O'm lleddi amwyll wiwddyn,
Yr em wen hardd, er mwyn hyn,
Euawg i'th wnair, grair y gras,
Ymgel Wen, o'm galanas.
Minnau mewn bedd a gleddir,
Ym mysg dail a masw-goed ir:
Arwyl o fedw irion,
Y foru a gaf dan frig on;
Amdo wenwisg am danaf,
A lliain hoyw feillion haf;
Ac ysgrin, i geisio gras,
Ym o'r irddail mawr urddas;
A blodau llwynau yn llen,
Ac elor o wyth gwialen.
Y mae gwylanod y môr
A ddon' fil i ddwyn f'elor,
Llu o goed teg, llyg a'i twng,
Em hoywbryd, à i'm hebrwng:
A'r eglwys i'm o glos haf,
Yn y fanallt, ddyn fwynaf,
A dwy ddelw da i 'ddoli,
Dwy eos dail, dewis di!
Ac yno wrth gae'r gwenith
Allorau brics, a llawr brith,
A chôr, ni chau'r ddôr yn ddig;
O droddail ni's medr Eiddig,
A brodyr, a wyr brydiaith,
Llwydion a wyr Lladin iaith;
O ran mydr o ramadeg
O lyfrau dail, lifrai deg!
Ac organ gwych y gwirgae,
A sain clych mynych y mae.
Ag yno, ym medw Gwynedd,
I mi ar bâr y mae'r bedd!
Lle teg glas, matras maingc,
Llan eos, llwynau ieuaingc;
A'r Gog rhag f'enaid a gân
Ar irgoed fal yr organ,
Paderau, ac oriau'n gall,
A llaswyrau, llais arall;
Fferenau, a pher annerch
A gaf fis haf, gofwy serch!
Aed Duw, i gynnal oed dydd
I baradwys a'i Brydydd.
PERERINDOD MORFUDD I FYNYW,
I GEISIO MADDEUANT AM LADD Y BARDD.
Gwawr ddyhuddiant y cantref!
Lleian aeth 'er llu o'r nef,
Ac er Non, calon a'i cel,
Ag er Dewi, eigr dawel,
O Fon deg, poed rhwydd rhagddi!
I Fynyw dir, f'enaid i!
I geisio, blodau o'r blaid,
Maddeuant am a ddywaid.
Am ladd ei gwas dulas dig,
Penydiwr cul poenedig;
O alanas gwas gwawd-ferw
I'r aeth, oer hiraeth, ar herw!
Greddf ffoes gruddiau ffion,
Gadewais fy newis Fon;
Crist arglwydd! boed rhwydd y trai
Cas, a chymwynas Menai.
Y Traeth mawr, goludfawr glod
Treia, gad fyned trywod.
Y Bychan-Draeth, gaeth gerynt,
Gad ym dyn gwyn hyn o hynt.
Darfu'r gweddiau dirfawr,
Digyffro fo Artro fawr.
Talwn fferm Borth Abermaw,
Ar don drai, er ei dwyn draw.
Gydne gwin, gad naw gwaneg
Dysyni, i Dir Dewi deg.
A dwfn yw tonau Dyfi,
Dwfr rhyn yn ei herbyn hi.
Rheidiol, gad er d'anrhydedd
Heol i fun hael o fedd.
Ystwyth ym mhwyth, gad ym hon
Drais dew-ddyfr dros dy ddwyfron.
Aeron ferw hyson hoywserch,
Gad trwod fy eurglod ferch.
Teifi, dwfr tyfiad eurwawn,
Gad i'r dyn gadeirio dawn:
Dirfing drwy'r afon derfyn
Yr el, ac y del y dyn!
Mam hirffawd, mae ym mhorffor,
Os byw rhwng Mynyw a'r môr.
Os hi am lladdawdd, oes hir,
Herw hylithr, hwyr yr holir!
Maddeuant Mair, neddair nawdd,
I'm lleddf wylan a'm lladdawdd!
Diau mae im a'i dihaur,
Minnau a'i maddau i'm haur!
MORFUDD YN PENNU OED, HEB GYWIRO.[1]
Bychan oedd gan Ddianis
Am ei bryd mawr ei bris;
Gellwair bob gair a garaf,
Pob gair yn gellwair a gaf.
Y hi a wnaeth, im ei hun,
Im ryw dwyll mawr er dywllun;
Doedyd, megis i hudol,
Dywmarth y deu im ol:
Dywmercher, wrth dy eirian,
Y gwnae oed, loer ganaid lan!
Difiau y gosodau oed,
A dywgwener deugein-oed;
Os oed a wnae ddywsadwrn,
Dywsul y gosodau swrn.
Heb ddydd yn yr hir-ddydd hwn,
O ddydd i ddydd idd oeddwn.
O chawn ddydd, ac uchenaid,
Pob dydd yn gelwydd a gaid.
Na rho iddi wyl Ddwynwen
Od oedd ffals bob dydd o'i phen!
- ↑ Awduriaeth DapG yn amheus, gweler Ysgrif Dafydd Johnston, Prifysgol Abertawe