Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ceinion Llenyddiaeth Cymreig Cyf I.djvu/46

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ystafell. Daeth y cyhuddiad annysgwyliadwy hwn âg afiechyd ychwanegol arni; ac er fod un achos o'i hanesmwythder wedi cael ei symud ymaith, yn absenoldeb yr hen wraig oedd wedi bod yn gweini arni hyd yn hyn; clybuwyd h droiau, gan eraill oedd yn gwasanaethu yno rhwng adegau ei dyryswch, yn cydnabod ma hi ei hun oedd wedi dinystrio y plentyn. Yı oedd y fath addefiadau o euogrwydd, ag oedd yn cael ei fynegi yn aml ganddi, wedi gadael argraff ar ddychymyg gwan y morwynion, fel y tybient ei fod yn fath o gyfaddefiad o'r ffaith; ac ni phetrusent ddim yn hwy, heb ei gwarthruddo fel y llofrudd. Pa fodd bynag, dyoddefodd Rhos Aelau eu hedliwiadau gyda thawelwch; teimlai nad oedd ganddi hir amser i fyw, a dymunai farw mewn perffaith gariad â phawb.

Pan y daeth yu alluog i adael yr ystafell, yr oedd yr hanes wedi cael ei thaenu yn lled helaeth ar hyd a lled y wlad; ac wedi i'r cyfan gyrhaedd clustiau swyddogion cyfiawnder, barnwyd yn briodol, ar fod i holl amgylchiadau colli y plentyn, gael eu dwyn dan ymchwiliad cyfreithiol; ac yr oedd pob tystiolaeth a roddai y teulu, yn ymddangos mor gadarn ac eglur, fel y cafodd y fam ei charcharu am fwrddrad gwirfoddol ei mab. Yn y sefyllfa hon, o hollol amddifadrwydd, heb un cyfaill i'w chysuro, nac un galon i alaru o blegid ei diwedd, ymdrechodd yr eneth annedwydd i ddyhuddo oriau ei thrueni, drwy wneud apeliad teimladol at y twyllwr. "Nid wyf fi yn bwriadu, Mortimer," meddai hi, "eich cyhuddo chwi o fod yn achos o fy ninystr; nac i'r llythyr hwn, y diweddaf a dderbyniwch, fod yn ddim amgen na datganiad o'm maddeuant i chwi; yn nghyd ag i erfyn arnoch, o barch i'm coffadwriaeth, wneud eich goreu tu ag at ddarganfod ein plentyn, yr hwn sydd yn awr ar goll. Os byth y deuir o hyd iddo, byddwch yn garedig tu ag ato, pan y byddwyf fi wedi myned i ffordd yr holl ddaear; o blegid nad oes iddo ef yn awr, yr un ymgeleddwr ond y chwi; ac os bydd i'w wenau anwyl ef, alw i'ch cof, rywbeth am ddelw Rhos Aelau, yn nyddiau dedwyddaf ei diniweidrwydd, dysgwch iddo weithiau sibrwd ei henw, ac aros ychydig ar ei hadgofion gyda dymunoldeb serchus.

"Dangoswch iddo y lleoedd neillduedig a hoffwn, a phan y byddo iddo, gyda ffyddlondeb mabawl, ddringo ar lin ei dad, gweddiwch ar iddo gael bod yn ddedwyddach na'i fam. Ac am fy nhad hefyd,—ar iddo fod yn fab iddo yn ei hen ddyddiau; ac yn mysg llwyni coed Careg Sawddwy, i siarad rhywbeth wrtho am ei blentyn. Ond dywedwch wrtho am beidio wylo—dywedwch wrtho ein bod ni wedi ein gwahanu, i gael ein huno eto, mewn gwlad lle y 'paid y drygionus a'u cyffro, ac y caiff y lluddedig orphwys' mewn hedd. Am danaf fy hun, yr wyf fi yn marw, Mortimer; ond am danoch chwi! O! bydded i chwi fod yn ddedwydd, pan y byddo y galon a'ch carai wedi oeri; a phan na byddo dim yn aros o Ros Aelau, ond coffad wriaeth am ei dyoddefiadau! Ond ni allaf fi ddywedyd dim yn ychwaneg: y mae awrlais y carchar newydd daro haner nos; ac fel mai y fory sydd wedi ei benodi i fod yn ddiwrnod fy mhrawf, rhaid i mi gyflwyno fy nyhewyd olaf i'm Creawdwr, yn ngwyddfod yr hwn yr ydwyf i ymddangos mor fuan. Ffarwel!

{[bwlch

"RHOS AELAU.}}

"O fy naeargell, yn Reading."

Y boreu dranoeth, yr oedd rhygniad cadwyni, a chyffro anarferol y carchar, yn mynegi symud iad y carcharorion am eu prawf. Yr oedd y swn yn taro fel cloch angau ar deimladau trist yr un a gaethiwid, a phrin y gallai hi gynullei hystyriaethau duwiolfrydig yn nghyd, i gyfeirio at orsedd ei Duw. Mewn mynyd neu ddau, clywai golynau dôr ei charchargell yn rhygnu yn araf i agoryd, a dyma geidwad y carchar i mewn, gan arwain gydag ef ddyn, wedi ymwisgo yn hollol er ei guddio ei hun. Ar ymadawiad llywydd y carchar, taflai y gwr dyeithr ymaith bob gwisgoedd ymguddiol, ac amlygodd ei hun fel ei thad. Yr oedd yr ymweliad yn dra difrifol ac effeithiol; ni ddygai y rhiant ddim edliwiad ger bron; ac ni atebwyd drwy ocheneidiau calon orlwythog ei ferch; ond parasant yn ymgofleidiad breichiau eu gilydd, hyd oni ddaeth y swyddwr eilwaith i'r ddaeargell. "Yr ydwyf fi wedi dyfod yma i'ch arwain chwi i'ch prawf," meddai ef, "y mae y carcharorion eraill wedi eu condemnio, ac yn awr, y mae eich tro chwithau i gael eich holi." Gyda chryn anhawsder y gallodd ef ryddhau y ferch o freichiau ei thad. "Deuwch, deuwch," ebe fe, gan guddio deigr a ddiangai yn ddystaw o'i lygaid, "y mae yn ofer i chwi wylo fy ngeneth druan, os ydych yn ddiniwaid, daw y ffaith yn fuan i'r golwg, a bydd y pryd hwnw ddigon o amser i chwi fynegi eich hanes." Dilynwyd y symudiad hwn, a llewyg, yn mha un y collai arni ei hun yn hir, ac wedi iddi gael adferiad i raddau, gwelai Rhos Aelau ei bod yn pwyso ar fynwes ei thad mewn 11ŷs barn. Pan y darllenwyd y cyhuddiad, teimlai yr holl dorf oedd yn bresenol fath o ddychryn arswydfawr yn eu meddiannu; ond pan welsant y dyoddefydd addfwyn, yn plygu fel lili dyner dan erwindeb y dymestl, daeth argyhoeddiad o'i dieuogrwydd i lanw eu mynwesau oll. Pa fodd bynag, aeth y prawf rhagddo, a dygid dan sylw difrifol, golliad sydyn y plentyn, addefiadau mynych y garcharores, a thystiolaeth unedig y rhai a wasanaethent yn y teulu, yn ol y ffeithiau