Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ceinion Llenyddiaeth Cymreig Cyf I.djvu/64

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

wodd Gutto Ddu ei air gyda golwg ar yr arolygwr, gan wneud ei sefyllfa mor annedwydd a thruenus ag oedd bossibl.

Yr oedd Llewelyn Evans yn ddyn ieuangc llawn ysbryd, ac nis gellid dysgwyl iddo ymostwng i ymddygiadau sarhaus a gormesol y cadben mewn dystawrwydd. "Cadben Rolant," meddai un diwrnod, "am ryw reswm neu gilydd, yr ydych wedi dangos nad ydych yn fy hoffi i, ac nid ydych mewn un modd fel yn teimlo awydd i gelu hyny. Nid ydwyf yn dymuno cael dim geiriau gyda chwi; chwychwi ydyw cadben y llong, a chan belled a hyny yr ydych yn uchaf os gwelwch yn dda, nyni a welwn ein gilydd mor anaml ag sydd bossibl. Mi a fwyttâf fy mhrydau yn y caban."

"Nid wyf fi yn malio ymha le ar y ddaear y cymerwch eich prydiau; gellwch eu cymeryd yn y forecastle os mynwch; yn unig, peidiwch rhoddi dim chwaneg o'ch tafod i mi. Nid oes arnaf ei eisieu, ac ni wnaf ei gymeryd."

Ni wnaeth yr arolygwr atteb i hyn, gan feddwl mai gwell oedd gochel ymrafael, tra yr oedd yn gwbl "o dan fawd" y cadben; ac felly aeth i lawr i'w gaban. Gan nad oedd ganddo ddyledswyddau i'w gwneuthur ar y dec, ceisiodd dreulio yr amser, goreu y gallai. Gan ei fod yn hoff o gerddoriaeth, ei ddifyrwch mawr oedd chwareu ar y crwth, yr hon a ddygasai gydag ef i'r llong. Ar yr achlysur hwn gan hyny, ymneillduodd yr arolygwr ieuangc i'r caban, a chan gymeryd gafael yn ei grwth, dechreuodd chwareu. "Y Fun adewais ar fy ol." Cerddai y cadben yn ol ac ymlaen yn nwydwyllt, ar y dec. Yr oedd ei aeliau wedi crychu, ac yn awr ac eilwaith diangai llw echrydus dros ei wefusau, fel ag yr oedd swn crwth yr arolygwr yn cyrhaedd ei glustiau. Ac nid oedd y dôn a ddewiswyd yn lliniaru dim ar nwydau Cadben Rolant. Ymddangosai i'w feddwl drwgdybus ef, fod Llewelyn Evans wedi dewis y dôn gyda'r unig amcan o'i wylltio ef. "Y fûn a adawodd ar ei ol!" chwyrnai Gutto Ddu. "Melldith iddo! Os ydyw byth yn meddwl ei chael, y mae yn camgymeryd, neu nid fy enw i ydyw Gutto Rolant!"

Ac yn awr, yr oedd ymgasgliad y cymmylau at eu gilydd— yr hin-wydr disgynol, a'r gwynt cynnyddol, yn arwyddo fod tymhestl yn agos. Galwyd ar y dwylaw i blygu yr uchel-hwyliau, ac i wneud pob peth yn gysurus am y nos, ag oedd yn awr yn dynesu, yn hynod dywell a bygythiol.

Etto yr oedd swn erwth yr arolygwr i'w glywed i fyny drws y caban; a cheingciau y gân "Y fûn adewais ar fy ol" yn ymddyrchu yn wichlyd uwchlaw rhuad y gwyntoedd, a golchiadau y môr. "Ystiwart," gwaeddai y cadben wrth y swyddog hwnw pan oedd yn myned am swpper heibio y caban, "pan fyddwch yn dychwelyd, dywedwch wrth yr arolygwr hurt yna, am dewi gyda'i ffidl o. Mae y gwynt yn debyg o roddi digon o gerddoriaeth i ni heno heb i'r hen ffidil ysgrechlyd yna wichian allan "Y fûn adewais ar fy ol." Pa fodd bynag, cyn i'r ystiwart ddyweyd ei genadwri, yr oedd swn y ffidil wedi darfod. Cododd Llewelyn Evans, a daeth ar y dec; eisteddodd ar yr hencoop, a syllodd ar yr olygfa aruchel oedd o'i gwmpas—y tonau trochionog oedd yn awr yn ymddyrchu yn brysur gyda'r awel. Yr oedd y llywydd yn parhau i rodio i fyny ac i lawr y llestr, ac yn awr ac eilwaith yn taflu atto ef edrychiad digofus, fel yr elai heibio. Ni thelid un sylw i hyn, pa fodd bynag, gan y dyn ieuangc; oblegid yr oedd ei fyfyrdodau ef draw, draw ymhell. Yr oedd ei ddarfelydd prysur yn ei godi uwchlaw yr eigion cynhyrfus, trochionog, hyd at lanau yr Hen Ynys Wen. Mewn dychymyg canfyddai ffurf angelaidd ei hawddgar Gwendolen, a chlywai gerddoriaeth ei llais melusber, a theimlai wasgiad ei llaw dyner a chynes.

Yn brysur yn ei freuddwyd effro, adeiladai gestyll dychymygol yn yr awyr, darluniai iddo ei hun olygfeydd o ddedwyddwch yn y dyfodol gyda'r hon yr oedd yn ei charu mor fawr; ac ni thalai yr un sylw i'r gwyntoedd tymhestlog a'r tonau trochionog.

Mae y dymhestl yn cynnyddu yn barhaus, fel y mae gorfod i'r dwylaw roddi plygiad arall yn yr uchel-hwyliau, ond y mae y llong o hyd yn cael ei lluchio fel ysglodyn hyd wyneb yr eigion. Gwnaeth y gwyliwr ei ymddangosiad oddiwaered, a phrysurodd y dwylaw oll i ben yr hwylbren i sicrhau yr hwyliau, pa rai oeddynt yn clecian yn ddi reol yn y gwynt.

Yr oedd Llewelyn Evans o hyd wedi ymgolli mewn syn-fyfyrdod, ac yn parhau i eistedd ar yr ochr windward i'r llong, yn agos i un o'r rhaffau torchog.

Cyn y gellid plygu yr hwyliau, yr oedd yn rhaid defnyddio y rhaff hon, ac yr oedd yr arolygwr ieuangc, yn anwybyddus iddo ei hun, yn y ffordd. Y mae un o'r dwylaw yn ei hysbysu o hyny yn foneddigaidd; ond cyn iddo allu symmud, y mae Gutto Ddu yn cerdded i fyny atto, a chan roddi ysgytiad brwnt iddo, yn dyweyd.

"Hwda, tyr'd o'r fan yna, y corgi llwfr; 'does arnom ni ddim eisieu yr un o dy fath di ar y bwrdd, ac felly dos i ffordd a gwna le i dy well!"

Neidiodd Llewelyn ar ei draed, ac a'i lygaid ar yr un pryd yn fflamio, dywedodd" Cadben Rolant, yr ydwyf wedi cyd-ddwyn â'ch anfoesgarwch, a'r sarhad ydych yn daflu