Ac yrwan y mae y gwynt yn llonyddu mor gyflym ag y cododd, ac ysgrechiadau y crwth yn darfod yn y pellder,—y swn yn ymddangos fel pe yn hofran uwchben y fan yr aeth y corph o'r golwg.
Y cadben oedd y cyntaf i siarad. "Pwy oedd hwnyna oedd yn chwareu y ffidil?" gofynai, gyda llais cryglyd, aneglur, a chrynedig. Nid oedd hyd yn nod ei ewynau haiarnaidd ef yn gallu dal yr oruchwyliaeth ofnadwy hon.
Nid oes neb yn atteb y cwestiwn; ond mae y dynion yn ymwasgaru yn bruddaidd a dystaw, yn mwmial wrthynt eu hunain, ac yn sylldremu yn arswydlawn o'u deutu. Y mae y gwynt yn awr wedi dystewi, a thawelwch y bedd yn dilyn y dymhestl annhrugarog.
Mae y llong bellach, heb y gwynt i'w dal yn ddiysgog, yn ymdreiglo yn ofnadwy yn nhrochion y môr. Mae yr hwyliau yn clecian yn orwyllt yn erbyn yr hwylbrenau, ac yn bygwth tori oddiwrth y rhaffau bob munyd.
Fel yna y mae y dydd hirfaith yn myned heibio. Rhyw brudd-der gorlethol a ordoa y llestr, y nwyfre, a'r môr mawr oddiamgylch. Mae Gutto Ddu, gyda'i wyneb yn goch, a'i lygaid yn fflachio, yn cerdded ar ran o'r dec, goreu ag y medrai gan ymdreigliad enbydus y llong. Nid oes yr un enaid i'w weled ar y bwrdd ond efe ei hun. Nid oes hyd yn nod ddyn wrth y llyw, oblegid, gan nad oedd awel, yr oedd y llong yn cael ei gadael at drugaredd y tonau. Y mae lleni tywyll y nos yn awr yn dechreu cuddio yr olygfa. Er gwaethaf y tawelwch, y mae dwndwr y môr yn parhau, a'r tonau brigwyn yn codi ac yn gostwng, fel pe buasai yr ystorm yn ei phwynt uchaf. Mae cymmylau duon yn codi fel mynyddoedd yn y gorwel, a chan uno â'u gilydd, yn symmud yn raddol hyd y ffurfafen. Mae yr hin-fynegydd yn parhau i ostwng, a'r môr, fel mae yn rhyfedd dyweyd, yn absennoldeb gwynt, yn parhau i godi. Unwaith etto, mae y "ddu dymmhestlog nos" wedi gwneud ei hymddangosiad. Y mae rhyw dywyllwch dudew, erchyll, yn gordoi pobpeth. Draw yn y pellder, clywir rhyw dwrf rhyglyd, fel rhyw "swn yn mrig y morwydd." Ai swn y daran ydyw, ai ynte arwyddion dynesiad y dymhestl sydd gerllaw?
Mae Gutto Ddu, gydag ymdrech egniol i daflu ymaith yr arswyd annesgrifiadwy sydd bron a'i lethu, yn erchi y dynion i dynu yr holl hwyliau, oddigerth rhyw un neu ddwy, llwyr angenrheidiol. Wedi i hyn gael ei wneud, mae yn rhoddi trem i'r cyfeiriad o'r hwn y dysgwylir y dymmhestl, ac yn dywedyd gydag ysgyrnygiad herfeiddiol "Yrwan, chwythwch â gwnewch eich gwaethaf; yr ydym yn barod i chwi!"
Geiriau hyfion, yn ddiammeu; ond dyn hŷf—rhyfygus o hŷf—oedd Gutto Ddu. Prin y mae y geiriau allan o'i enau, nad ydyw yn teimlo rhyw chwa ysgafn dyner yn dyfod tros ei ruddiau poethion. Mae gwyneb y tonau mawrion yn awr yn cael eu cynhyrfu gan ryw gyffro ysgafn.
Ymhell, draw yn y pellder, clywir rhyw rygliad trymaidd ond cynhyrfus, yr hyn o'r blaen ydoedd wedi tynu sylw. Y mae yn awr yn ddeg o'r gloch; ac er ar adeg arall y buasai y gwylwyr odditanodd yn cysgu yn dawel yn eu gorweddleoedd, nid oes yn awr gymaint ag un dyn i lawr. Y maent i gyd wedi ymdyru wrth y mast blaenaf, yn syllu mewn dystawrwydd, a chyda rhyw rag-ymsyniad o berygl, yn aros am rywbeth, nis gwyddent pa beth. Mae y gwynt yn codi yn raddol, ac erbyn unarddeg o'r gloch, rhua agos mor gynddeiriog ag o'r blaen. Unwaith etto y mae twrf trymaidd y daran i'w glywed, a'r mellt fllamgochion yn gwibio hyd y ffurfafen. Mae y gwynt brochus yn dyfod yn uwch ac yn fwy gerwin yn barhaus: crochwaedd gynnhyrfiol y daran yn nês, ac yn fwy erchyll, a fflachiad y fellten yn fwy llachar ac ofnadwy, nes y mae yn ymddangos fel pe bai anian ei hunan am gael ei llyngcu i fyny yn gyfangwbl yn nghynnhwrf yr elfenau.
"Terwyn follt pob taran fawr
Ennyna drwy'r ddu nenawr;
Llidiog yw'r awyr llydan,
O niwl du 'n olau o dân."
Ust! pa beth ydyw hynyna sydd i'w glywed yn awr uwchlaw rhuad y dymmhestl?
Y dynion a dyrant at eu gilydd, ac mae eu gwynebau gwelw yn myned yn fwy gwelw gan fraw, fel ag y maent yn gwrandaw. Mae hyd yn nod Gutto Ddu yn tremio oddiamgylch gan ofn, braw, a dychryn, yn ceisio cael allan o ba le y mae y swn dyeithr yn deillio.
Mae y gwynt yn udo ac yn cwynfan ymysg y rhaffau; mae y tonau yn trochioni ac yn berwi yn eu cynddaredd; ond unwaith etto, uwchlaw udiad y dymhestl, a rhuad y môr, clywir miwsig ysgrechlyd y ffidil ellylaidd.
Mae y dynion yn ei glywed ac yn crynu. Mae Gutto Ddu yn ei glywed hefyd, ac y mae llaw oeraidd angeuol ofn yn pwyso ar ei galon. Mae meddylddrych yn sydyn yn taraw i'w feddwl, ac y mae yn gwneud ei ffordd i gaban yr arolygwr llofruddiedig. Chwilia am y ffidil; ond nid ydyw i'w chael.
"Steward, pa beth a wnaethoch â'r ffidil felldigedig yna?"
Mae y dyn yn tystio na welodd hi ar ol iddo ef ei chymeryd o ddwylaw y dyn marw, a'i dodi ar y gist yn y caban. Y maent eill dau yn chwilio, ond yn analluog i'w chael. Mae llewyrch o ddigofaint a llawenydd yn