Cynt no hwyl i dan ddwylaw
Y pilwrn drwy'r brwynswrn draw,
Rhag mor derwyn gynhwynawl
Y gwrthyd fy myd fy mawl!
Saeth awchlem wyllt, syth awchloes,
Dan ben ei bron gron yn groes;
Drwy na thoro, tro treiglfrys,
Na'r croen, nag unpwyth o'r crys.
Bach haiarn, gafaelgarn gael,
Dan ddwyen y dyn dduael;
Diwael gulael, a golwg,
Drwy na chyfarfo dro drwg.
Uchel iawn rhof fy llawn llef
Och! fwy nag och fi! nagef!
Taro ei phen, cledren clod,
Ag isarn ar un gosod!
Rhydraws yw eu gwarafun,
Wb gwae fi! ai byw gwiw fun?
Os marw fydd, ys mawr wae fi!
Y gwiwddyn bach o'm gwaeddi;
Rhag mor anhawdd, drym-gawdd dro,
I ennill hoedl i honno!
Dewisaf, oedd gyhoedd ged,
Ei diangc, rhag ei däed!
YMDDIDDAN RHWNG Y BARDD A MORWYN SERCHOG.[1]
Lluniais oed mewn mangoed Mai,
Dawn Dafydd, a'm dyn difai;
Cywir fun a'm cyfarfu,
Bron deg, goris y bryn du.
Rhoi cusan, rhai a'm ceisiai
I'r fun, ni wn arnai fai:
Ei gael ym, golau'y mun
O em rwydd, ddau am yr un!
Hyfach oedd, wrth gyhoeddi,
'Y mun o lawer na mi!
Pan welais fy llednais ddyn,
Llarieiddgu, mor hy a hyn,
Ciliais i'm corn fal ornair,
Cael ysgŵd, celais y gair;
Yn is fy nghlap anhapus,
I'm bryd ar beidio a'm rhus.
Dirwyn fy rhan o'r deri,
'Y myd a 'mliwiodd a mi!
"Ni ddaethost ddifost Ddafydd,
Wr doeth, i gywiro'r dydd;
Ond ar hyder llawnder lles,
Coel dinag, cael dy neges."
"Nage fy rhiain fain-gu,
Rhan fodd, nid er hynny fu;
Ond o'th gariad ni wadaf,
Annoeth gwyn, mi wn na'th gaf!"
"Diau i'th ol y dolwyn,
Ddafydd wr digelfydd gwyn,
Ni ddown i oed i'r goedfryn
Erod fab, ddiwybod ddyn,
Ond ar hyder o'r rhwyddwy
'Y myd, fod yn forwyn mwy!"
"Morwyn fyddi, ddiddial,
Erof fi, wedd eiry y fál:
Iaith irber, del i'th erbyn,
O Fair! os dithau a fyn!
Ni fyna', ni wedda 'n wir,
Faith gwyn, ef a'th ogenir:
Nid heb achos i'th oeda'
Call iawn wyf rhag colli 'na:
Ac na fynwn, gwn gynnau,
Afles fwriad i'r tad tau!"
"Taw a'th esgus fedrus-gel,
Er delw Ddewi, del a ddel!
Y mae da diball allan,
Ar faes, neu ysgrublfan!"
"Pe rhon', a chael cyfael wg
Hoen dduddrem, hyn yn ddiddrwg,
Y mae archdiacon mawr,
Rhyged a fyn ei ragawr.
Gwela' nad gwell na gelyn,
O'i fodd ysgymuno a fyn,
Fry oni chaiff yn ei fro,
O ddogn nawdd ddeugain iddo."
"Och! mor galed fawedig,
Wyd Dafydd dan fronwydd frig!
Na fydd hebo'r Cymro cain,
Rhad agos, er rhoi deugain!"
"Beth oni bydd, hafddydd hyf
Yn gynnar, ddeugain genyf?"
"Cael gani, fab arab gwyn,
Yn uchel a wnai'n echwyn:
Dylwn wawd, a'i dalu'n wych
I minnau pan y mynych!"
Yno nid oedd gyhoeddi,
Un esgus medrus i mi,
Eithr bod oni'm gwrthododd,
Mi a lloer fun, o'm llwyr fodd!
YMDDIDDAN A MERCH DAN EI FFENESTR.[2]
Caru perchen cae arian,
Caru a wnai'r cryf yn wan;
Caru yn dyn, mi a'i cafas,
Caffwy' a gaffwy' o gas:
Caru merch nis cae'r marchog,
A fu rhwng y porth a'r ôg.
Mae cloyn iâ i'm calon i,
A'm pen y sydd i'm poeni;
Am fy mod dan gafodydd
A'r dagrau iâ'r hyd y grudd:
Ar ôd mynych y rhodiwn
Llawer gwaith, lliw eira, gwn.
- ↑ Awduriaeth DapG yn amheus, gweler Ysgrif Dafydd Johnston, Prifysgol Abertawe
- ↑ Awduriaeth DapG yn amheus, gweler Ysgrif Dafydd Johnston, Prifysgol Abertawe