Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ceinion Llenyddiaeth Cymreig Cyf I.djvu/62

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

TYNGED GUTTO DDU
GAN W. C. DAVIES.
(SYLFAENEDIG AR CHWEDL SEISNIG.)

"AROLYGWR! —felly y mae gan y perchenogion ymddiried mor fychan ynof, wedi i mi eu gwasanaethu am ugain mlynedd, fel ag y maent am osod arolygwr (supercargo) ar y bwrdd, i wylied ac i edrych ar fy ol—i weithredu fel ysbiwr, ac i achwyn wrthynt hwy bobpeth a gymmer le ar fwrdd y llestr! Wel, gadewch iddynt; ond os na wnaf fywyd y nai cegrwth hwn o'r eiddynt, yn uffern ar y ddaear, nid fy enw ydyw Gruffydd Rolant!"

Dyna fel yr ysgyrnygai, neu yn hytrach y chwyrnai, llywydd y llestr Gwendolen, yr hon oedd yn rhwym o Gaerdydd, gyda llwyth of nwyddau gwerthfawr a dewisol, am y Goror Euraidd, yn Affrica. Dyn gydag aeliau crychlyd a hagr ydoedd Gruffydd Rolant, y cadben. Yr oedd ei lygaid cellweirus, ei aeliau cymmylog, ei dalcen isel, gyda'r aml rychau hagr oedd ar ei wynebpryd, yn arddangos cymmeriad garw, creulawn, a phenderfynol. Yr oedd y croen melynliw, yr hwn oedd yn dwyn arwyddion amlwg o danbeidrwydd haul y cyhydedd, a gerwindeb tymhestloedd gwledydd estronol, yn brawf diymwad nad oedd bywyd Gruffydd Rolant ddim wedi ei dreulio ar wely o rosynau. Er fod y pren almon yn blodeuo ar ei ben, yr oedd ei farf yn parhau mor ddued â'r frân, ac yn cuddio yn hollol y rhan isaf o'i wynebpryd.

Yr oedd ei liw melynddu, ei farf, ond yn fwy na'r cwbl, ei natur ansyber, greulawn, a thrahaus, wedi ennill iddo y llysenw "GUTTO DDU." Yr oedd chwedleuon ac adroddiadau am weithredoedd ysgeler y cadben, yn cael eu sibrwd yn aml gan y dwylaw. Dywedid fod mwy nag un dyn, wedi cyfarfod âg angeu arswydus oddiar ei ddwylaw âg angeu, —i'r hwn nid ydoedd tystion. Yr oedd un o'r dwylaw wedi clywed gan un o'r hen forwyr, am y ddiangfa gyfyng a gafodd rhag cyfarfod â'i farwolaeth, trwy ddwylaw Gutto Ddu ar fordaith flaenorol. Mynegai y dyn ei fod wrth y llyw, yn y wyliadwriaeth ganol, ar noson dywell a thymmhestlog. Yr oedd y llong o dan bwys hwyliau, ac yn "steuo" yn wyllt; ac er ei holl ymdrechion, nis gallai ei hattal rhag troi ddau bwynt neu dri i'r naill ochr neu y llall, o'i chwrs. Yn ddisymmwth gwnaeth y cadben ei ymddangosiad ar y dec, a'i grys a'i lodrau yn unig am dano; a chyda llw ofnadwy, archodd ef i gadw y llestr ar ei chwrs. Meredydd Owain—canys dyna oedd enw y dyn —a attebodd nad oedd hyny yn bossibl,—ac hefyd, braidd yn ffol, gan ei fod yn gwybod am dymmer nwydwyllt Gutto Rolant, dywedodd, os oedd arno eisieu i'r llestr hwylio yn wastad, y byddai yn well iddo ei hesmwythau trwy gymeryd i mewn rai o'r hwyliau.

"Y corgi dirmygus, pa fodd y meiddi ddangos i mi fy nyledswydd?" bloeddiai y cadben, gan neidio tuag atto.

Cafodd Meredydd ei hyrddio i ben blaen y llong gan darawiad o'r tu ol, gan ddwrn y cadben. Yr oedd Meredydd yn ddyn cryf a gwrol; a chan nad oedd mewn un modd yn mwynhau y driniaeth, yr oedd ar ei draed mewn eiliad, ac yn barod i dalu i'r cadben hyd at adref. Ni bu yr ymdrech ond byr, oblegid os oedd Meredydd yn gryf, yr oedd nerth Gutto yn Herculiaidd.

Mewn llai na mynyd, yr oedd y llongwr yn ddiymadferth yn nghrafangau ofnadwy y cadben. Gafaelodd yr olaf ynddo gerfydd ei wddf, a'i goes, a thaflodd ef bendramwnwgl dros ymyl y llong, i'r eigion cynddeiriog, a'i donnau berwedig.

Yr oedd y mate, a gwyliwr y llestr, yn y pen blaen ar y pryd, yn cyflawni rhyw orchwyl neu gilydd, ac felly nis gallent fod yn dystion o'r hyn a gymmerodd le.

Yr oedd y llong ar y pryd yn ysgwyd, ac yn ymrolio yn enbyd. Hyrddiwyd Meredydd trosodd ar yr ochr wrthwyneb i'r gwynt. Yn ffodus iddo ef, yr oedd spar yn glymedig wrth ymyl y llong, ac yn yr ysgydwad nesaf o'i heiddo, llwyddodd Meredydd i gael gafael ynddo, ac i ymgropian at y cadwyni. Clywai yr un a fwriadai fod yn llofrudd, yn gwaeddi am "ddyn arall wrth y llyw," ac yn hysbysu mewn ychydig eiriau geirwon, fod Meredydd wedi cwympo dros y bwrdd.

Yna aeth y cadben i lawr, ac ymlusgodd Meredydd yn friwiedig a gorchuddiedig â gwaed, i mewn i'r blaengaban (forecastle).

Ni feiddiodd ddangos ei hun ar y dec hyd y diwrnod nesaf. Pan y gwelodd Gutto Ddu ef, edrychodd ar y cyntaf braidd yn synedig, ond ni ddarfu iddo ond dywedyd: "Yr oeddwn yn meddwl dy fod ti dros y bwrdd am ymddygiad anufudd; meindia di dy ddyledswydd, a phaid a rhoi dim o dy lol i mi o hyn allan."

A dyna yr unig sylw a wnaeth Gutto Ddu byth o'r dygwyddiad.

Yn y porthladd nesaf y darfu iddynt aros, diangodd Meredydd Owain, gan nad oedd yn dymuno mwyach hwylio gyda'r Cadben Gruffydd Rolant.

Dyna ydoedd ystori Meredydd Owain, fel y dywedai hi wrth Dafydd Elis, un o ddwylaw y Gwendolen.

Yr oedd y "ddraig" yn ymdoni oddiar hwylbren y llestr, y rhaffau wedi eu tynu i mewn, a'r hwyliau wedi eu lledu o flaen yr awel. Yr