Twrch a'i dŷ dan freichiau dar,
A gae filgwn gafaelgar.
A mab i ddwyn ol y ddau
Oll o fewn cynllyfanau;
Ni ddetyd mebyd em ais,
'Y nrhem o'r man ei rhwymais!
TRAETHODL YMDDIDDAN RHWNG Y BARDD A'R BRAWD LLWYD.
Gwae fi na wyr y Forwyn,
Glodfrys a'i llys yn y llwyn,
Ymddiddan y brawd llygliw
Am dana'i y dydd heddiw!
Mi a euthum at y brawd,
I gyffesu fy mhechawd;
Iddaw'r addefais, hyd gwn,
Mai eilun prydydd oeddwn;
A'm bod erioed yn caru
Rhiain wynebwen ael-ddu.
Ac na bu i'm o'm llofrudd
Les am unbenes, na budd,
Ond ei charu'n hir wastad,
A churio'n fawr o'i chariad;
A dwyn ei chlod drwy Gymry,
A bod hebddi er hyny:
A dymuno ei chlywed
I'm gwely rh'of a'r pared.
Eb y Brawd wrthyf yna,
"Mi a rown it' gyngor da;
O cheraist eiliw ewyn,
Lliw papir, oed hir hyd hyn,
Llaesa boen y dydd a ddaw,
Lles yw i'th enaid beidiaw;
A thewi a'th gywyddau,
Ac arfer o'th baderau.
Nid er cywydd nag englyn
Y prynodd Duw enaid dyn!
Nid yw'ch cerdd chwi y gler
Ond truth, a lleisiau ofer,
Ac annog gwyr a gwragedd
I bechod ac anwiredd.
Ni da'r moliant corphorawl
A ddycco'r enaid i ddiawl!"
Minnau attebais i'r Brawd
Am bob gair ar a ddywawd
"Nid ydyw Duw mor greulon
Ac y dywaid hen ddynion;
Ond celwydd yr Offeiriaid
Yn darllain hen grwyn defaid;
Ni chyll Duw enaid gwr mwyn,
Er caru gwraig, na morwyn.
Tri pheth a gerir trwy'r byd,
Gwraig, a hinon, ac iechyd.
Merch sydd deccaf blodëuyn
Yn y Nef, ond Duw ei hun!
O wraig y ganed pob dyn,
O'r holl bobloedd ond tri-dyn;
Ac am hyny nid rhyfedd
Garu merched a gwragedd.
O'r nef caed pob digrifwch,
Ac o uffern pob tristwch.
Cerdd a bair yn llawenach
Hen ac ieuangc, claf ac iach:
Cyn rheitied i mi brydu,
Ac i tithau bregethu;
A chyn iawned i mi glera,
Aci tithau gardotta.
Pand englynion, ac odlau
Yw'r hymnau a'r secwensiau;
A chywyddau i Dduw lwyd,
Yw Llaswyr Dafydd Brophwyd.
Nid ar un bwyd ac enllyn
Y mae Duw'n porthi pob dyn.
Amser osoded i fwyd,
Ac amser i olychwyd;
Amser i gynghaneddu,
Ac amser i bregethu.
Cerdd a genir ym mhob gwledd,
I ddiddanu rhianedd;
A phader yn yr eglwys,
I geisio tir paradwys.
Gwir a ddywed Ystudfach,
Gyda'i feirdd yn cyfeddach,
Wyneb llawen llawn ei dy,
Wyneb trist drwg a ery.
Cyd caro rai sancteiddrwydd
Eraill a gar gyfanneddrwydd.
Anaml a wyr gywydd per,
A phawb a wyr ei bader.
Ac am hyny'r dwyfawl Frawd,
Nid cerdd sydd fwyaf pechawd.
Pan fo cystal gan bob dyn
Glywed pader ag englyn,
A chan forwynion Gwynedd
Glywedd cywydd o faswedd,
Mi a ganaf, myn fy llaw,
Y pader fyth heb peidiaw!
Hyd hyny, mefl i Ddafydd,
O chân bader ond cywydd!"
y Brawd—"Dos o'r byd a'th gywyddau!"
Dafydd—"Dos dithau i ffwrdd i'r poenau!"
y Brawd—"Dos di i boen a phenyd!"
Dafydd—"Dos dithau frawd du o'r byd!"
yBrawd—"Dos di i boenau uffernawl!"
Dafydd—"Dos dithau frawd, i law Diawl!"
CYWYDD I FERCH.
Gwewyr cyfeddachwyr cof
A ymwan trywan trwof,
Am, wrth ei chwrtais geisiaw,
I'r fun drwm warafun draw.