Dywaid ym, diwyd Emyn
Dy hynt, ryw Ogleddwynt glyn?
Och ŵr! dos o Uwch Aeron
Yn glaer dêg, yn eglur don;
Nag aro di nag eiriach,
Nag ofna, er Bwa Bâch.
Cyhuddgwyn wenwyn weini,
Caeth yw'r wlad a'i maeth, i mi.
Noethid twyn, cyd nithid dail,
Ni'th dditia;[1] neb ni'th atail;
Na llu rhugl, na llaw Rhaglaw
Na llafn glâs, na Llif, na Gwlaw.
Ni'th ludd mâb mam, o ammwyll,
Ni'th lysg tân, ni'th lesga twyll;
Ni boddi, ni'th rybuddiwyd,
Nid a'i ynglŷn, diongl wyd;
Nid rhaid march buan danad,
Neu bont ar aber, na bad;
Ni'th ddeil swyddog, na theulu,
I'th ddydd nithwydd blaenwydd blu;
Ni'th wyl drem, noethwal dramawr,
I'th glyw mil, nŷth y gwlaw mawr!
Rhad Duw wyd, ar hyd daar
Rhuad blin doriad blaen dâr;
Noter[2] wybr, natur ebrwydd,
Neitiwr[3] gwiw, dros nawtir gwydd.
Sých natur creadur craff,
Seirniawg[4] wybr, siwrnai gobraff;
Seithydd ar foreuddydd frŷ,
Seithug[5] eisingrug[6] songry,[7]
Dryghin yn Mehefin môr,
Drythyllfab ar draethellfor.
Hyawdl leidr, hudol ydwyd,
Hauwr dyludwr dail, wyd;
Hyrddiwr breiniawl, chwalwr bryn
Wybrenwyllt, heli bronwyn
Hydoedd, y bŷd a hedy,
Hin y fron, bydd heno frŷ.
Gwae fi, ban roddais i serch,
Ar Forfydd, araf eur-serch!
Rhiain a'n gwnaeth, yn gaethwlad,
Rhed frŷ rh'od a thŷ ei thâd;
Cŵr y ddôr, par agori,
Cyn y dydd i'm cennad i;
A chais ffordd atti o chaid,
A chân, lais fy uchenaid.
Deui o'r sugnaw diwael,
Dywaid hyn i'm diwyd hael;
Er hŷd, yn y byd y bwyf,
Corrodyn,[8] cywir ydwyf.
Ys gwae, fy wyneb, hebddi,
Os gwir, nad anghywir hi,
Dôs frŷ, ti a weli Wen,
Dös obry, dewis wybren;
Dos at Forfydd, felen-llwyd;
Debre'n[9] iach, da wybren wyd.
CYWYDD I'R DEILDY.[10]
Y Llwyn Bedw, di annedwydd,
Lle da i aros lliw dydd;
Llwybr ewybr glaswybr glwyswiw,
Llen o ddail llathr, gwiail gwiw;
Lle cynes Iarlles eurllen,
Lle cyfiaith bronfraith ar bren;
Lle glwys bron, lle glâs y brig,
Lle deuddyn er llid Eiddig:
Llen gêl merch, a'i gordderch-was,
Llawn o glôd ydyw'r llwyn glâs:
Cwmpas o fedw a gedwir,
Conglau cadeiriau coed ir:
Cafas ryw geidwad adail,
I'r llen dêg, ar y llwyn dail:
Udfardd erioed mewn coedwig,
Ar lethr bron, ag ir lathr brig;
Pair glôd ar oror Parc glas
Parlwr o'r irddail purlas
Gwna ystafell, neu gelli,
Wyrydd o newydd i ni;
A glaslofft o fedw glwysliw,
A hundy, a gwely gwiw;
Lle daw meinwar o gariad,
I Dŷ dail, o waith Duw Dad.
Capel glwys-frig ni 'm digiai,
O goed mentyll, tefyll tai:
Dyhuddiant fŷdd y gwŷdd gwiw,
Di huddygl o dŷ heddyw;
Dinllaes eos adein-llwyd,
Llattai ddechrau Mai ym' wyd;
Bid nerth ar ael corberthi,
Gwna ddŷdd[11] rhwng Morfydd a mi.
CYWYDD MAI.
Duw gwyddiad,[12] mai da gweddai,
Dechrau mwynion gangau MAI.
Difalch, irgrys a dyfai
Dydd Calan, uwch marian MAI.
Di grinflaen goed, am hoedai,
Duw Mawr, ym' roes y Mai.
Dillyn Beirdd, am rhydwyllai,
Da fyd ym' oedd, dyfod Mai.
Harddwas têg a'm anrhegai,
Hywel ŵr mwyn, hael yw'r Mai;
Anfones ym' iawn Fwnai,[13]
Glâs defyll, mân wyngyll Mai.
Fflorin-goed[14] frig, ni'm digiai
Fflower de lis, a gwaith mis Mai:
Diongl rhag brâd y'm cadwai
Dan asgell, dail mantell Mai.
Llawn wyf o ddig, ni thrigai
Bath yw i mi, bŷth ym Mai.
Dofais ferch, a'm hannerchai,
Dyn gwâr mwyn, dan gaerau Mai.