Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ceinion Llenyddiaeth Cymreig Cyf I.djvu/53

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Solffeais o'm salw ffuaint,
Salm rwydd, ys aelaw[1] y mraint:
Ag orddigan gan y gainc
Garüaidd medd gwyr ieuainc:
Coel ufudd—bwne celfyddber
Cael i'm glod wneud cwlm y glêr.
Gwae fi na chlyw, mawr yw'r ainc,[2]
Dyddgu, hyn o brydydd—gainc! .
Os byw hi a'i clyw is clwyd,
Ysbyslef eos beislwyd;
Addysg hildr odd is cildant,
Gormodd cerdd gwr meddw a'i cant;
Llêf eurloyw fygr llafarlais,
Lleddf ddatbing llwybr sawdring sais.
Ni wnaeth, Pibydd ffraeth o Ffrainc,
Na Phencerdd ryw saffan—cainge;
Poed anolo[3] fo ei fin,[4]
A'i gywydd a'i ddeg ewin.
A gano gerdd ogoniant,
Ni cherydd Duw na cherdd dant;
Gwiw loyw—glaer ddyn golyglon,
Ag yn cael canu'r Gainc hon.


AWDL FOLIANT I LLYWELYN O EMLYN.

Llyfr dwned[5] Dyfed, dyfyn,[6]—ar winda
I randir Llywelyn;
Llannerch, aed annerch, pôb dŷn
Lle twymlys, llu at Emlyn.

Llyn i Barc Emlyn, camlas,—at Teifi
A'r terfyn ym mhob—plas:
Lludded gardd, lladded ei gâs
Lle bo'r orddod, llwybr urddas.

Llwybr urddas brâs yn bwrw bryn, eglur
O glais Lloegr a Phrydyn;
Lle del, yr holl fyd a dyn
Llaw hael, ag enw Llywelyn.

Llywelyn a'i myn, o myni, a grym
Llawen—fab Gwilym erddrym[7] wrdd ri;
Llew nid adrawdd, cawdd i'n coddi,[8] nid caeth
Llawryddiaeth, a maeth a wnaeth a ni.

Llorfcolofn llwyth, o dylwyth Edweli, y traidd
Llaryaidd, brawd wraidd, hyd Bryderi;
Llafuriawdd berthawdd i borthi, dageirdd,
Llys ymlŷn y Beirdd, lle heirdd yw hi.

Lle gnawd, cael gwasgawd, a gwisgi—ddillad
Llety anghauad, wastad westi:
Lle cynefin gwin, a gweini heilgyrn,
Lle chwyrn, llwybr Tefyrn, lle berw Teifi.
Lle chwerw aeserw, o erysi[9]—bryd
Lle chwery esbyd[10] byd heb oedi;
Lle maith ei llawnwaith, llenwi buelin[11]
Lle mae ufuddwin llyn i feddwi.

Lle o'th nerth, Dduw serth, ydd âf fi,—drachefn
Lle anarloesdrefn, llanw aur lestri;
Llŷs curwr a'i gwnaeth, lle seiri yn falch,
Lliwgaer yn lasgalch, llugyrn losgi.

Llawna diana daioni, mynyd
Lluniaeth ffraeth ffrwythlyd glyd glodfori;
Llwybreidd—wlad, gariad gwri,—wallt euryn
Llywelyn drawst yn a'i law drosti.

Llywiawdr, amerawdr meiri,—Edelfiled,
Llyw yw'r Ddyfed a llawer ddofi;
Llathrlaw, osb euraw, ysberi—gwöyll
Llid pyll, arf dridryll arfod Rodri.

Llinongadr, baladr Beli, ynghyngaws
Llŵyr naws Llŷr hoyw—draws,—llew o Rodri;
Llawn grair, hau a bair, a beri llwyddfoes
Llawenydd a roes, a moes i mi.

Llywelyn derfyn i dori—aergad
Llaw fad, aur rhuddiad, a ŵyr rhoddi;
Llywia, na threia, Un a thri,—rhag llaw
Llywiaw, ddawn iddaw, Dduw i'w noddi.


COF ANGHARAD HAEL.

Y Bendefiges hon oedd ferch Syr Morgan ab Meredydd ab Gruffydd ab Meredydd Gethin, fab Rhys ab Tewdwr, tywysog y Deheu—barth; a mam Ifor Hael, Noddwr ein Bardd. Y mae arddull y Cyfansoddiad yn peri i ni gasglu iddo ei gyfansoddi pan yn lled ieuanc.

Di dyr, deigr difyr, ad afael—o'm drem
Drymed yw ym' gôf gwael,
Dodiad hoyw Angharad Hael,
Dan ddacar, duon ddwyael.

Aele[12] yw, nad byw buail—win addfed
Awenydd—fawr adfail;
Alaf,[13] arwaesaf[14] wiwsail
Aelaw[15] fu o'i hoywlaw hail.

Hailwin fu, medd llu lleuer[16]—cain indeg
Cyn undydd breuolder;
Hoedl dangnef tref, ond nef Nêr,
Hudol yw hoedl i lawer.

Llawer bron, am hon ym Mhennardd,—a hyllt,
Ail Essyllt wyl lwys—hardd:
Llefain yw berf ofer—fardd,
Llwyr wae, ni chwarae, ni chwardd!

Ni chwardd cywir—fardd mewn cerfiad,—cwyn-uthr
Cannerth fu Angharad:
Ni thau i'm bron, aeth im' brâd,
Nawd[17] llif geirw,[18] neud llef girad.ref>dychrynadwy</ref>


  1. ↑ goludog, gwerthfawr
  2. ↑ awch
  3. ↑ di fudd
  4. ↑ un eiddigeddus
  5. ↑ Llyfr traddodiad
  6. ↑ gwysiad
  7. ↑ grymus
  8. ↑ cystudd i'n blino
  9. ↑ syndod
  10. ↑ gwesteion
  11. ↑ Corn yfed.
  12. ↑ Galarus
  13. ↑ Cyfoeth
  14. ↑ cynhaliaeth
  15. ↑ Haelionus
  16. ↑ goleuni
  17. ↑ Effeithiol
  18. ↑ rheieidr