Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ceinion Llenyddiaeth Cymreig Cyf I.djvu/75

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ar yr olygfa; ac yn sylwi ar y cyfnewidiadau a gymerent le, gyda dyddordeb. Sylwid yn mysg ymddangosiadau hynod eraill, bod yr iâ, pan dorai oddiwrth yr arwyneb briwedig, o liw glas tywyll, a phan y deuai talpiau o iâ i fynu o'r dwfr, fel y deuent weithiau, bod y rhai hyny o'r un lliw; ond wedi bod beth yspaid dan dywyniad yr haul, bod yr arwyneb yn cyfnewid, ac yn dyfod bron yn glaerwyn, o loewder sidanaidd. Ni allasem ddewis sefyllfa fwy manteisiol i gael cyflawn olwg na'r un a feddem; ac nid yw yn debyg bod unrhyw ymchwilwyr o'r blaen, wedi mwynhau cystal cyfleusdra; gan nad yw yn debyg i un long o'r blaen, angori mor agos i rewfaes.

Wedi ciniawa, yr oeddym i ail ymafael yn ein gwaith; a phrysurai yr heuldebwyr (photographers) i'r lan, gan obeithio gallu cipio darlun disymwth o rai o'r talpiau a gwympent, yr hyn pe y gallasent, a fuasai yn rhagori yn ddiau mewn dyddordeb ar bob darlun a dynasent o'r blaen. Penderfynai y Cadben, y byddai i ni newid ein hangorle, trwy fyned i'r ochr arall, wedi glanio yr arlunwyr a'u hoffer: ac yn wir, yr oedd yr ager i fynu yn barod.

Yr oedd y bâd wedi cyrhaedd y lan i'r perwyl hyny, ac wedi cychwyn am y llestr, gan adael yr arlunwyr ar y forlan; a'r cadben wedi rhoddi y gorchymyn i gyfodi yr angor, pan glywid ergyd-drystiau mawrion yn dylyn eu gilydd yn gyflym. Yr oedd amryw dalpiau mawrion wedi ymrwygo ymaith; a'u cwympiadau wedi cynhyrfu cymaint ar y môr, fel yr oedd y llestr yn dechreu ymdreiglo yn amlwg; a'r tonau yn ymdori ar y lan gyda grym mawr. Yna, heb fynyd o rybudd, clywid ergyd-drwst llawer uwch nag yr un a glywsem o'r blaen; fel yr oedd yn amlwg fod rhyw ddygwyddiad annghyffredin ar gymeryd lle; a meddianid pawb gan radd helaeth o arswyd.

Wedi cyfeirio fy ngolwg tu a'r lle y deuai y trwst o honaw, deallais pa beth oedd yr achos o honaw yn y fan. Yr oedd craidd, neu ben eithaf y maes-rew, mewn cyflwr ymddangosiadol o ddadgyfaniad. Yr oedd golwg ardebawl (picturesque) neillduol ar yr iâ yn y fan hon; ac yr oeddym wedi bod yn ei edmygu, ac yn cymeryd arluniau o honaw yn barhaus. Ymddangosai megys gwigfa berffaith o bigyrnau, mwy, neu lai cyfluniaidd, yr hyn a barai ei bod yn debyg i eglwys gadeiriol, a luniasid gan ddwylaw dyn. Y mae yn hawdd deall mai yr achos gwreiddiol o'r pigyrnau hyn ydoedd, yn gyntaf, ffurfiad agenau i fynu yn mhell ar y rhew-faes; ac yn ail, bod y gofodau rhyngddynt yn cael eu lledu, ac yna, eu golymu, a'u crynhau gan ddylanwad yr haul, fel y dynesai y rhewfaes tua'r môr.

Wrth fonsang y pigyrnau hyn, yr oedd amryw fwäau pigfain, rhai o honynt agos yn berffaith eu ffurf, yr hyn a barai eu bod fyth yn fwy tebyg pe buasent o luniad celfyddyd ddynol, yn hytrach nag o gread naturiol. Ar y pwynt eithaf, yr oedd un pig-dwr a safai allan ar wahan yn hollol, bron o ymyl y dwfr hyd ei gopa. Ni's gallai hwn fod nemawr lai na dau can troedfedd o uchder. Aethwn heibio i hwn, ac yn dra agos iddo, pan yn croesi yn y bâd; ac ymddangosai fod ei dalwyneb yn cyrhaedd yn union-syth hyd waelod y môr. Yn y dwfr gwyrdd claer, yr oeddwn yn gallu ei ganfod hyd yn ddwfn iawn yn y môr; ac nid oedd dim o ddwfr lleidiawg yr ochr ddeheuawl i'r forgilfach yn cyrhaedd can belled ag yma. Ychydig a feddyliwn wrthddrych mor fradwrus ydoedd, neu ni buaswn yn anturio mor agos iddo; canys nid oedd dim mwy na hŷd y bad rhyngwyf ag ef.

Oddiwrth y pigwrn hynod yma, yr hwn oedd yn ymsuddaw, y deuai yr ergyd-drwst olaf, ac uchaf, am yr hon y crybwyllwyd uchod. Ymddangosai mewn gwirionedd, megys pe buasai sylfeini y ddaear yn ymollwng, a bod y pigwrn yn disgyn i'r dyfnderau amrwth islaw. Yr oedd yr effaith yn dra mawrwych. Nid dymchwelyd a wnaeth, gan ogwyddo, a chwympo bendramwnwgl, ond ymsuddo i lawr yn gorfforol, ac with wneyd hyny, ymddrylliai yn ddarnau aneirif, a chymerodd o leiaf y bedwaredd ran o fynyd i ymollwng. Ond ni allem ni fod yn llygaid dystion o'r ymollyngiad yma nemawr o eiliadau, gan fod yr holl rew-faes, agos hyd ei gopa, wedi ei enhuddo gan ewyn,-cwmmwl goloyw, trwy yr hwn y lledwelid yr iâ maluriedig. Ymdorai bloeddiadau o edmygedd a synedigaeth yr holl gymdeithion a berthynent i'r llong. Prin y buasai y perygl mwyaf yn ddigonol i dynu y llygad oddiar yr olygfa swynol. Ond, pan ddechreuai copa y pigwrn. ymsuddo o'r golwg yn nghanol yr ewyn a'r niwl, i'r hwn y diflanodd o'r diwedd, yr oedd y brwdfrydedd yn annherfynol.

Pa fodd bynag, yr oedd rhanau eraill o'r rhewfaes erbyn hyn yn myned dan drawsffurfiad cyffelyb, dan ddylanwad yr ymrwygiad cyntaf yn ddiamheuol. Pigyrnau eraill, nad oeddynt mor berffaith yn eu ffurf, a ddiflanent yr un modd, a chrestenau mawrion yn pilioni oddiar y rhew-faes mewn amryw fanau, a gwympent i'r môr gyda thrwst arswydawl. Yna, yn nghanol y cythrwfl, llyncid yr holl drwstfeydd. neillduol i fynu, gan un rhuad cyffredinol, a ddeffröai adseiniau y bryniau cylchynol, ac a daenai orsynder brawychus dros yr holl bobl oeddynt ar fwrdd y "Panther." Y gorsynder yma a gynnyddai gyda phob eiliad; canys boddid rhuad yr iâ cwympedig a maluriedig mewn