Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ceinion Llenyddiaeth Cymreig Cyf I.djvu/72

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

wy hwnw? Och! ni's cyrhaeddodd ei chartref dedwydd mwyach!

Ar y noswaith ofnadwy hono, ymgynnullasai amryw yn Ngwestdy y Llew Glas, yn Mhont Fatthew, y rhai a droisent i fewn i lechu rhag yr ystorm, ar eu dychweliad o Farchnad y Towyn. Meddyliasent eu bod unwaith wedi clywed ysgrech, pan oedd yr ystorm yn ei chynddaredd mwyaf; ond, ar eu gwaith yn edrych allan, ni's gallent weled dim yn y tywyllwch dudew, na chlywed dim ond trwst y tonau yn ymguro yn erbyn ymylau creigiog yr afon, a godwrdd y gwynt tymhestlog. Ond y boreu dranoeth, fel yr oedd gwladwr o un o'r bythod cymmydogaethol yn myned dros y bont, tynwyd ei sylw at rywbeth yn yr afon, yr hyn a ymddangosai iddo ef yn debyg i ysgerbwd dafad wedi boddi. Yr ydoedd wedi myned heibio oddi tan y bont, a chael ei attal gan gangenau pren helyg a blygent i'r dwfr. Wedi dyfod o hono yn nes atto, canfyddai er ei fraw a'i syndod aruthrol, mai corph marw benyw ydoedd; ac wrth ei gyfodi allan o'r dwfr, efe a adnabu brydweddiad Ellen Owen druan. Rhedodd i'r dreflan, i wneyd ei ddarganfyddiad yn hysbys, a chludid corph yr eneth anffodus i westdy y Llew Glas, hyd oni ellid gwneyd yr amgylchiad torcalonus yn hysbys i'w mam drallodus. Wrth syllu ar y corph, canfu un o'r edrychwyr, ymddangosiad dyeithr oddeutu y gwddf, megys pe y buasai wedi cael ei ddirwasgu; canys yr oedd llinellau cleisiog bron yn ei gylchynu, yn dynodi yn amlwg ol bysedd llaw fawr, a chref. Mewn gwlad fel Gogledd Cymru, y mae llofruddiaeth yn drosedd a gyflawnir yn dra anfynych; a phrin y gallai y preswylwyr dysyml ymddarbwyllo y gallasai fod neb mor greulawn a drygionus, ag y buasai yn llofruddio un mor addfwyn a diniwed ag ydoedd Ellen. Ond, yr oedd y prawf ger eu bron, ac ni buant yn hir cyn canfod rhywun, ar yr hwn y gallent sefydlu eu drwg-dybiaeth, fel un a allasai fod yn euog o'r fath anfadwaith ysgeler: yn gyntaf, adgofiai un, ac yna un arall, ei fod wedi gweled Ifan Dafydd yn ystelcian ar y ffordd i'r Towyn, y noswaith ofnadwy hono; a chadarnheid y ddrwgdybiaeth mai efe a'i llofruddiasai, i fesur helaeth iawn, trwy y ffaith hynod, na's gwelsid ef yn y gymmydogaeth mwyach, er y noswaith hono, ar yr hon y cyflawnasid y llofruddiaeth. Ni's gwelwyd, ac ni chlywodd neb ddim am dano wedi hyny, er fod Morgan Gruffydd wedi defnyddio pob moddion o fewn ei gyrhaedd i'w ddarganfod, a'i ddwyn i'r ddalfa: a chyflwynwyd corph y wyryf lofruddiedig i'r dystaw fedd, yn mhresenoldeb tyrfa o gymmydogion wylofus, a'i hedmygent ac a'i carent yn ei bywyd. Treiglai amser yn mlaen, ac yr oedd ugain mlynedd wedi myned heibio er pan gyflawnasid yr ysgelerder, yr hwn oedd yn newydd eto yn nghof yr holl gymmydogaeth, ac nid yw wedi peidio a bod yn destyn ymddiddan hir-nos gauaf, ar aelwyd llawer bwthyn yn yr ardal hyd heddyw. Ond, dywedir fod Pont Fatthew yn cael ei chythryblu byth er hyny gan ddrychiolaeth Ellen Owen: ni byddai ystorm byth yn cymeryd lle, na's dygai i'w chanlyn ddrychiolaeth gythryblus y wyryf lofruddiedig; ac nid oes nemawr o drigolion gwledig yr ardal hono, na's credant eu bod wedi ei weled yn ymrwyfo yn nhonau ewynog yr afon fynyddig ffrochwyllt. Teimlwn ddyddordeb neillduol yn yr adroddiad uchod, a hyny yn fwy, pan ddeallais mai ugain mlynedd yn gymhwys, i'r hwyr-ddydd hwnw, y cyflawnasid y llofruddiaeth crybwylledig: yr oedd rhywbeth yn hynod yn hyny; ond, y mae a ganlyn yn fwy hynod fyth.

Yr ydoedd wedi myned yn hwyr, a'r ystorm eto yn parhau yn ei ffrochwylltedd; ond nid oedd y mellt yn llawn mor danbaid a mynych, na'r taranau yn rhuo mor frawychus, nac mor barhaus. Eisteddem yn gysurus o amgylch y tân, gan wneuthur sylwadau ar yr hanesyn arswydus a adroddasid; pan yn y cyfwng o dawelwch, tra yr ymddangosai yr ystorm megys yn cymeryd ei hanadl, clywem ysgrêch faith, uchel, ac annaiarol o'r bron; yn cael ei ddylyn gan dasgiad dwfr, fel pe buasai rywun yn ymdrechu yn yr afon. "Dyma fo, Syr," medd amryw leisiau; "a glywch chwi yr ysbryd? cymered yr Arglwydd drugaredd arnom!" ac ar hyny, yr oedd pawb o honom yn berffaith ddystaw mewn mynyd. Y mae y Cymry, fel y mae yn hysbys, yn lled ofer-goelus, yn enwedig preswylwyr yr ardaloedd mynyddig; ond, y maent yn rhwydd-galon ac arwrol hefyd; ac ar fy ngwaith yn sylwi y gallai mai cri rhywun yn boddi a glywsem, nyni a ruthrasom oll yn unfryd allan, gan gyfeirio tu a'r afon. Yr ydoedd yn berffaith dywyll, oddieithr y rhan hono o'r afon yn gymhwys oddiar y bont, ac yr oedd y rhan hono yn cael ei goleuo gan oleuad coch, llydan, yr hwn a daflai adlewyrchiad erch ar y lan draw, ac a gylchynai gorph dyn, yr hwn a ymddangosai fel pe y buasai ym ymdrechu â rhyw allu anweledig ac ofnadwy, yn y dyfroedd cythryblus. Yn y fan, diffoddid y goleuni, a phallai yr ymdrechfa; ond, wedi prysuro o honom i lan yr afon, nyni a welem, yn ngoleuni llusern a ddygasem gyda ni, gorph dyn, yn cael ei gludo gyd a'r llifeiriant. Gan fod bad-fach hir wrth law, llwyddasom i gydio ynddo, ac o'r diwedd, i'w dynu i'r lan. Cludasom ef yn ddïoed i Westdy y Llew Glas; a defnyddiwyd pob moddion er adferu y ffun fywiol, ond y cwbl