a ruthrai yn mlaen; yna y talwyneb, yr hwn a fuasai yn ymgyfodi, a suddodd i waered, tra y cyfodai yr ystlys dufewnol i fynu, a'r helaethrwydd o ddwfr a gyfodasid gyd a'r ysgogiad disymwth, a ymdywalltai oddiar ei ystlysau gyda chwithrwd, i'r môr cythryblus ac ewynawl.
Fel hyn, ganesid rhew-fryn. Ond byddai yn annichonadwy â geiriau yn unig, drosglwyddo unrhyw feddylddrych cyfaddas am weithrediad y baban newydd-anedig hwn o rewfaesydd y Gogledd. Meddylier am bentwr sylweddol o iâ, y drydedd ran o filldir o ddyfn, a mwy na haner milldir mewn trawsfesur cyfystlysol, yn cael ei daflu megys tegan i'r dwfr, a'i yru i dreiglaw yn ôl ac yn mlaen gan ysgog-rym y weithred-fel pe na byddai namyn pêl droed anian yn awr i waered ar un ystlys, hyd onid yw y corpholaeth anferth bron a dymchwelyd: yna, yn ol drachefn; yna i waered yr ochr arall unwaith drachefn, â'r unrhyw rym anwrth wynebadwy; ac felly yn y blaen, i fynu ac i waered, gan wy-dyrddu yn ol a blaen am oriau, cyn y delo o'r diwedd i orphwysdra. Ffurfiwch y cyfryw ddarluniad yn y meddwl, a chewch ryw ddelweddiad o allu, na's gwelir ei debyg trwy weithrediad dim arall ar y ddaear. Yr oedd cynhyrfiad y dwfr yn odidog anamgyffredadwy. Tonau o faintiolaeth aruthrawl, a hyrddient i fynu gyda nerth dirfawr yn erbyn y rhew-faes, gan ei orchuddiaw âg ewyn; a gwanegau a ddeuent i waered y forgilfach, gan rwygo, a malurio yr iâ yn eu ffordd, a chynnyrchu trwy y for-gilfach y gwylltedd mwyaf cyffrous am amryw filldiroedd. Torai y dwfr dros y rhew-fryniau lleiaf yn llwyr, fel pe y buasai y dymhestl yn pentyru y moroedd i fynu; ac yn eu cyfodi yn bentyrau yn erbyn y lan. Ac yna i chwanegu fyth at y cyffro a achlysurid fel hyn, yr oedd y rhew-fryn ymgreiniol mawr, yr hwn oedd yr achos o'r cyfan, yn parhau i ollwng darnau o'i ystlysau a'r bob ymhonciad, trwst ymollyngiad y rhai a gyrhaeddai y glust goruwch y cyffro a'r dadwrdd cyffredinol. Cyffroad y tonau a roddent ysgogiad i rew-fryniau eraill, a'r rhai hyn hefyd a ollyngent ddarnau o'u hystlysau; ac o'r diwedd, fel pe buasai y terfyniad ardderchawg i'r chwareufa,-datseiniad y symbalau a'r tabwrdd mawr yn ngherddorfa ardderchawg Natur-dacw rew-fryn anferthol yn agos i ganol y for-gilfach yn ymrwygaw yn ddau, ac uwchlaw swn y dyfroedd rhwygedig, a'r iâ cwympedig, yr ymrwygiad olaf hwn a lanwai yr awyr â chwyl-sain a dreiddiai rhwng y rhew-greigiau a'r clogwyni, a chan adseinio o fryn i fryn, a derfynai yn unig yn y pellderau tu hwnt i benau y mynyddoedd, tra y llamai rhew-fryniau y for-gilfach eu dawns wyllt a lledchwith i'r don drystfawr.
Aeth amryw oriau drosodd cyn i'r cyflwr yma o derfysg aflywodraethol, a dadwrdd annghydseiniol, gael ei olynu gan dawelwch cyffelyb i'r hyn a'i rhagflaenai; a phan o'r diwedd, y daeth y rhew-fryn a anesid, i orphwys yn dawel, ac y rhoddes y rhew-fryniau eraill i fynu eu dawnsfa ar y môr terfysglyd, ac y peidiodd y tonau â'u ffrewylliadau, ymddangosai i mi, fy mod wrth gael bod yn llygad-dyst o enedigaeth rhewfryn, wedi cael gweled un o arddangosiadau mwyaf arddunawl galluoedd mawrion Anian. Y mae Ysgrifenydd arall, wrth ddarlunio golygfa gyffelyb ar raddeg lai, yn dywedyd,—"Yr ydym newydd fod yn dystion o'r hyn ydoedd ar y pryd yn rhaiadr perffaith o iâ, yn nghyd a'i holl gynhyrfiad, a'i drwst lawer gwaith drosodd. Mor gyflym a'r fellten, mor drystfawr a'r daran, pan fyddo y fellten a'r daran yn dyfod ar yr un eiliad; dyna un clap arswydawl, ergyd dost-lym dartseiniol ar y ffurfafen, yr hon na's annghofiaf byth; ac ni allaf ei darlunio byth. Ac yr oedd yr olygfa a'i canlynai agos mor gyffrous a'r ffrwydrad. Ar unwaith ymrwygai wyneb uchaf y rhew-fryn ar yr awyr, fel pe buasai wedi ei saethu, ac ymlithrai i waered ar draws y clogwyn mawr yn un rhaiadr aruthrol o ddarnau gwyrddion a gwynion, gyda rhuad trystfawr, yn cael ei ddilyn gan daran-drwst sorllyd y cwympiad i'r môr, ac ymdreigliad y tonau uchel-grib, ac ymysgydwad y crynswth anferth yn ol a blaen, wrth geisio adenill ei gydfantoledd."[1]
Gall y darluniad blaenorol o anedigaeth rhewfryn, barottoi meddwl y darllenydd i amgyffred amgylchiad llawer mwy ofnadwy, a gymerth le yn mor-gilfach Sermitsialik:—
"Yn absenoldeb y Cadben a minau o'r llong, nid oedd yr arlunwyr wedi bod yn segur. Yr oeddynt wedi glanio yn agos i'r rhewfaes, a chyd a'u hofferynau wedi dechreu ar eu gwaith. Yr oedd y diwrnod yn wresog, y gwyfwn wedi cyfodi i 68 gradd yn y cysgod, a'r haul, wrth amgylchu i'r dehau, yn pelydru ar y rhew-fur oer. Rhwygai darnau bychain ymaith gyda thrais ffrwydriadol, a chan gwympo i'r môr, cynnyrchent effaith ysplenydd, fel yr oedd yr ewyn a'r dwfr yn ymsaethu o'r ysmotyn a darawid ganddynt. Prin yr elai mynydyn heibio, heb fod rhyw gyffro o'r fath yma yn cymeryd lle. Yr ydoedd yn gyffelyb i chwarfyniaeth cyflegrfa. Yn awr ac eilwaith ymryddhai corff o gryn faintiolaeth, gan gynnyrchu argraff dra grymus ar y llygad, ac ar y glust. Erbyn un o'r gloch, yr oedd pawb wedi dyfod i fwrdd y llong at giniaw; a thros yspaid, yr oeddym oll yn sefyll ar fwrdd y llong, gan syllu
- ↑ After Icebergs with a Painter. By the Rev. L. L. Noble.-Tr.