CYWYDD MAWL I IFOR HAEL.
Ifor aur ei fawrwriaeth,
Deg yw'r fau diagr faeth;
Dewraf wyt, a gwrddaf gwr,
Dy ddilyn dieiddilwr.
Myfi yw (ffraethlyw ffrwythlawn)
Maer dy dda, mawr yw dy ddawn;
Ys dewr lid ystyriol ydwyd,
Ysdor ym, ys da ior wyd.
Telais yt, wawd tafawd hoyw,
Telaist ym, fragawd duloyw;
Rhoist ym swllt, rhyw ystum serch,—
Rhoddaf yt brif enw Rhydderch.
Cyfarf arf, eirf ni'th weheirdd,
Cyfaillt a mab aillt y beirdd.
Cadarn wawr, cedyrn wiw-ryw,
Caeth y gler, cywaethog lyw.
Da oedd a syber dy âch,
Duw ni fedd dyn ufuddach;
Wyt i'th Fardd pellgardd pwyll-gall,
Llywiwr llu, fal llaw i'r llall
O'm iaith y rhyluniaethir
Air, nid gwael arnad y gwir;
Hyd yr ymdaith dyn eithaf,
Hyd y trŷ traul hy haul haf.
Hyd yr heuir y gwenith,
A hyd y gwlých hoywdeg wlith;
Hyd y gwyl golwg ddigust,
Hydr yw, ac hyd y clyw clust;
Hyd y mae iaith Gymraeg,
A hyd y tŷf hadau teg,—
Hardd Ifor, hoyw-ryw ddefod,
Hir dy gledd, heuir dy glod!
CENNAD O FAESALEG, LLYS IFOR HAEL
YN MORGANWG, I FON;
YN DEISYF I'W GYMDEITHION EI HEPCOR YNO, O
HERWYDD EI FAWR GROESAW GAN IFOR.
Cerdda was, car ddewis-ffyrdd,
Canfod gwymp uwch cein-fedw gwyrdd;
O Forganwg dwg dydd da,
I Wynedd, haelfedd hwylfa!
Ac anwyl wyd, befr-nwyd byd,
Ag annerch gwlad Fôn gennyd.
Dywaid o'm gwlad na'm gwadwyd,
Diog wyf,-dieuog wyd,
A'm bod er's talm, salm Selyf,
Yn caru dyn uwch Caerdyf.
Nid salw na cham fy namwain,
Ac nid serch ar un ferch fain:—
Mawr serch Ifor a'm goryw,
Mwy na serch ar ordderch yw.
Serch Ifor a glodforais;
Nid fal serch anfadful Sais:
Ac nid âf, berffeithiaf bor,
O'i serch ef, os eirch Ifor;
Nag undydd i drefydd drwg,
Nag unnos o Forganwg.
Pand digrif yn ngwydd nifer,
Caru claer, nod-saethu cler.
Goludog hebog hybarch,
Gwr ffyrf iawn ei gorff ar farch:
Campiwr aer cyflymder coeth,
Cwmpas-ddadl walch campus-ddoeth.
Carw difraw Deifr ni oddef;
Cywir iawn y cae wŷr ef.
Mawr anrhydedd a'm deddyw,
Mi a gaf, o byddaf byw,
Hel a chwn, nid haelach ior,
Ac yfed gyd ag Ifor.
Saethu ei geirw sythynt,
A bwrw ei weilch i'r 'wybr wynt:
A cherddau cil-dannau 'n deg,
A solos yn Maesaleg.
Chwarau ffristial, a thawl-bwrdd,
Yn un gyflwr a'r gwr gwrdd.
O cai neb gyttundeb coeth,
Rhagor rhag y llaw rhy-goeth,—
Rhugl a cherdd yr anrhegaf,—
Rhagor gan Ifor a gaf!
Nid hael wrth gael ei gyfri,
Nid dewr neb ond ein teyrn ni.
Nid af o'i lys diful ior,—
Nid ufydd neb ond Ifor!
I IFOR HAEL.
Y BARDD YN YMADAW A'I LYS, I FYNED I GLERA
I WYNEDD.
Ufudd serchogion ofeg,
Ifor y teyrnaidd ior teg.
Myned fal y dymunwyf,
Ar iawn, i Wynedd yr wyf;
Nid myned, ddwyged ddigel
O ddyn, i ymdaith a ddel:
Deu-fis yn nwy-lan Dyfi,
Ni allwn fod hebot ti.
Y galon, bedrogl-gron bor,
Ni chyfyd, yn iach Ifor!
Na llygad, gradd-wlad grudd-wlych,
Na llaw, na bawd, lle ni bych!
Nid difudd rym ym yma,
Nid oedd gall, na deall da,
I neb, a garai o naw
Diodydd gwin, dy adaw.
Rhwyddyn cyhafal Rhydderch,
Rhagod synwyr wybod serch;
Rhyfel llid, rhyw ofal llawn,
A heddwch Ifor hoyw-ddawn.