Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ceinion Llenyddiaeth Cymreig Cyf I.djvu/81

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Doeth yw'r ymadrawdd, hawdd hoyw,
Y delyn o rawn du-loyw:
Y delyn rawn, dawn difas,
O rad y Drindod a'i ras,
A ddyfod oll i Ddafydd,
A fu, a rhagllaw a fydd;
O ddechreu'r byd, bryd breichfawr,
Hyd ddyddbrawd, myfyrdawd mawr

Nid oes a fyn oes o'n iaith,
O gwybydd gainge, na'i gobaith,
I beri son, wb o'r swydd!
Ond telyn ledr nid hylwydd;
Ac ewin gorn, dorn difwyn
A gwas, un diras, i'w dwyn.
Anhawdd i brentis fis fydd,
Ystofi miliast efydd;
Anferth o bla, llun bwa llwm,
Enfys ac echrys gochrwm;
Cywion brain yn ymgreiniaw;
Ciwed yn ymglywed gwlaw!
Ni cherais iawngais angerdd,
Na'i chafn botymog, na'i cherdd;
Na'i choludd, sain damwain dig,
Na'i rhifwnt liw, na'i rhyfig;
Na'i chwr bergam ddisgamar,
Na'i llorf cam, un llwrf a'i câr.
Drwg yw dan bwyth yr wythfys
Llun ei chroth, lliain ei chrys:
Ni luniwyd ei pharwyden,
Na'i chreglais ond i Sais hen.
Gweryriad gwyllt rhuad gau,
Gwilff felen am geffylau.
Chwaer undad, hwyrnad hirnos
I'r oer Fad Felen o Rôs.
Sain gwydd gloff, anhoff yn ŷd,
Sonfawr Wyddeles ynfyd:
Ysgŵd melin, lawd-grin lam,
Ysgyfar waeddgar wddfgam.
Cryman pren o fursen fu,
Crimog hen wrach yn crymu.
Ceisied pob prentis cyson,
Hyd o Fars-dir Lloegr, i Fôn,
Delyn eirian iw chanu,
I ranu dysg, o rawn du
Mal yr oedd mau gyhoeddi
Yn oes ein hen deidiau ni:
Na cheisied, ddiged ddeugwyn
Y dydd, brentisiaid i'w dwyn!


I FORFUDD, PAN WELODD HI Y NGHOR EGLWYS BANGOR.

Y Ferch dan yr aur llathrloyw,
Fain ddigabl crwn barabl croyw;
Yn aur o'r pen bwygilydd,
Yn rhiain wiw deuliw dydd,
Yn gwrando ar salm Balchnoe,
Y nghor Bangor Deiniol doe.
Digon i'r byd o degwch,
Eigr bryd flur, a brad fllwch!
Weled y wenferch wiwlwys
Wi! o'r dyn, me'n wewyr dwys:
A seithochr wayw y'm saethawdd,
A seithwawd cymhendawd cawdd.
Gwenwyn awch, gwn fy nychu,
Gweledigion gwlad Fon fu!
Nis tyn dim dan awyr sugnau,
Oddi mewn y galon mau;
Nis gorug gof ei guriaw,
Nis gwnaeth llifedigaeth llaw.
Ni wŷs na lliw gwiw gwawdradd,
Nad llun y dostarf a'm lladd!
Gorwyf o'm gwiwnwyf a'm gwedd,
Gorphwyll am ganwyll Gwynedd.
Gwae fi, gwewyr a'm hirbair,
Gwyn fy myd yn ngwiwnef Mair!
Gwydn yw gwayw deunawnych:
Gwas prudd, wnae'r grudd yn grych,
Gwnae dost gwenwyn o dál,
Y gwayw llifaid, gwall ofal,
Trwm yw ynof ei hirgadw,
Trwyddaw fy mron, friwdon fradw.
Trefnloes fy nad cariadwy,
Tri awch saeth brawdfaeth bradwy!



CYWYDD I'R TAFOD.[1]

Y Tafod nid wyt hyfedr,
Taw druan, fawd lydan ledr;
Pam na cheisi dŷ diddos,
Pa ddail a wnaid pan ddel nos,
Na fedri noeth ynfydrim,
Yleni dewi er dim?

Mwy na rhegen mewn rhagnyth,
Myn nith Fair, hon ni thaw fyth!
Hon ni thau heb y tafawd
Ni thau gwynt a nithio gwawd.
Modd yr wyd am ddireidi,
Colyn oer, i'm calyn i;
Awr daw heb hyd dalm o'r dydd
A wyl ferw ymlaferydd;
Ti wnai beth er na wnai neb
Hoel gwtta, holi ac atteb.
Tyfaist ynghysgod dwy-foch,
Fal tafell o fara cell coch:
Clicciedyn yn cloi ceudawd,
Clopren gwern, clap breuan gwawd.
Mae'r naill beth, achreth echrys,
A'i bod braw gyfarfod brys,
A'i hunlle, fodd henllwy faith,
Arnad yn siarad surwaith.
Os bydawl eisiau bedydd,
Arnad, yn siad siarad sydd,
Offeiriad meddw, gweddw Gwyddel,
Gynt a'th fedyddiodd dan gel.
Yfed llyn gwerth dan berthi,
Nos a dydd yw dy naws di;

  1. Awduriaeth DapG yn amheus, gweler Ysgrif Dafydd Johnston, Prifysgol Abertawe