gofynol i gael eu profi. Pan yr oedd holiad y tystion ar bob ochr wedi dybenu, gofynodd y barnwr i Ros Aelau, pa beth oedd ganddi hi i'w ddywedyd, mewn ffordd o amddiffyniad iddi ei hun. Yr oedd y dorf oll yn bryderus iawn yn dysgwyl am yr atebiad; ac yn gobeithio y dygid rhyw ddadl yn mlaen, a dueddai i leihau echryslonrwydd y gosp. Hi a edrychodd i fynu am foment, ac mewn llais isel, tyner, a'i llaw yn gwasgu yn ddwys ar ei chalon, hi a ardystiodd ei diniweidrwydd, eilwaith, a thrachefn, oddiwrth y trosedd yn gwbl oll. Nid oedd y gwadiad hwn, er hyny, yn dwyn ger bron un math o brawf, a bu orfod ar y barnwr ymwisgo â'r arwyddion arferol wrth weinyddu cyfiawnder, ac i gyhoeddi cosp marwolaeth. Disgynodd math o arswyd echrydus ar bawb y pryd hwn; yr oedd pob calon, a phob llygaid wedi eu sefydlu ar y druanes, dan yr amgylchiad ofnadwy; ac nid oedd yno ond ychydig o ocheneidiau y rhai na allent guddio eu cydymdeimlad, i dori y gosteg cyffredinol ar y pryd.
Yn yr adeg hon, clywid trwst uchel yn mhen eithaf ystafell y llŷs; ymwahanodd y dorf ar y naill ochr a'r llall; a dyma wraig yn ymddangos, gan ddwyn yn ei breichiau faban tua mis oed. "A ellwch chwi faddeu i mi, Madam," ebe hi, gan droi at Ros Aelau, yr hon a adwaenodd y wraig yn union, fel yr un a fuasai yn ei sarhau mor fynych yn ei thrallod. "Myfi a fum yn euog; ond os oes rhyw iawn a ellid ei roddi o blegid y trosedd, wele fi yma yn awr, yn wirfoddol yn ei gynyg." Ac yna trodd at yr ynad, a dywedodd, "y mae Meistresan Foeswyn, fy arglwydd, yn ddieuog; dyma y plentyn a dybid ei fod wedi cael ei lofruddio, ond a guddiais i, ar ddymuniad arbenig Meistr S. Myfi a anturiais ei guddio. Ond er y pryd hwnw hyd yn awr, ni chefais i fynyd o ddedwyddwch; ac nid wyf yn dysgwyl llonyddwch hyd nes y byddo y gosp ddyledus wedi ei gweinyddu am fy nhrosedd." Dystawodd ar hyn-ond ni allai yr holl lŷs ymatal heb ddatgan llawenydd a gorfoledd. Yr oedd y floedd! "y mae hi yn ddiniwaid—y mae hi yn ddiniwaid," i'w chlywed yn adseinio drwy yr holl 1ŷs, a phrin y gallai swyddogion y gyfraith atal llef hyfrydwch y bobl. "Rhos Aelau," meddai De Foeswyn, wedi i orfoledd ei galon gymedroli ychydig, "edrychwch i fynu, fy mhlentyn i, yr ydych chwi yn ddiniwaid, bendithiwch eich tad gan hyny, âg un o'ch gwenau, a byddwn eto yn ddedwydd, ar ol hyn oll." Edrychodd Rhos Aelau i fynu, a chyd âg amlygiad o dynerwch annarluniadwy, gwasgodd ei gwefus oedd gan oered a'r iâ, ar law ei thad, ac yna gwnaeth ei hymdrech olaf, ei hegni angeuol, i gofleidio ei baban bach, yr hwn oedd megis yn estyn ei freichiau eiddil, tyner, tu ag ati; ac yna plygodd ei phen glân, a suddodd yn farwol, wedi tori ei chalon, ar fynwes ei hanwyl dad. Ni allai yr henafgwr ddywedyd dim; yr oedd ei enaid wedi ei orlenwi gan deimlad, a natur bron ag ymrwygo; cododd ei lygaid clwyfus i'r nef, a chludwyd ef ymaith, mewn dideimladrwydd o'r llys. Fel nad allai ymgynal gyda'r olwg ar Loegr, wedi anffawd ei ferch, gadawodd y wlad yn fuan, a dychwelodd yn nghwmni ei ŵyr bach, unwaith yn ychwaneg, i'w fwthyn hawddgaraf, yn Nghareg Sawddwy.
Darfu i Mortimer yn y cyfamser, er ei fod wedi ymddyrysu mewn trallod a gofid, ac o'r braidd yn ymyl anobaith, ac heb wybod dim am farwolaeth gwrthddrych ei dwyll-hudoliaeth, gymeryd y cyfle cyntaf a gaffai i adael gwlad y rhyfel, a chyfeirio am gartrefle mwy heddychol ei anwylyd. Cyrhaeddodd y bwthyn ar brydnhawn hyfryd yn mis Gorphenaf, y fan lle y treuliasai lawer diwrnod gyda y fath hyfrydwch. Yr oedd y lle yn wâg; yr oedd yr ardd daclus, oedd mor fynych wedi denu cymaint o'i edmygedd; wedi ei gorchuddio â chwyn, ac yr oedd pob peth yn dangos arwyddion o ddirywiad. Wedi dwys ryfeddu at yr olwg anghyfaneddol oedd yn ei gylchynu ar bob llaw, cymerodd ei gamrau, megis wrth reddf naturiol, am y blodeugell, a fuasai gynt yn olygfa ei ddedwyddwch a'i euogrwydd.
Fel yr elai rhagddo, gwelai hen wr yn eistedd wrth y fynedfa, yn edrych yn bryderus ar bortreiad prydferth Rhos Aelau, oedd yn addurno yr ystafell o fewn. Yr oedd y delyn a hoffai mor fawr unwaith, wedi ei gosod wrth y ffenestr, ac yr oedd yr awel fel y suai rhwng y tannau, yr rhoddi rhyw sain pruddglwyfus iawn ar y pryd. Daeth adgofion am a fu, i bwyso yn drwm iawn ar y boneddwr o Loegr, a rhoddodd ryw fath o ollyngiad i faich ei deimladau mewn ffrwd o ddagrau. Edrychodd o amgylch: gwelai y bont goed wledig, a groesasai lawer gwaith gyda Rhos Aelau; yr oedd yno fryn bychan wedi ei orchuddio à briallu, lle y buant yn cydeistedd echwydd hirddydd haf lawer tro, rhwng tywyll a goleu; ac yn y pellder, ymddyrchafai y bryniau glasdywyll, o'r man lle y mawr hoffai hi dremio ar olygfeydd swynol y cymydogaethau oll.
Fel yr oedd efe yr arsyllu dros y gwrthddrychau oedd yn adgofion dystaw am ddedwyddwch oedd. wedi gwywo ymaith, diangodd ochenaid, fel arwydd calon doredig, o'i fynwes. Wrth glywed y trwst oedd yn y lle, trodd De Foeswyn i edrych beth oedd yno, a chanfyddai awdwr ei drueni yn sefyll gerllaw iddo. "Ymaith, ddyn truenus!" meddai ef, "nid oes yma un cysegri euogrwydd; eto, gwell i chwi aros, er mwyn fy merch, gallaf faddeu i chwi; a bydded eich