Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ceinion Llenyddiaeth Cymreig Cyf I.djvu/80

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yn caru rhai a'i cerydd,
Rhywyr fun, a rhyhir fydd;
Yn berchenog, barch uniawn,
Ty a gwr, yn ddyn teg iawn!
Nid anfynychach im' ffo
Am haner nos am hono,
Rhag dyn o'i phlas dan las wydr,
Na dydd wyf llamhidydd hydr.
A'r gwr dygn a'r gair digall,
Dan guraw'r llaw yn y llall,
Llef beunydd a rydd rwydd-chwant,
A bloedd am ddwyn mam ei blant.
Llwdn hirllef, llydan haerllug,
Llafur ffol yw llyfr ei ffug;
Llwfr a rhyfedd y gwneddyw,
Llefain am riain fain fyw.
Nid dawnus, nid dianhardd,
Nid teg ei weled, nid hardd.
Gwr yn gweiddi gorn gwaddawd,
Ar gân fal brân am ei brawd.
Os drwg o un anhunfloedd,
Finffug wr o Fenffug oedd.
Eiddilwr am ei ddolef,
I ddiawl aed, pam i'dd wyl ef?
Y deheu ef ai dyhun,
Dan ddywedyd-"barcud bun!"
Och! gwae ef ddolef ddylyn,
Hyder ar Dduw, o'r hud ar ddyn!
Be prynwn, befr ddiweir bwyll,
Wraig o'm hoedl, ryw gem hydwyll;
Coeliwr dig, er cael awr daw,
Rhan oedd, mi a'i rhown iddaw;
Rhag drycced weddw dynged wae,
Ei gwr chwerw, y gwyr chwarae.

Curiodd anwadal galon,
Cariad a wnaeth frad i'm bron,
Ni chyfyd ynof cof cerdd,
Gan cyd llawen ac angerdd;
Na son diddan am danyn'
Na serch byth onis eirch bun.
Dewis yr wyf ar ungair,
Dyddgu iw charu, o chair.


CYWYDD Y CLEDDYF, GAN DDANGOS EI GAMPAU.

Rhyhir wyd, goflwyd gyflun,
Rho Duw gledd ar hyd y glun;
Ni ad dy lafn, hoyw drafn hy,
Gywilydd i'w gywely.
Cadwa fi di i'm deau,
Cedwid Duw y ceidwad tau!
Mau gorodyn mydr ydwyd,
Meistr im grymuster wyd:
Gwr fy myd nis câr fy myw,
Gwrdd i rwystr gerdd o'r ystryw.
Tawedog enwog anwych,
Tewddrwg mul ei ŵg, mal ŷch;
Weithiau y tau, anwyd da,
Ac weithiau y'm bygythia.
Tra'th feddwyf, angerddrwyf gwrdd,
Er ei fwgwth, arf agwrdd;
Oerfel uwch ben ei wely,
A phoeth fo dy feistr o ffy;
Nag ar farch dibarch dybiaw,
Nag ar draed er ungwr draw.
Onis pair cais, deuair dig,
Cosb i'th ddydd, casbeth Eiddig!
Catgno i gilio gelyn
Erchyll gneifiwr, deifiwr dyn;
Coethaf cledren addaf wyd,
Collaist rwd, callestr ydwyd;
Coelfain brain brwydr trwy grwydr drin,
Cilied Deifr, caled Deufin,
Cyfylfin cai ufelfellt,
Cadwa' dydi i'th dŷ, dy dellt:
Cwysgar wyd rhag esgar ym,
Cain loywgledd, canolyglym!
Llym aer grym, llyma ar gred,
Lle 'th roddaf, llaw a thrwydded,
Rhag bod y'nghastell celli
Rhyw gut nos, i'n rhagot ni.
Rhwysg mab a buarth baban,
Rhed y dur fal rhod o dân.
Ni chel ysgwyd Cyhelyn,
Ar fy llaw, o daw y dyn;
Glew sidell, gloyw osodiad,
Rhyfel wyd fy mettel mad!
Ti a'm ceidw rhag dirieidwyr
Rheitia cledd, gwyr rhawt y clyr.
Ar herw byddaf ar hirwyl,
Dan y gwŷdd, mi a'm dyn gŵyl;
Nid ansyber ym herwa,
Os eirch dyn, nid â ferch da:
Talm o'r tylwyth a'm diaur,
Tew fy ol ger tai fy aur.
Ciliawdr, cof nid wyf Ofydd,
Calon serch syberw fydd.



Y DELYN LEDR.[1]

Rho Duw hael rhadau helynt,
Gwawr rhif, Gymru ddigrif gynt!
Gorau man gwinllan y gost,
At fyd o fywyd fuost,
Tra fu amser i glera,
A dysg yr hen Gymry da!

Weithian, dioer! oer addysg,
Y mae cerdd seiniar i'n mysg.
Diflo anghyfan wan-gledr,
Telynau, llidiardau lledr;
Nid oedd un tant ffyniant fiydd,
O ddefaid meirw i Ddafydd.
Ni wnaeth clau ddewiniaeth cler
Ddafydd brophwyd diofer,
Un delyn, ddyddan angerdd,
Onid o rawn, gyfiawn gerdd!

  1. Awduriaeth DapG yn amheus, gweler Ysgrif Dafydd Johnston, Prifysgol Abertawe