rhaffau; y tonau a ferwant ac a ruant yn eu cynddaredd; ond unwaith etto, uwchlaw chwibaniad y gwynt, a rhuad y weilgi, clywir ysgrechiad treiddgar y ffidil ellyllaidd. Yn awr y mae y llofrudd a'r llofruddiedig yn diflanu yn nyfnderoedd duon yr eigion; nodau y ffidil yn darfod yn y pellder; y gwynt yn llonyddu, a'r tonau yn attal eu cynddaredd; ac weithian, yn y lle na chlywid dim ond y ddryghin gynnhyrfiol, y rhyferthwy digofus, ysgrechiadau. merwinol y ffidil, ac udiadau y llofrudd—y mae pob peth yn ddystaw!
MAE GUTTO DDU WEDI CYFARFOD A'I DYNGED!
YSBRYD PONT FATTHEW.
Yr oeddwn wedi bod yn treulio rhai dyddiau yn nghymmydogaeth tref fechan y Towyn, a chychwynwn i ddychwelyd i Ddolgellau tua. saith o'r gloch y prydnhawn. Yr ydoedd yn yr Hydref, a buasai y diwrnod yn deg a hyfryd; ond yr oedd yr haul newydd fachludo o'r golwg, yn nghanol gortho euraidd o gymmylau dysglaer, am y rhai y buasai bugail profiadol yn dywedyd, eu bod yn rhag argoeli tymhestl. Ond yr oedd mam serchog yn fy nysgwyl yr hwyr hwnw yn Nolgellau; ac ni ddylanwadai yr arwyddion bygythiol hyn ddim arnaf er fy attal. i gychwyn y daith; gan hyny, marchogwn yn mlaen, yn araf, a dystaw, yn mysg y bryniau tawel, heb feddwl yn amgenach na chyrhaeddwn ben fy nhaith erbyn cyfnos. O holl ardaloedd Meirion wyllt, ond prydferth, y mae yn ddiammeu mai yr un a dramwywn y pryd hyny, yw y gwylltaf a mwyaf rhamantus; ac yn briodol y gellid ei galw ucheldiroedd Meirion; a chan y werin, gelwir y rhandir anial yma, "Y Ffordd Ddu." Gan fod yr ardal yma allan o gyfeiriad arferol teithwyr Seis'nig, y mae yr ychydig breswylwyr gwasgaredig wedi cadw eu hiaith a'u defion bron yn eu symledd cynhenid; ac y mae y bryniau clogwynog a'u hamgylchant, wedi bod hyd yma megys ffin anhydraidd ar ffordd effeithiau newyddiannol gwareiddiad. Yr oedd fy llwybr yn gorwedd trwy randir mor annghyfanneddol ag ydoedd o anwastad, clogwynog, a rhamantus; flinid y llwybr ar y llaw aswy gan goedwig ddofn; tra yr oedd esgair anhylon o fryniau, gorchuddiedig gan y grugwydd, yn cau allan yr olygfa ar yr ochr gyferbyniol; o fy mlaen yr oedd mynyddoedd coediog Peniarth, a Chelynin; ac o'm hol, yr oedd y Towyn, a'r môr.
Nid oeddwn wedi marchogaeth mwy na dwy filldir, cyn i'r gwynt ymgryfhau, gan ruddfan yn gwynfanus ar y dechreu yn mysg dail y coed; ac yna, eu siglo hyd eu gwraidd â hyrddwyntoedd achlysurol. Gorchuddid yr wybren hefyd gan gymmylau duon; a meddwn bob sail i ymgysuro (?) a'r meddwl y byddai i mi gael fy ngoddiweddyd gan un o'r ystormydd disymwth ac aruthrol hyny, a ymwelant â'n hardaloedd mynyddig yn aml.
Yr oeddwn eisoes wedi cyrhaedd gyferbyn a Chraig yr Aderyn, pan ddisgynai ychydig ddafnau o wlaw; a'm hanifail a frawychid gan ysgrechfeydd annghynganeddol yr adar, nes peri iddo lamsachu mewn modd nad oedd yn ddymunol i'w farchog. Yn wir, nid ychydig ydoedd yr anhawsder a deimlwn i dywys yr anifail dychrynedig drwy y bwlch diffaeth hwn; canys yr oedd yr adar ar Graig yr Aderyn, mor drystfawr, fel pe y buasent yn gwrth-ymbil yr ystorm ddyfodol, fel yr oedd fy anifail bywiog, bron a dyfod yn aflywodraethol. Pa fodd bynag, llwyddais i gyrhaedd pen y bwlch, ac wedi tynhau fy nghlog farchogaeth am danaf, marchogais yn mlaen mor gyflym ag y gellid, dros y ffordd arw-greigiog oedd genyf i'w thramwy; ond ni allwn ddianc rhag y dymhestl. Dechreuai y daran dreigl-drystio yn y pellder; a phob taran-dwrf yn dyfod yn uwch uwch, ac yn cael eu rhagflaenu gan luchedenau mwy-fwy tanbaid. Y gwlaw hefyd a ddisgynai yn gyfryw ffrydlifau, fel y penderfynais ymdrechu, os y gallwn, i gyrhaedd pentref gwledig Pont Fatthew,[1] yr hwn oedd o fewn tua milldir o bellder, yn hytrach na dilyn y ffordd i Ddolgelleu. Ymddangosai fy nghydymaith craffus megys pe y buasai yn amgyffred fy amcan; canys yn y fan, efe a ddechreuodd duthio yn gyflym, ac mewn ychydig fynydau, efe a'm dug yn ddiogel at ddrws tafarndy bach y llan. Nid oedd Pont Fatthew y pryd hyny namyn cyttyriad o ryw haner dwsin o dai bychain, ar lan afon chwern, tua phedair milldir o'r Towyn; ac ni's gallai fostio o unrhyw westfa gyhoeddus, ond y tafarndy bychan a gwael, o flaen yr hwn y safai fy anifail. Ond er lleied oedd y tafarn-dy, a gwaeled yr olwg arno, yr ydoedd yn llawn ddigon i'm cysgodi i rhag yr ystorm; ac wedi rhoddi fy ngheffyl i ofal gwr y tŷ, aethum i mewn i'r tŷ: a'r brif ystafell yn nhafarndai bychain gwledig Cymru yn gyffredin, yw y gegin; felly i gegin y Llew Glas, yn Mhont Fatthew, yr aethum, a chanfum amryw wedi ymgyfarfod yno; rhai o honynt, fel y hunan, wedi troi i mewn i lechu o herwydd y ddryghin; eraill wedi eu goddiweddyd ganddi tra ar eu cyfeddach, ac yn cael eu hattal i fyned i'w cartrefi gan erwinder y dymhestl. Yr oeddwn yn adnabyddus i'r rhan fwyaf o honynt; ac yn wir, yr oedd tri neu bedwar o honynt yn dir-ddeiliaid i fy mam: felly, ar fy mynediad i fewn, fe'm cyferchid yn barchus,
- ↑ Bryn-Crug, bellach