Llawer golwg ddŷn llawen,
Llariaidd a gweddaidd yw Gwen.
O frys hâf, a fwriais i,
Fry oedd, parth o'r fro eiddi;
Tawel frŷd uwch y tywyn,
Tua lle ddoedd, twyllai ddŷn.
Morwyn yw, mirain awen,
Meflau i minnau, Amen.
O rhôf yn rhad, i'm gwadawdd,
Y dwyll hon ag nid dull hawdd,
O'r boreu, ddŷn goleu-werf,
Hyd anterth, dan y berth befr;
O anterth pridwerth prydydd,
Hyd amser dau haner dydd:
O haner dydd a honir,
I byrnhawn a bery'n hir;
O byrnhawn son digawn syml,
Hŷd y nôs, hoed annisyml;
Hirwyl yw ym' ei haros,
Eurwawr hardd, ar war y Rhos.
Pe bawn, mŷn y Pab anwyl,
Yn y llwyn anneall hwyl,
Cyd y bu'r gŵr cyflwr cail,
Ebwch gwae, wrth baich gwiail,
Gwyn ag addfwyn ei hwyneb,
Gwae fi! ni welwn i neb.
CYWYDD I FERCH O FON.
Gwawr dyhuddiant y cantref,
Lleian aeth er llu o Nêf,
Ag er Non, calon a'i cêl,
Ag er Dewi, eigr dawel;
O Fon dêg, boed rhwydd rhagddi
I Fynyw dir, f'enaid i;
I geisiaw blodeuaw'r blaid,
Maddeuant am y ddywaid,
Am lâdd ei gwâs, dulas dig,
Penydiwr cûl poenedig;
O alanas gwas gwawd-ferw,
Yr aeth oer hiraeth a'r herw;
Greddf ffoes gruddiau ffion.
Gadewais fy newis Fôn.
Crist Arglwydd boed rhwydd bid trai
Bâs, a chymmwynas Menai;
Y Traeth Mawr, golud-fawr glod,
Treia, gad fyned trwod.
Y Bychan Draeth, gaeth gerynt,
Gâd ym' dŷn gwyn, hyn o hynt.
Darfu'r gweddïau dirfawr
Di gyffro fo Artro fawr!
Talwn fferm, porth Abermaw,
Ar don drai, er ei dwyn draw.
Gydne gwin, gâd naw gwaneg,
Dyssyni i dir Dewi dêg;
A. dwfn yw tonnau Dyfi,
Dwfr rhyn, yn ei herbyn hi
Rheidiol gad er d'anrhydedd,
Heol i fûn hael o fedd.
Ystwyth, ymhwyth, gad ym' hon,
Drais dew-ddwfr, dros dy ddwyfron.
Aeron, ferw hyson hoyw-serch
Gâd trwod fyfyrglod ferch.
Teifi dŵr tyfiad eurwawn,
Gâd i'r dŷn gadeirio dawn;
Durfing, drwy'r Afon derfyn,
Yr êl, ag y del y dŷn.
Mam hirffawd mae ymhorffor
Os byw, rhwng Mynyw a Môn;
Os hi am lladdodd, oes hir
Herw hylithr hwyr i'r holir;
Maddeued Mair Neddair nawdd,
I'm lleddf wylan, a'm lladdawdd;
Maddau i mi, a'i di aur,
Minnau a'i maddau i'm aur.
CYWYDD I IFOR HAEL.
Ifor ydoedd afradaur
O'i Lŷs, nid a'i bŷs heb aur.
Doe'r oeddwn i ar giniaw,
I'th Lŷs, lle cawn win o'th law,
Mi ddywedaf a'm tafawd,
Y gwir, lle gweuir y gwawd;
Gorau gwraig, hyd a'r Geri,
A gorau gŵr, yw d'wr di.
Tra fu'n trafaelu trwy fodd,
Trwy foliant y trafaeliodd.
Y dydd y daethym o'i dai,
A'i fenyg dwbl, a'i fwnai;
Benthyg ei fenyg i'w fardd,
A roe Ifor oreufardd.
Menyg gwynion tewion têg
A mwnai ymhôb maneg;
Aur yn y naill, diaill dau,
Arwydd oedd i'r llaw orau;
Ag ariant foliant filoedd
O fewn y llall, f'ynnill oedd.
Pôb merch, a fydd yn erchi
Benthyg fy menyg i mi;
Ni roddaf dygaf yn dêg,
Rodd Ifor, rwydd ei ofeg
Ni wisgaf fenyg nigys,[1]
O groen Mollt[2] i grino 'mŷs;
Gwisgaf ag ni fynaf fâr,
Hyddgen, y gŵr gwahoddgar;
Menyg gwyl, am fy nwylaw,
Ni bydd mynych, y gwlych gwlaw;
Menyg, pert galennig pôr,
Mwyn gyfoeth, menyg Ifor.
Rhoddai hwn, gwn ei ged,
Noddau rhugl, Neuadd Rheged;
Bendith Taliesin, wingost,
A bery bŷth, heb air bost;
I ben y bwrdd erbyn bwyd,
Yno'r el yn yr aelwyd.
Lle trosaf ran o'm traserch,
Lle dewr mâb, lle diwair merch;