Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ceinion Llenyddiaeth Cymreig Cyf I.djvu/73

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn ofer; yr oedd yr anadl einioes wedi ei lwyr adael; ac yr oedd gwedd chwyddedig, ac annaturiol y corph, yn dynodi yr ymdrech galed y buasai ynddi yn yr ymdrechfa olaf. Ymddangosai mai estron ydoedd y trancedig; yr ydoedd yn ddyn canol oed; ac wedi ei wisgo yn lled daclus; ond, gan nad oedd neb yn ei adnabod, chwiliwyd ei logellau, i edrych a allasid cael rhyw gymhorth i wybod pwy oedd efe, ac o ba le y deuai. Yn yr ymchwil, cafwyd amryw bapurau, y rhan fwyaf o honynt yn dwyn perthynas âg amgylchiadau morawl, ac agos y cyfan o honynt wedi eu llaw-nodi a'r enw, "John Olifer." Ac mewn llogell-lyfr, cafwyd bancebion, i'r swm o tua deg punt ar hugain; ac wrth wneyd ymchwiliad manylach, darganfuwyd llythyr, yr hwn a daflodd oleuni ar y cyfan; gan ddatguddio enw yr estron, a'r lle y bwriadai fyned iddo; yr ydoedd yr ysgrifen yn dra aneglur, ac yn amlwg wedi ei hysgrifenu gan forwr, yr hwn oedd yn garcharor yn Nolgellau ar y pryd, dan y cyhuddiad o fod yn un o fintai o nwydd-redwyr (smugglers). Ymddangosai pe buasai ganddo ugain punt, y gallasai gael ei ryddid; ac efe a ysgrifenasai at y trancedig, gan daer erfyn arno ddyfod yn mlaen gyd a'r arian, ac arfer y moddion angenrheidiol er sicrhau ei ryddhad; ar yr un pryd, bygythiai, os gomedd a wnai, ddatguddio amgylchiadau rhyw lofruddiaeth, a gyflawnasai efe, John Olifer, ugain mlynedd yn ol, yn Mhont Fatthew. Ar hyn, ymdorrai y gwirionedd arswydlawn arnom: nid oedd yr estron a fuasai foddi, yn neb amgen nag Ifan Dafydd; ond, ni feiddiai neb o honom ymofyn pa beth oedd y goleuni erchyll a welsem ni ar yr afon."

-Allan o'r CAMBRIAN QUARTERLY.


GANEDIGAETH RHEW-FRYN.
GAN ISAAC J. HAYES.

Ni's gallaf ddychymygu am unrhyw olygfa mwy mawreddawg ac aruthrawl, na'r hyn y gellid gyda mesur o briodoldeb, ei alw, "Ganedigaeth rhewfryn" (iceberg); ac ymdrechaf i roddi rhyw fath o ddysgrifiad o honi i'r darllenydd, er y bydd o angenrheidrwydd yn dra anmherffaith.

Cymerodd y ddrychfa le yn mor-gilfach Aukpadlartok; mor-gilfach sydd wedi ei dryfritho âg ynysoedd, a beisleoedd. Yr oedd y rhewfaes (glacier) a'i terfynai, yn ugain milldir ar ei draws, er nad yn hollawl unffurf, gan fod yr iâ wedi ymarllwys i waered i'r môr, a thra yr oedd wedi llwyr orchuddio rhai o'r ynysoedd, nid oedd wedi namyn prin gyffwrdd âg eraill; oddieithr hyny, yr oedd ymyl-lin yr iâ yn berfaith a pharhaus. Yr ynysoedd a'r beis-leoedd yn y for-gilfach a attaliasent y rhew-fryniau (icebergs), ac y mae yn anmhossibl o'r bron fyned mewn llong, yn nes nag o fewn tua deng milldir i'r rhew-faes. Trwy lawer o anhawster, cyrhaeddais mewn cwch, o fewn pum milldir iddo. Ni's gallwn er pob rhyw ymdrech, ymwthio yn mhellach; ac am hyny, cyfeiriasom am y tir, a dringasom i fryn uchel, er cael golwg arno. Y mae yr enw brodorawl Aukpadlartok, yn arwyddo "lle y creigiau cochion." Aethwn i fynu y for-gilfach o Upernavik, i fwthyn heliwr, yr hwn oedd yn bennaeth (bestyrere) sefydliad bychan, a berthynai i randir Upernavik.

Cyfarfyddid fy llygad â golygfa ardderchawg, fel y safwn ar ben y bryn, yn ngolwg y for-gilfach a'i miloedd rhew-fryniau, ei hynysoedd creigiawg aeldduon; a'r swm enfawr o iâ chwal a lanwai y gofod rhwng y rhew-fryniau a'r ynysoedd, fel nad oedd dernyn o ddwfr cymaint a phwll hwyaid lled fawr, i'w weled yn unman. Fe'm dylynid gan bestyrere Aukpadlartok, enw yr hwn oedd Phylip. Safem yn nghyd, gan edrych ar y glacier, a'r môr mawr o iâ a ymestynai i'r canolbarth, gan gydfysgu mynyddoedd a dyffrynoedd yn un gwastadedd eang, pan ddywedai Phylip, "Gwrandewch! y mae y rhew-faes yn myn'd i fwrw llô;" canys dyna yr enw a roddir gan y brodorion ar ymollyngiad dernyn o honaw.

Clywn drwst uchel; ond ar y cyntaf ni's gallwn ddarganfod o ba le y deuai. Yn y fan fe'i clywid drachefn, yn gryfach na'r tro o'r blaen. Yr ydoedd yn debyg i swn rhybuddiol cyntaf daear-gryn ddyfodawl. Canfuasai Phylip yr ysmottyn o'r lle y daethai y trwst, a dywedai, "Edrychwch! y mae yn ymgyfodi."

Yn awr gallwn weled fod rhan o'r rhewfaes yn cael ei gyfodi gan y dwfr. Yr ymddyrchafiad yma a dreiglai don fawr yn ol, yr hon a darawai yn rymus yn erbyn y rhew-fryniau a orweddent yn is yn y for-gilfach. Yn fuan drachefn, y trwst oedd o'r blaen mor ddwfn, a chrŷf, a ymdorai trwy yr awyr gyda thor-drwst oedd yn gyffelyb i daniad magnelau cryfion gerllaw. Gwyddwn erbyn hyn fod agen wedi ymrwygo yn y rhew-ffrwd, a bod corff mawr wedi ymollwng yn rhydd. Daeth sefyllfa yr agen yn weledig yn fuan, a gallem weled fod dernyn o faintioli aruthrawl wedi ymdori yn rhydd. Ar y cyntaf, efe a ymgyfodai yn uchel, fel pe y buasai ryw lefiathan anferth o'r dyfnder wedi ei gynnysgaeddu â bywyd, ac yn chwareu ei gorph amrosgo yn y dyfroedd nad aflonyddasid o'r blaen. Yr oedd yr agen wedi agor yn llydan erbyn hyn: a'r dernyn dydoledig