Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ceinion Llenyddiaeth Cymreig Cyf I.djvu/78

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Dwg hyn o lythr talythr-goeth,
Da dy naid, ar dy din noeth;
Cyflymaf wyd, cofl lemain,
Negesawl cywyddawl cain.
Rho Duw iwrch, rhaid yw erchi
Peth o lateiaeth i ti.
Grugwawl goruwch y greigwen,
Gweirwellt a bawr, gorwyllt ben:
Iolwyn gwych teuluaidd,
Llamwr allt, llym yw ei wraidd.
Llama goruwch bon llumoen
I'r rhiw, teg ei ffriw a'i ffroen.
Fy ngwas gwych ni'th fradychir,
Ni'th ludd gŵn y barwn hir,
Nod fawl-gamp, nad i filgi,
Yn ol tes dy oddiwes di;
Nag ofna di saeth lisaid,
Na chi 'n ol, na chai naid.
Fy llatai wyd anwyd-ael,
A'm bardd Ddyddgu, hardd hael;
Dwg dithau, teg ei duthiad,
Y daith hon i dy ei thad
Gochel Buli, ci coesgoch,
Ac Iolydd, ci celfydd coch;
Adlais huaid a gredir,
O don' yn d'ol, i Dolwyn dir.
Ymochel rhag dy weled,
Dros fryn i lwyn rhedyn rhed;
Neidia goruwch hen adwy,
I'r maes, ac nag aros mwy.
A chusan ym bychan beth,
Dyddgu liw gwynblu geinbleth.
Dos i'r llaid dewis er lludd,
Deall afael dull Ofydd,
Debre'r nos gerllaw'r rhosydd,
Dan frig y goedwig a'r gwŷdd.
Cyrch yno'r Carw-iwrch hynod,
Carwn dymunwn y mod.
Nis fling llaw, bydd iach lawen,
Nid à dy bais am sais hen,
Na'th gyrn f'anwyl, na'th garnau,
Na'th gig, ni'th gaiff eiddig gau.
Duw i'th gadw, doeth geidwad,
A braich Cynfelyn rhag brad;
Minnau wnaf, o byddaf hen,
Dy groesi bryd egroesen.


I DDYDDGU AC ERAILL, EI GARIADAU.

Ei serch a roes merch i mi,
Seren cylch Nant y Seri;
Morwyn wych, nid ym marn au,
Morfydd ŵyl, mawr feddyliau!
Cyd collwyf o wiw nwyf uthr,
Fy anrhaith a fu iawn-rhuthr.
Cyd bai brid newid i ni
Prid oedd wr priod iddi.
Eithr rhag anfodd uthr geinfyw,
Duw fry, diedifar yw!
Gwedi chariad, brad fu'r braw,
Lloer byd, rhoi llaw ar beidiaw.

O cherais wraig mewn meigoel,
Wrth lyn y porthmonyn moel,
Gwragenus esgus osgordd,
Gwraig rhyw benaig Robin Nord.
Elen chwanog i olud,
Fy anrhaith ar lediaeth lud:
Brenhines, arglwyddes gwlan
Brethyndai bro Eithindan.
Dyn serchog oedd raid yno,
Gwae hi nad myfi fai fo!
Ni chymer hon wiwdon wedd,
Gerdd yn rhad, gwrdd anrhydedd!
Hawdd oedd gael gafael gyfa,
Haws na dim hosanau da:
Ac os caf, liw gwynaf gwawn
O fedlai byddaf fodlawn.

Nid ydwyf nwyf anofal,
Rho dyn, heb gaffael rhyw dal.
Ar ei eiriau arwyrain,
Ai ar feddwl cerddgar cain.
Ai ar air, cyd diheurwyf,
Ai ar ryw beth, arab wyf;
Hefyd, cyd bo fy nhafawd
I Ddyddgu yn gweu gwawd,
Nid oes ym, myn dyn o swydd,
Ond olrhain anwadalrwydd!

Gwawr brenhiniaeth, maeth a'i medd
Y byd ŵyr yw'r bedwaredd.
Ni cha o'm pen cymmen call,
Hoen geirw, na hi nag arall,
Na'i henw, na'r wlad yr hanoedd,
Hoff iawn yw, na pha un oedd.
Nid oes na gwraig benaig nwyf
Na gwr cymaint a garwyf
A'r forwyn glaer galchglaer gylch,
Nos da iddi nis diylch!
Ceir gair o garu'n ddiffrwyth,
Caf, nid arbedaf i bwyth;
Pei gwypai gobaith undyn,
Mai am dani hi fai hyn;
Pe cynddrwg ceinwen rudd-deg
Ganthi a'i chrogi, wych reg!
Mwy lawn-bwys mau elyn-boen,
Moli a wnaf hi, nwyf-hoen,
Hoyw ei llun, a holl Wynedd
A'i mawl, gwyn ei fyd a'i medd!



I DDYDDGU.

Dyddgu liw dydd goleuaf,
Dy nawdd, er Un mab Duw Naf!
Deurudd Mair, o diroedd Mael,
Duon lygaid, a dwyael.

Deliais fal ar hudoliaeth,
Dilyn serch arnad ferch faeth;