Och ym Wen! mor wych iawn wyd,
O gwn pa'm yth oganwyd:
Ni'n gwelwyd yn un gwely,
(Fenaid teg) nag o fewn ty;
Na than frig wyrenig wedd,
Coed irion, yn cyd orwedd:
Sefyll dan y cyll ein cad,
Ni bu orwedd, na bwriad,
Na meddyliaid, f'enaid fain,
Bechod, mwy na rhai bychain.
Ond dych'mygion dynion dig,
A cham oedd pob dychymig:
Ni wnawn oed, nag amneidiaw
Arnad, a llygad na llaw;
Na moliant i'th wallt melyn,
Myn glwys Duw ni'm gweles dyn!
Di bech heb odech ydym,
Dyeithr ferch fal d'ewythr fym;
Ni ddanfonaist ddyn fein-ael
Latai ym, ddyn lwyttu ael;
Ni bu ymddiddan o'r byd,
Na rhwym, hoyw-ferch, rh'om hefyd,
Na cham serch ni chemais i
Yn chwimwth un braich imi
Am danad, grair ddiwair ddoeth,
Hoff eigr fein-gorff hoyw-goeth.
Ni wyllysiais i geisiaw,
Dy gorff main, dro elain draw:
Pa wedd, eithr o ryfeddod,
Yth gawn, loer eglur-lawn glod;
Heb fod un ddeun ddeall
Garllaw i garu y llall?
Ni bu (garu gywir-oed)
Dy fin wrth fy min er 'moed,
Na'th anadl gwan per anerch,
Na'th wyneb wrth f' wyneb ferch.
Hyn i gyd, henwn un gair,
A dyngaf myn y deng-air:
Myn Arglwydd yr arglwyddi,
Cul yw'r ais na'm coelir i.
Ni'th gefais eneth gyfiawn,
Na ddo 'rioed, ddyn ddiwair iawn;
Ni ddodais, un weddus-ael,
Fy mryd i gyd ar dy gael.
Ni weddai'r hyn a wyddyt,
Ni chawn fod yn ordderch yt.
MARWNAD IFOR HAEL, A NEST, EI WRAIG.
Henaint anghywraint, ing, hiraeth,—a phoen,
A phenyd fal blaen-saeth!
Marw Ifor, nid rhagoriaeth,
Marw Nest, mae Cymru'n waeth!
Mae'n waeth am dadmaeth, mae dôr--rh' of ag ef,
Yn gyfyng yn mlaen côr;
Marw Nest! mae f'arwest yn for;
Morwyn nef! marw iawn Ifor!
Gorau oedd Ifor a'i gorph syth—ein rhi
Yn rhoi Deifr ar esyth;
Ar y fu gu gwehelyth,
Ar y sydd, ac a fydd fyth!
Nid af byth o'm nyth gan wŷd—i gerddor,
A gerddodd gylch y byd;
Ni chau fy nwy-fraich enyd,
Ni chaf, ni feddaf hawddfyd.
Hawddfyd a gyfyd digofaint—calon,
A hiraeth i'r fron hon, a henaint;
Herwydd wylaw gwlaw glas enaint-o-rchest
Am Ifor, a Nest, mwy-fwy yw'r naint.
Hael Ddofydd tremydd hwyl trym-haint—a'm pair
Gweled Nest ni chair, crair gair gywraint;
Rhaglyw afael yw ne ofeiliaint-poen
Ceinlliw haf oroen cain llifeiriaint!
Wrth weled curiad cariad saint—am fudd
Ag anwylyd prudd a gynheiliaint;
Nest wen-goeth, win-ddoeth wen-ddaint,—ac Ifor,
A mwy na rhagor ym anrhegaint!
A lluchwin o wydr, ym llochaint—ar hail
A mêdd o fuail, mwy faddeuaint;
A rhuddaur a main i'm rhoddaint—bob awr,
A hebogau mawr i'm hebygaint.
Hir ddoniau i'r ddau, hwyr ydd aint,— dan gel
I gyd ochel, neu godechaint;
Ac undyn ydyn', ni'm oedaint—am fudd,
Ac un ddadanudd am fudd fyddaint.
Llyw llygr-gaer yn aer, ni wnaint—yn eiddil
Anturio naw mil mewn twrw' enaint;
Llys Faesaleg deg dygaint—hawddamawr!
Ac ar eu heurllawr, lle mawr meddwaint.
Osai clir, yn wir, fal naint,—geirw donau
Yn llawn rhadau, yn llynau rhedaint!
Lle bydd lleferydd llifeiriaint—gwin-llestr
A golau ffenestr, ag hael fwyniaint.
Llafn-friw llwrw iawn-wiw llyr enaint,—Eingl grwydr
A llew yssig-frwydr lluosawg-fraint.
Llorf llu, lled garu lledw geraint—ym mro,
Llywio Naf huno, nef i henaint!