AMAETHIAD CARIAD.
AREDIG, HAU, MEDI, A CHYWAIN, SERCH MORFUDD.
Caru bun, cyd y curiwyf,
Yn fwy, neu ddeufwy ydd wyf!
Cyfragod gariad tradof,
Crupl y cur, croyw epil cof:
Cadw a orum ceudawd
Cariad, twyllwr, cnowr cnawd.
Cynnyddu ewyn a wyddiad,
Y mae i'm bron, mam y brad:
Cynt na thyfiad cariad craff,
Cangen y blin-bren blaen-braff.
Ceisio heiniar i garu,
Am briod fyth i'm bryd fu;
Rhwng dailiadaeth, gwawdfaeth gudd
Y marwfis, o serch Morfudd.
Arddwyd fy mron, ddewrlon ddwys
Iawn angerdd serch, yn un-gwys;
Ac mae aradr, cerddgadr call,
I franaru'r fron arall.
A swch ym calon y sydd,
A chwlltwr o serch uwch elltydd.
Y gauaf, er gwiw ofal,
A welwyf dolur nwyf dâl!
Mae i'm bron ddeau, glau glwyf,
Fryd hau a llyfnhau llifnwyf:
Calanmai, rhag cael un-modd
Seguryd ym byd o'm bodd,
A thrimis, berf ddewis bwyll,
Gwanwyndymp, gwayw anhun-dwyll.
Ni chaf yr haf yr hoyw-ferch,
Ni chred neb brysurdeb serch!
Cadeiriodd ynof ofid,
Coetgae i'm lladd, cytgam llid.
Cauais, hoywdrais ehudrwyf
Yn ei gylch, dyn unig wyf!
Treiddiodd serch yr hael-ferch hon,
Trefn afraid, trwy fy nwyfron.
Cyrchais, ni ohiriais hur,
Cyrchau medelau dolur;
Troes y gwynt, o bell-hynt bollt,
O ddeau'r galon ddwyollt.
Trwm fu gyfrgoll yr hollfyd,
Trallod yw bardd trulliad byd:
Am y dyn ei hoedl ni'm dawr,
Ac yn aeddfed gynnyddfawr;"
A thywyllawdd gawdd gordderch,
Yn fy mhen ddwy seren serch.
Edrychasant, llwyddiant o lun,
Ar Forfudd, araf eurfun;
Llidiardau dagrau digrwyf,
Llygaid nofaduriaid nwyf:
Lwferau dwfr lifeiriant,
Lafurus o nwyfus nant!
Curiwyd y fron hon heno,
A dwfr glas, edifar glo:
Dan hon y mae yn gronllech,
Ni âd fy nhrem yn seldrem sech!
Drwg fu ar sofl gofl gofid,
Dryghin o orllewin llid:
Addaw prif wastadlaw prudd,
O ddwyrain wybr ar ddeurudd;
Ac o gariad tad didwyll
Gwedi'r boen, gwae di o'r bwyll!
Ni ellais fron oglais frad,
Ei gywain rhwng dwy gawad.
Hoen bryd eigr, fy neigr ni âd,
Heiniar lwgr, hun ar lygad!
Dywedwch ym enaid didwyll,
Gwae fi o'r boen, gaf ar bwyll
Syrthio o'r cariad mad maeth,
A'm siomi am osymaith?
DIEITHRWCH MORFUDD O SERCH, AC YN ANWADAL.
Y Fun o Eithin fynydd,
F'enaid teg, ni fyn oed dydd,
Fain iawn-ael, fwynion olwg,
Fanwallt aur, fy anwyllt wg:
Fy ngwynfyd rhag trymfyd trange,
Fy nuwies addfwyn ieuange,
Fy nrych llewych mewn lliwaur,
Fy rhan yw, fy rhiain aur;
Fy swllt dan futres elltydd,
Fy serch ar hon fwyfwy sydd,
Fy nillyn mwynyn manwallt,
Fy nghrair ni chair yn ochr allt!
Ni chyrch hon goed y fron fry,
Ni châr ai câr, ni chwery:
Ni chair Morfudd i chwareu,
Na chair! caru Mair y mae,
A charu saint wych hoywrym,
A charu Duw, ni chred ym!
Ni wyr Gwen, un orig yw,
Nid edwyn mor od ydyw:
Nid adwaeniad odineb,
Ni fynai nyn fi, na neb;
Ni fynwn inau f'anwyl
Fyw, oni chawn fun wych wyl!
A'm bun darfu ymboeni,
Morfudd fwyn! marw fyddaf fi!
CLADDU Y BARDD O GARIAD.[1]
Y Fun loywlun, fal lili
Yw'r tâl, dan we aur wyt ti!
Mi a'th gerais maith gwiwrym,
Mair deg! oes ymwared ym?
Dy dâl rhag ofn dy dylwyth,
Dial parch, wyf heb dal Nwyth;
Y mae genyf mau gyni,
Uchenaid tost o'th chwant ti.
- ↑ Awduriaeth DapG yn amheus, gweler Ysgrif Dafydd Johnston, Prifysgol Abertawe