Son yn ffraeth am gwrw Sanffraid.
Ymddyfalu meddw folaid
Hyny myn Mair! a bair bod
Bugunad debig ynod,
A bloeddio fal pabl Iuddew;
Mi a adwaen flaen dy flew.
Dwg yn wag gwaith o ragor,
Yn llawn aniawn moelrhawn mor;
Pan ddel llanw gwyllt hyllt holltir
Nefai ei flew fal sofl ir:
Rhuo a wnai a rhyw nad,
A briw ferw âb rhyferad;
Traian sor, truan sarug,
Trwn sor ffals, treinsiwr ffug:
Meistr dyfrllyd masw adreig
Mesfrig a man yswr eig.
Mawr ei angerdd mireingoch,
Cleddau cerdd, celwyddog coch,
Perygl yt y paraf glwyf,
Ag ellyn gynta gallwyf;
Dynu, myn delw Deinioel,
O'r gwraidd, lafn mileinwraidd moel!
Coffa mor dda y'm caffud,
Cyn no hyn o wn can hud;
Doed dy gof diotta gynt,
Diodydd mêdd da ydynt.
Megaist di fal myn magod,
Mefl o mewn, mau ofal fod
A minnau er na mynwn,
O ranau byth i neb ei wn;
Er ugein more, neu gan-muw,
Gwelyt dwyll mewn gwlad Duw!
Hawdd yw adnabod yr hen,
Gorflewyn, gwr aflawen,
Gau genau y geg annoeth,
Gael attat beth gatyd boeth.
GWALLT MORFUDD.[1]
Doe gwelais ddyn llednais lân,
Deg o liw, dygwyl Ieuan:
Yn ddyn glaerwen ysplenydd,
Yn lloer deg, unlliw a'r dydd!
A'i chlaerwin fin chwerthinog,
A'i grudd fal rhosyn y Grog;
Aml o eurlliw, mal iarlles,
Garllaw y tal gorlliw tes.
Ac uwch ei deurudd rhuddaur,
Dwybleth fal y dabl o aur;
O dattodir, hir yw hwn,
Yr eiliad aur a welwn:
Plethiad ar yr iad a rydd,
A'r godiad aur egwydydd.
Esgyll archangel melyn,
Aerwy o gwyr ar eiry gwyn.
Gweled ei gwallt fal gold gwiw,
Gwiail unllath, goel unlliw;
Benhadl-lwyn uwch yr wyneb,
Bronbelau fal siopau Sieb.
Gwiw arwydd uwch deurudd dyn,
Gwiail didau gold ydyn';
Copi clyd gwiwbryd gobraff,
Coed o aur rhudd, cyd a rhaff.
Pwy ni wyr beirdd penceirddryw,
Pwy biau'r gwallt pybyr gwiw?
Bid arnaf fi yn ddiwg
Arddel dyn urddol ai dwg
I FORFUDD,
PAN WELODD Y BARDD HI GYNTAF, YN RHOSYR YM MON; AC YR ANFONODD EI LATAI A GWIN
IDDI, A HITHAU A'I GWRTHODODD, AC YN DDIRMYGUS EI DAFLU AM BEN Y GWAS.
Gwyl Bedr y bum yn edrych,
Yn Rhosyr, lle aml gwyr gwych,
Ar drwsiad, pobl o aur drysor,
A gallu Mon, gerllaw mor.
Yno dd'oedd haul Wynedd wiw
Enid unrhwysg, hynod unrhiw;
Gwenddyn fwnwglgrwn gwynddoeth,
A gwych oedd, a gwiw, a choeth.
A'r byd am ei gwynbryd gwiw,
Ar ei hol eiry hoywliw;
Rhyfedd fu gan y lluoedd,
Rhodd o nef y rhyw ddyn oedd!
Minnau o'm clwyf a'm anhun,
Yn gwylio byth am gael bun.
A fu was a fai fasach
Ei fryd didwyll, a'i bwyll bach?
Gwyliais y hi heb ddichell,
O'i hol, nid buddiol, o bell;
Onid aeth dynoliaeth dwys,
I loyw lofft gain oleulwys.
Prid yr unben a chwenych,
Profais y gwin prifwas gwych;
Prynu, gwaith ni bu fodlawn,
Heb raid ddau alwynaid lawn.
Dos was, o'r mydr gwmpas mau,
Dwg hyn i'r ferch deg gynau;
Dyfydd hyd ei ystafell;
Dywaid, henffych yn wych well.
Dos yn ei chlust a husting,
A'th ddysg, nag arbed, a thyng;
Mwyaf morwyn y 'Ngwynedd
A garaf fi, myn Gwr a fedd!
Llun iawnrhyw, llyma anrheg,
I ti yr anwylddyn teg.
Pell ynfyd fydd pwyll anfoes,
Pe rhon', dywaid pwy a'i rhoes?
Pand cyffredin y ddinas,
Paham na'th adwaenam was?
Dafydd awenydd wiwnef,
Yn rhodd a'm gyrodd ag ef,
Lwyttu wawr, a'i latai wyf,
Attad ei gariad gorwyf.
- ↑ Awduriaeth DapG yn amheus, gweler Ysgrif Dafydd Johnston, Prifysgol Abertawe