Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ceinion Llenyddiaeth Cymreig Cyf I.djvu/52

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Tadmaeth Beirdd heirdd a'm harddai
Serchogion ym Mon, ym Mai.
Gelyn Eiddig a'i gwelai,
Gwyliwr ar serch merch, yw Mai.
Nid glâs gofron llon, llattai,[1]
Nid hirddydd am irwydd Mai:
Nid golas, ond mingelai
Bronwydd, a brig manwydd Mai:
Nid bernos, nid twrn siwrnai,
Nid heirdd Gweilch, mwyeilch, ond Mai;
Nid llon Eos, lle trosai,
Llafar, yw mân adar Mai:
Nid esgud nwyf a'm dysgai,
Nid mawr ogoniant ond Mai.
Paun Asgell-las, dinasdai,
Pa un o'r mil, pen yw'r Mai;
Pa un ddeil, a'i hadeiliai
Yn oed y mis, onid Mai
Magwyr laswerdd a'i magai,
Mygr[2] Irgyll mân, defyll Mai.
Pyllawg, gorau pe pellai
Y Gauaf;-mwyaf yw Mai:
Dêr, yw'r Gwanwyn ni'm dorai,
Eurgoeth ym, aur gywaeth Mai.
Dechrau Hâf, dilathr sathrai
Deigr mâd a di egr yw Mai.
Deilgyll, gwrdd-risgl, a'm gwisgai,
Da fŷd ym, yw dyfod Mai.
Duw ddoeth gadarn, a farnai,
A Mair, i gynnal y Mai.
Mynwn pes Duw a'i mynai
Pei deuddeng mis, f'ai Mis Mai.


CYWYDD Y DARAN.[3]

Mae gair i mi o gariad
Gael is dail, gwely o 'stâd;
A cherdd gan Fronfraith, a chôg,
A merch wen i'm erchwyniog.
Mynais ym' dâl am anhun,
Gael bod yn gywely bûn,
Dan lwyn, a dïen lannerch,
A dail Mai, rhwng dwylaw Merch.
Myn dŷn, pan oeddem ein dau,
Lawenaf ddŷn ael winau,
Taro a wnaeth, terwyn oedd,
Trŵst taran tros y tiroedd!
A ffrydiaw croywlaw creulawn,
A phoeri mellt yn ffrom iawn!
Gwylltio'r forwyn, fwyn feinwen,
Gwasgu a ffoi, gwisg ei phen:
Ffynu'n dêg, ffoen ninnau'n dau;
Ffoes hon, a fföais innau.
Duryn flam, y daran filwch,
Dug warwyfa[4]'n digrifwch;
Trwst enbyd tristyd i'r trwyn,
Trwst mawr yn tristâu morwyn!
Twrf a glyw pob tyrfa glau,
Tarw cryg, yn torri creigiau;
Taran a ddug trinoedd yn;
Trwst arfau tros y terfyn:
Tân amlwg, dwr tew'n ymladd,
Tân o lid, dwr tew'n ei ladd.
Clywais frŷ, ciliais o fraw,
Corlais lidcorn y cur-wlaw;
Mil fawr yn ymleferydd,
O gertweiniau'r sugnau sŷdd.
Braw a ddisgynodd i'm bron,
Bwrw deri o'r wybr dirion!
Gwyllt yr awn a'm gwallt ar ŵyr,
Gan ruad gwn yr awyr!
Gwiddon[5] goch, yn gweiddi'n gau,
Gwrâch hagr, dan guro'i chawgiau.
Rhegain garm,[6] rhyw gŵn gormes,
Rhugl groen, yn rhoi gwlaw, a gwrês.
Tori cerwyni crinion,
A barai gri o'r wybr gron:
Canu trwmp, yr wybr gwmpas,
Curo gwlaw, ar bob craig lâs.
Croglam, yn dryllio creiglawr,
Crechwen o'r ffurfafen fawr!
Trwy ei hun, y t'rawai hwrdd,
Tebyg i ganu tabwrdd.
Nid gwaeth, wrth fyned i'w gwâl,
Er bremmain o'r wybr wamal
Oni bai faint; mewn braint, braw,
Ofn deuddyn, a fai'n dyddiaw.
Un dŷn nid oedd, on'd ni'n dau,
Mewn man, y'm mŵn a minau:
Brefered[7] y wybr ferydd,[8]
A wnaeth i ni dori'r dŷdd.
Fy Nŷn wen, ofni a wnai,
Awyr arw, pan weryrai!
Drŵg fu'r daran ym' annos,
Dwyn dylif, ofni dŷn dlos:
Arw floeddiaist, oerfel iddi
Am ysgar meinwar a mi!



CYWYDD I'R GAINC A ELWIR "SYMLEN PEN BYS."

Dysgais ryw Baradwys-gainc;
A'r dwylaw mau ar dal maine;
Ar dysgiad diwygiad dyn,
Eurai[9] dalm ar y delyn:
A hon yw'r gainc ar fainc fau,
O blith oed o blethiadau,
O deilyng-fawl edlin-ferch,[10]
A brydais[11]. i, a brwyd[12] serch.
Meddant ferched y gwledydd,
Am danaf fi, o'm dawn fydd,
Symlen fy newis amlwg,
A symlyn yw'r dŷn a'i dwg;

  1. Cenad cariad
  2. Gogoneddus
  3. Awduriaeth DapG yn amheus, gweler Ysgrif Dafydd Johnston, Prifysgol Abertawe
  4. pleser
  5. Dewines
  6. cri
  7. Brefiad
  8. trymaidd
  9. Addurnaw
  10. aeres
  11. darlunio
  12. rhwyd