oedd yn ei hafiechyd, yn ei harwain at y beddrod, fel yr ymddangosai yn aml, megis ar ymollwng i gofleidio angau baban a fyddai yn cael ei suo i huno ar fynwes ei fam.
Fel yr oedd hi yn chwareu ar y delyn un prydnhawn, deuai Madame S., i mewn i'r ystafell yn annysgwyliadwy, "Yr wyf fi wedi dyfod yma," ebe hi, "i beri i chwi brysuro gyda mi i'r ddawns-ystafell; y mae fy ngwr gyda rhyw orchwyl na all ei adael yn awr, a chwi a wyddoch nad allaf fi fyned yno fy hunan, yn unig." Gwelai Rhos Aelau yn union mai ofer fyddai ceisio ei gwrthwynebu, nac eiriol am gael ei hesgusodi, tra yr oedd hi wedi penderfynu myned; er mor ofidus i'w theimladau oedd myned o gwbl i'r lle; ond hi a aeth yn fuan yn nghwmni ei chyfnither hawddgar am y fan. Nid hir y bu ei phrydferthwch heb enill iddi ddigon o gyfeillion yno, ac yr oedd edmygwyr ei hysgogiadau yn lluosawg o'i hamgylch. Tra y talai ychydig o sylw i'r ganmoliaeth dros ben pob mesur oedd yn cael ei roddi i brydferthwch ei pherson, disgynai enw Mortimer yn lled anhyglyw ar ei chlust. Gwrandawai gyda chyffroad pryderus ar y crybwylliad a wnaed am yr enw anffodus hwnw; a chlywai yr ymddiddan canlynol, oedd yn lled ddystaw, rhwng dau swyddwr milwraidd oedd gerllaw i'w phenelin. "Helynt ynfyd ydyw, Ned; ac yn wir ni wn i yn y byd pa fodd y gall Mortimer fyned yn rhydd o'r maglau. Ni fu i mi, mae'n wir, gael yr hanes am y garwriaeth o'i enau ef ei hun; ond un o'i gyfeillion mwyaf ymddiriedol ef a ddarganfyddodd y peth, ac a'i mynegodd i mi. Y mae efe yn awr yn y fyddin, ar y cyfandir, wedi ei hollol syfrdanu i angau, drwy goffadwriaeth am yr eneth a ddarostyngodd." "A welsoch chwi hi erioed?" "Naddo," ebai y llall, "ond yr wyf wedi clywed, gan dremio a'i lygaid treiddgar ar Ros Aelau, ei bod hi rywfodd yn debyg iawn i'r foneddiges hon." "Os felly," oedd yr atebiad, "buaswn i yn tueddu i addef euogrwydd fy hun. Ond pa fodd y teimla ei ddyweddi fwriadol yn wyneb anffyddlondeb y fath wr?" "Gwr! Beth, a ydyw ef wedi priodi?" "Priodi," ebai Rhos Aelau, mewn llais o dôn, a gyffroes yr holl gymdeithas—"y nefoedd anwyl! a ydyw ef wedi priodi ?" a chyda gwedd o drallod annarluniadwy, hi a ymollyngodd yn ddideimlad ar y llawr. Prysurodd ei chyfnither i'w chynnorthwyo; cymhwyswyd pob cyffuriau a ellid gael at ei hadferiad; ond yn gwbl ofer; a chludwyd yr eneth yn ei llewyg adref. Ar ei hadferiad i raddau o'i dyryswch meddwl, gwelai ei hun yn cael ei chylchynu gan Madame S., a'i morwynion; ac wedi hysbysu iddi amgylchiadau ei gwaeledd, dymunai arnynt beidio holi am unrhyw eglurhad, gan fod yr holl gyfrinach i gael ei gadw yn ddirgel fel mater bywyd. Taflodd cyffroad ei meddwl, gyda'r ymwybodolrwydd o'i chyfyngder agosaol, hi i'r un dyryswch synwyrau yn ol, yr hyn a barhaodd yn lled faith; ac wedi i'r dwymyn lareiddio ychydig, rhoddodd yr eneth annedwydd enedigaeth i fab. Nid oedd yno yr un fendith tad, gofal caredig mawr, na chydymdeimlad cyfeillion, i chwyddo y llawenydd am eni dyn i'r byd; yr oedd wedi ei genedlu mewn dirmyg, ei groesawu gan warth, ac yn cael edrych arno gyda dygasedd, a gŵg.
Taenwyd yr hanes yn fuan drwy y teulu, ac fel yr oedd Meistr S. yn fwy gofalus am ei gymeriad ei hun, nac oedd o bryderus am ddyogelwch yr eneth egwan, ymosododd arni, tra y gorweddai yn ddiamddiffyn yn ei dagrau yn y gwely, gyda y teimladau mwyaf rhwygedig. Yr oedd ei gwarth hi wedi aflonyddu ei heddwch ef—nid yn gymaint o blegid yr effaith oedd yn ei gynnyrchu ar y dyoddefydd, ag am y dirmyg oedd yn ei ddwyn ar ei pherthynasau. Fel yr oedd efe mor ochelgar am ei amgylchiadau ei hun, efe a orchymynodd yn benodol i'r holl deulu ar fod iddynt gadw yr holl hanes yn berffaith ddirgel, a thrwy gryn ymdrech y gallodd ymatal rhag troi Rhos Aelau, yn llesg a diamddiffyn, fel yr ydoedd, allan i'r heol. Yr unig forwyn yn perthyn i'r teulu, a oddefid y pryd hwnw i weini ar y druanes yn ei gwendid, oedd un hen wraig, yn ngwyneb yr hon y gallesid yn wastadol ddarllen arwyddion o ddichell a chyfrwysdra; yr hon a'i poenydiai bob dydd a'r edliwiadau mwyaf creulon ac ysgeler.
Deffrowyd hi o gwsg un boreu, gan ddyfodiad annysgwyliadwy Meistr S. a'i wraig i'r ystafell. "Ddynes," meddai ef, gyda golwg digllon, "yr ydych wedi dystrywio ffrwyth eich gwarth; y mae y plentyn ar goll er doe, ac yr ydych chwi yn cael eich drwg-dybio gan holl deulu y ty." "Yr wyf fi yn ddiniwaid, yn wir yr wyf fi yn ddiniwaid," meddai Rhos Aelau. "O Edward, anwylaf Edward! yn enw y dyddian dedwydd a dreuliasom yn nghyd, ac er mwyn y fodrwy agos o berthynas sydd yn ein cysylltu yn nghyd, yr wyf fi yn erfyn arnoch ddychwelyd fy mhlentyn; er ei fod yn gennadwr fy ngwarthrudd, ni allaf byth fyw ar ol ei farwolaeth." "Nid wyf fi yn credu eich haeriadau," meddai ei charenydd calon galed; ac y mae amgylchiadau eich euogrwydd neu eich diniweidrwydd i gael eu dwyn i brawf eto:—deuwch gyda mi "Emma," meddai ef wrth ei wraig, yr hon oedd. yn aros ac yn ymdroi wrth y drws; ni chewch chwi ddal unrhyw gysylltiad âg euogrwydd, tra y gallaf fi ei atal." Gyda'r geiriau hyn, cymerai Madame S. yn ei fraich, a chan ei chilgwthio yn arw at y drws, efe a gauodd ddor yr