Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ceinion Llenyddiaeth Cymreig Cyf I.djvu/83

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Clod y 'Ngwynedd a eddyw,
Clywch ef, fal sain cloch yw!
Yn ddibarch er pum archoll,
Meddwch chwi ef, mae 'dd uwch oll.

"Nid wy' mewn bodd o'i roddion,
Na'i win da, na'i wenwyn dôn.
Ffordd o'm gwydd! ffwrdd o'm golwg!
Cilia y dreng, rhag cael y drwg!"

Cael y claerwin o'r ddinas,
A'i dywallt y ngwallt y ngwas!
Ammarch a oedd hyny ymy,
Amhorth Mair im hoywgrair hy!
Os o brudd im gwarthruddiawdd.
Isod cyfadnabod cawdd!
Asur ddisglaer ei chasul,
Eisiau gwin ar ei min mul!

Pe gwypwn gwpl di letpai,
Madog Hir 'y myd a'i cai;
Hwyr y gwnai hagr westai hy
Einion Dot, mewn diowtty.

Hi a wyl, yr hoyw wylan,
A'i chlust a'i llygad achlan
Dal iachgain, bydd mwy diolchgar
I mi byth, amheua ei bâr.
Byth weithian pan anfonwyf
I'r fun, annyfyn o nwyf,
Llonaid llwy o ddwfr llinagr
Yn anrheg, bid teg, bid hagr!


ARDDELWI MORFUDD IR TAIR RHIAIN ODIDOG GYNT.

Tair gwragedd a'u gwedd fal gwawn,
A gafas yn gwbl gyfiawn,
Pryd cain, pan fu'r damwain da,
A roes Duw Nef ar Efa.

Cyntaf o'r tair dysglaer-lyw
A'i cafas, ehudwas hoyw!
Policsena ferch Bria,
Gwaisg o grair yn gwisgo gra.
A'r ail fu Diodema,
Gwiw-bryd goleu-draul haul ha.
Trydydd fun, ail Rhun rhawg,
Fu Elen, feinwen Fanawg;
Yr hon a beris yr ha,
A thrin rhwng Groeg a Throia.
Pedwerydd disymlwedd serch,
Y gain eglur-fain glaer-ferch,
Yn dyfod yn deg ddiseml,
Heb wg nod amlwg i'r deml;
A'r lluoedd arni 'n edrych,
Ar lawr dysgleir-fawr, wawr wych.
I myfi daeth ymofeg
Ymofyn, pwy yw'r dyn teg?
Chwaer yw hon, lon oleu-loer,
Undad a'r lleuad a'r lloer;
A nith i des ysplenydd,
A'i mam oedd wawr ddinam ddydd!
Ac o Wynedd yr henyw,
Ac ŵyr i haul awyr yw!
Nid gwen unwraig a'r adwaen,
Nid gwyn calch ar siambr falch faen,
Nid gwen gwelwdon anghyfuwch,
Nid gwyn ewyn llyn, na lluwch,
Nid gwyn pryd dilys dysglair,
Wrth bryd gwyn fy myd, myn Mair!
Cyngwystl a wnawn heb gyngor,
Lliw ton geirw pan feirw ar for.
Nid byw'r cristion credadun,
A gai le bai ar liw bun!
Onid ei bod yn glodgamp,
Dyn fach yn loywach na'r lamp!

Na fid rhyfedd gan Gymro,
Alw bun o'r eiliw y bo.
Poed ar gyllell hirbell hon,
I gerdded gwaed ei galon,
A'i cymerai yn hyfryd,
A maddau bun meddu byd!
Pa mwya' fo fy nghyfoeth,
A'm canmawl cynhwynawl coeth,
Fwyfwy, clwyfai, ar naid
Cof ynof, cyfryw enaid!
Pa les i minnau wyrda,
Maddau'r dyn a meddu'r da?
Nid oes obaith goleuni
I'r dvn a fo hŷn na hi!



PENWISG MORFUDD.

Heddyw y gwelaf Ddafydd,
Hawddfyd i heddyw a fydd,
Rhwng gwallt, amgutiau chwyrn,
A dwyael merch i deyrn;
Rhoi gwerth can-punt o'r un-tal,
O gywrain main, ag aur mâl
Wel dyna weled anawdd,
I roi ar tal, o aur tawdd!
Myn Croes naid o fro Eidial!
A gwaed dyn! gwiw yw y tal.
Owmal o wlad Luddiad Lyr;
Yw Penwisg fy Nyn poenwyr,
Gem yw ar ddaw o gwmwd
Ac aur Ffraingc, ne geirw ffrwd:
Ag asur ar gysur iad,
Er gwasgu cambr i'w gwisgiad.
Fflwch rhactal, neu benial boen,
Fflwring aur, flloyw-ring oroen:
Da lun ar ddail fflwr-de-lis,
Ag aur berw o Gaer Baris.
Aur loywbrim eiry oleubryd,
Anrhydedd beilch wragedd byd;
Gwae fi, Fab Fair ddiwair dda,
Ei theced, ac ni thycia!