Da leddfair deulueiddferch,
Dolurus yw dal ar serch.
Deuliw barf dwfr llafarlas,
Delw glaer, ar len dyli glas!
Del i'th fryd dalu i'th frawd,
Dyfu yt gerdd a'i dafawd;
Dygum yt well na deu-gae
Dogn mawl, da gwn y mae.
Dyn fal corfedw yn edwi,
Deune ton am danad ti!
Dyfed a wyr mai difyw
Difai ddysg, a Dafydd yw!
Difraw ddyn od af ryw ddydd,
Dwf llerw, dan defyll irwydd;
Dyfn fy naigr, dwfn fynegais,
Dwfr fy mhen hyd ar fy mhais!
Diofal glud a deifl gwlaw,
Dan ael wyf deunydd wylaw!
Dy fardd mad, yn anad neb,
Digroenes deigr ei wyneb!
Dyn wyf o'th serch, wenferch wawl,
Digraidd gwyw dagruawl.
Dydd ermoed, deuwedd eiry mân,
Dyferiog bwyll dwf eirian!
Dyddgu wawr anrhydedd-gael,
Dyn gwiw, du eiliw dy ael!
Dawn glud, pe'n rhoddyd yn rhad
Da holl Loegr, diell lygad,
Deiliwyd rin ym min mau,
Diolwg a'i dialau.
Dyleuaf ffawd am wawdair,
Dylai fawl myn delw Fair!
Didawl i'm bron yw d'adwyth,
Didaer loer o Dudur lwyth!
Didwf yw dadl dy gerddawr,
Didawl main ar dy dal mawr,
Dodaist wayw llon, dan fron friw,
Didost ar dy fryd ydiw,
Didawl o'th gariad ydwyf,
Da dy lun, a di-dal wyf!
Dyeithr cael da uthra cwyn,
Dylusg arnad i dewlwyn;
Dau lygad swrth yn gwrthgrif,
Diystyr gwall awyr llif!
GWAHODDIAD DYDDGU IR DEILDY.
Y ddyn ganaid ddawn gynneddf,
Dyddgu ar gwallt lliwddu lleddf!
Dy wahawdd, drych y tri-phlwyf,
I Ddol yr Aeron ydd wyf;
I'r bedw nid er bwydydd,
Nid gwahawdd glwth i fwth fydd,
Nid gofwy Sais ai gyfaillt,
Nid neithior arf barf mab aillt
Nid tam o giniaw ammaeth,
Nid i ynyd ciglyd caeth;
Nid gorlwy elw medelwas,
Nid o yd gloyw, amyd glas.
Os daw'r fun i'r ystafell
O fedw ir, a fu fyd well?
Nid addawaf da ddiwedd
I'm awr, eithr eos a medd.
Tra fo'm allan dan y dail,
Cynnes fedw a'n cynnail;
Lle cyrch iyrehod rhywiog-ryw
Lie can edn, lle cain ydyw!
Eos gefnllwyd ysgafnllef,
A bronfraith ddigrifiaith gref.
Naw pren teg eu hwynepryd,
Y sydd o goedydd i gyd:
Lloches adar i chwareu;
Llwyn mwyn, llyna'r llun y mae?
I waered, yn grwn gwmpas,
I fyny, yn glochdy glas;
O danyn', eiddun addef,
Meillion aur, myn Myllin nef!
Lle golas hwyl, lle gwyl gwg,
Lle ger dwfr llugoer, difwg;
Lle newydd adeilwydd da,
Lle nwyf aml, lle nef yma!
Lle tew lletyai mwyeilch,
Lle mygr gwydd, lle megir gweilch.
Lle anhysbys dyrys dir,
Gwerdd dwr rhag caswr coeshir:
Lle deuddyn, llu a'u diddawr,
Neu dri, yn ennyd yr awr!
Yno heno, hoen waneg,
Awn, ai nad awn, y Nyn deg?
Od awn, awn, wyneb gwynlyw,
Fy Nyn lygaid gloyw glyw!
BWRIAD O GARU DYDDGU,,br>DUCHAN I'R BWA BACH, A'I AFLWYDD AM FORFUDD.
{{center block|
O chan fi drueni drum
O bu air na wybum!
Garu cyn oedran gwra,
Hocrell fwyn ddieill fain dda;
Gowir o ddawn, gywair ddoeth,
Gynnil-gain gu anwyl-goeth;
Mal unwedd etifedd tir,
Gowell foethus-ddyn gywir.
Yn gronfferf yn ddiderfysg,
Yn gyflawn o'r dawn a'r dysg;
Yn deg lan Indeg loywnwyf,
Yn dir gwŷdd, enderig wyf;
Yn gariad dianwadal,
Yn lath aur, yn loyw ei thal;
Mal y mae mawl arianddeddf,
Dyddgu a'r gwallt lliwddu lleddf.
Nid felly y mae Morfudd,
Ond fal hyn, farworyn rhudd;