Rhy irad, ddygiad, ddigudd,—fu orfod
Drem wyarfaeth gwrmrudd:[1]
Rhieinaidd ferch rhanodd fûdd,
Rwymo derw, rh'ôm,[2] a'i dwyrudd.
Deu—rudd lâs feinwas wyf yn wael,—er Gwen
Oedd Ganwyll mewn urael;[3].
Darfod dyfod dwfn ddeigrgael
Derfyn hardd, diweirfun hael.
Haelaf, digrifaf, goreufun—ynghaer
Oedd Angharad wenllun:
Hoen ffysg,[4] dan ddysg, nid oedd un
Huan wybr, a hi'n nebun.
Pa un, am aur fûn, mor fyr,—ei hoedlddydd
Hidlddeigr ym' oedd Rhagfyr;
Pell rodfaeth, pwyll iradfyr,
Pefr nith Haul, pa fron ni thyr?
Gorhoffder, eurner arnad,—Dduw Dofydd,
Y mae y ngherydd am Angharad:
Gyflawned, y rhoest gyfluniad—diwael
O ddawn gyfiawn i gael, wr hael rhad.
Gan yt fynu, bu bwyll wastad, ei dwyn
Yn rhwyf ebrwydd—frwyn, yn nhref briddfrad;
Gorugost,[5] o rydost rediad, ei hoedl—ddydd,
Gŵyr ei charenydd, ar Dofydd Dâd.
Gares Gweilch, eurfeilch, eirfad,—yn ystig
Gorwyr i Gynwrig, gorph brig bragad:
Gwawr hoen, a'i goroen, o un gariad,—uthr
Gor—ruthr, o un rhuthr, fu'r anrheithiad.
Gorne[6] bron, hoedon ehediad,—Gwyndraeth
Gwyr ei brodyr maeth, alaeth eiliad;
Gwrygiant,[7] ardduniant, aur ddoniad—Facwy
Gwreigiaidd o lywy, gwragedd leuad.
Gweddeiddbar gymar, geimiad,—yngharthan
Gwiw awchdan Ieuan cyflafan câd:
Gwaetgael Saffwy, rhwy rhwym gwlad—a'i gafael
Gwaetgael, llwytgun hael, lletty cynheiliad.
Gwrthwyneb calon gwrthuniad,—gytbar
Gwingar yw y ddar, gwen gerddwriad;
Gofaliad, bronllech, gafaeliad,—a'm cawdd
Ymy newidiawdd, o'i mynediad.
Goleuddyn, a'i hŷn o hâd—boneddfaeth,
Goluddiai wagiaeth, gwyl ddiwygiad;
Gwaisg ŷm clwyfawdd, cawdd coddiad—y'm galwer
Gweler ar lawer, galar liwiad.
Gwedd dig argywedd, deigr gawad—a'm gwlych
Gwyrdd fy ngrûdd a chrých, fawrných farwnad:
Gwaith drwg, i olwg, fyddai wyliad—caeth
Gwaith cyfyng hiraeth, côf Angharad.
Gwenwyn, yw ei chwyn, ni châd,—y'm hystlys,
Gwanas gywirlys, gown ysgarlad:
Gwenynen, addien, e wyddiad,—ei dawn
Gwawn Garedigiawn, garw ei dygiad.
CYWYDD I'R LLWYNOG.
Doe'r oeddwn, dioer eddyl,[8]
Dan y gwŷdd, gwae'r dŷn a'i gwil:
Gorsefyll, dan gyrs ufudd,
Ag aros Gwen, gor—is gwŷdd.
Gwnaeth ar fy hwyl, ŷm' wylaw,
Gwelwn pan edrychwn draw,
Llun Gwrab,[9] lle ni garwn,
Llwynog côch, ni châr llún cŵn;
Yn eiste fal dinastwrch,
Ger y ffau, ar gwr ei ffwrch.
Annelais rhwng fy nwylaw,
Fwa Yw, drúd, a fu draw,
Ar fedr, fål gŵr arfodus,[10]
A'r ael y rhiw, arial rhús:
Arf i redeg ar frodir
I fwrw a saeth, o frâs hir.
Tynais o eurgais ergyd,
Heb y gern, heibio i gŷd;
Mae och! aeth fy mwa i,
Yn drichnap, anian drychni.
Llidiais, nid arswydais hyn,
Arth ofidus, wrth fadyn;
Gwr yw ef, a garai Iâr,
A choeg edn, a chig adar;
Gwr i'w ddulio gyr ddolef;
Garw ei lais, a'i garol ef.
Gwridog yw ymlaen grodir
Gwedd âb, ymlith y gwŷdd ir.
Lluman brwnt, gerllaw min bryn,
Llamwr erw lliw marworyn.
Drych nod brain a phiod ffair,
Draig unwedd daroganair;
Cynnwr' fryn cnöwr Iâr frâs;
Cnu diareb, cnawd eirias.,
Taradr daeargadr dewrgau,
Tanllestr ar gwr ffenestr fau:
Bwa Lattwm, di drwm draed,
Gefail unwedd gyflawn—waed.
Nid hawdd i mi ddilyn hwn,
A'i dŷ annedd hyd Annwn;
Deugwae'r talwrn lle dygwydd,
Delw ci, yn adolwg gwŷdd.
Rhodiwr côch, rhydaer ei caid,
Rhedai 'mlaen, rhawd ymlyniaid:
Llym ei ruthr llamwr eithin,
Llewpart, a dart yn ei din.
CYWYDD I FERCH ANGHYWIR EI HADDEWID.
Deg nithiad, doe y gwneuthum, Duw Llun, oed a bûn, y bûm; Lle gwelais, hoen geirw trais trai, Dduwsul y hi addawsai, Ddyfod i ddeilwydd efyn, Lle ni ddaeth llawen o ddŷn.
</poem>