd hi y cynnygiad am ymweliad â Lloegr yn llawen. Yr oedd holl amgylchiadau yr ymadawiad yn effeithiol i'r eithaf; yr eneth dwymgalon a gusanai ei thad filwaith drosodd, tra y bu hi a'i breichiau am ei wddf: "Ffarwel," ebai hi, gyda llais galarus, "a phe na byddai i ni byth gyfarfod eto, bydded fod pob peth a ellwch gofio am Ros Aelau yn anwyl yn eich golwg. Yr wyf fi yn wir, fel pe byddwn yn teimlo rhyw rag-syniad ynof, ag sydd yn awgrymu fod yr ymadawiad hwn i fod yn derfynol a thragwyddol, ac na bydd i ddyffryn Careg Sawddwy gyfarch fy llygaid i byth mwy." Cymerai afael yn llaw ei brawd, yr hwn oedd i'w chanlyn ar y daith, ac yna hi a brysurodd ei chamrau i'r cerbyd. Fel yr oedd yr hen olygfeydd a hoffai mor fawr, yn ymgolli yn raddol yn y pellder, yr oedd yr ystyriaeth o'i hanffawd yn cynnyddu; a phan nad allai ganfod y mynyddau ddim yn hwy, y rhai a ddringasai gynnifer o weithiau gyda Mortimer, hi a suddodd mewn math o anobaith, yn yr hwn y parhai hyd oni chyrhaeddodd i dy Madame S., un o'i pherthynasau.
Ar ol gweled ei chwaer wedi cyrhaedd Reading yn ddiogel, trodd ei brawd Eugan, am y cartref i Gareg Sawddwy, i gysuro yspryd ymollyngar ei dad. Ymddangosai Rhos Aelau yn y cyfamser, drwy ddylanwad yr olwg a ga'i ar wychder y dref, a'r amrywiaeth gwrthddrychau ar bob llaw, fel wedi cael adferiad i'w hyspryd, ac adnewyddiad i'w natur. Ymdrechai i arddangos llawenydd tymer, yr hwn oedd ddyeithr i'w theimlad mewn gwirionedd, gan ddysgwyl rhyw newydd cysurol oddiwrth Mortimer, ac ymhyfrydu yn y meddwl am eu hundeb a'u gilydd. Eto, er hyn i gyd, ar ambell waith, pan y meddyliai am ei darostyngiad, a'i ganlyniadau andwyol yn ol pob tebygrwydd, rhuthrai gofidiau enogrwydd dros ei meddwl, nes ei gyru i ymylon anobaith.
Nid oedd ei pherthynasau, y rhai oeddynt yn rhy hoff o rwysg y byd, a gwychder cymdeithas, yn nemawr o gwmni iddi hi, tra yr oedd ei chyfnither yn denu sylw y lluaws yn mhob. man. Fel yr oedd hynodrwydd yr olygfa yn gwisgo ymaith, yr oedd trueni Rhos Aelau yn cynnyddu; a phan y gwelai Madame S., nad oedd hi o unrhyw wasanaeth yno fel cyfeilles, nac mewn cymdeithas, hi a amlygai arwyddion o anfoddogrwydd, ag a ddaeth cyn hir yn gwbl ddi sylw o honi. Ac wrth weled hyny yn mhellach, trodd hithau at ei llyfrau a'i thelyn; a thra y byddai yn lled-seinio alawon lleddf ei hieuengctyd, ymgodai ei meddwl i raddau at ei bywiogrwydd naturiol gynt.
Gall mab deimlo syniad cariad, yn holl nerth ei ysprydoliaeth, ond merch yn unig a all ei dderbyn yn ei holl nodweddau tyner, ac ymwrthod â thwyll gwrthddrych ei handwyad, ac ar yr un pryd, guddio y teimlad hwnw à mantell gwylder. Felly yr oedd ansawdd pethau yn yr amgylchiad hwn gyda Rhos Aelau; yn mhob meddwl, pob gweithred, a phob ymsyniad a feddai ei holl natur, yr oedd hi yn teimlo y serchawgrwydd hwnw sydd yn ymblethu am enaid a bywyd; ond eto yr oedd hi yn dal allan ymddangosiad o ddifaterwch, yn ymylu ar fath o ddedwyddwch. Ond yr oedd ei hymdrechiadau bwriadol yn barhaus, iguddio y trallod oedd yn chwerwi ei holl fodolaeth, yn diweddu yn gwbl ofer, o blegid fod ei nerth corphorol yn gwanhau; ac yr oedd llesgedd a gwywdra yn gwisgo ei gwynebpryd, oedd yn dangos yn eglur ei bod yn curio i nychdod. Yr oedd wythnosau a misoedd felly yn treiglo yn mlaen, gan ei gadael hi yn ddeiliad trwmfrydedd anfeddyginiaethol. Yr oedd yn ddigon amlwg i bawb, ei bod mewn gwendid angeuol. Yr oedd ei darfodedigaeth mor gyflym, ac mewn cysylltiad â thynerwch