Rhaid i mi ddysgu neidio
Y nos, drwg yw'r ffos i ffo;
Trwm yw'r pridd, anhawdd troi'r pren,
Braenia unwaith a brwynen.
"Duw a wyr dy fod mor wan
Dy ddull i ddywaid allan;
Egor y ddor, ddiweirwen,
Sy' fry uwch dy wely wen!"
"Ni agor hon un gronyn,
Ymddiddan oddi allan ddyn!"
"Mae y ffenestr yn llestair,
Tyn er da'r pren, wen ddiwair!"
"E wich y ddôr oddi danawdd,
Fy nhad a ddeffry yn hawdd!"
"Mae'n cysgu, un du diddim,
Myn nef fry, ni ddeffry ddim!"
"Fei'n clyw fy mam, cam a gaf,
Esgeirwen, os egoraf."
"Gwlych a'th boer lle y rhoe'r rhestr
Blaen ffyn bolyn y ffenestr;
Gwedi hyn, gwada heniaith,
Och ym! pan wichio ychwaith."
"Yn niwedd dy daeredd di,
O gariad, llyna egori."
"Y fun berffaith i'th luniwyd,
Nos da it' mor onest wyd!"
"Croeso fwynwas, myn Asa!
Nos da', od oes neges da!"
"Cennad i ddywad yn nes
I fynegi fy neges."
"Anghwrtais wyd o cheisi,
Myn Asa! ni feiddiaf fi."
"I'm bron mae dirfawr ddolur,
Fal blaenau nodwyddau dur;
A'm calon, er a soniant,
Sy'n sefyll ar gyllyll gant!
Rhaid im ddwyn pridd ar f'wyneb,
Rhag bod im' adnabod neb;
Fy niwedd, chwedl diledlyth,
Yw gorwedd yn y bedd byth!"
CEUBREN YR ELLYLL,
NEU BRÏODFERCH NANT GWRTHEYRN.
Ar ystlys ogleddol y llain gul hono o swydd Gaer yn arfon, sydd yn ymestyn allan i Fôr y Werydd, ac a adwaenir wrth yr enw pentir Lleyn, y mae nant fynyddig ramantus, a elwir Nant Gwrtheyrn, oddiar hen draddodiad, fod y brenin Gwrtheyrn wedi cilio yno, i lechu rhag cynddaredd ei ddeiliaid anfoddawg; ac mai yno y bu efe farw. Mewn carnedd laswerdd yno, o'r enw "Bedd Gwrtheyrn," darganfuwyd arch carreg, yn yr hon yr oedd esgyrneg dyn o faintioli cawraidd; a'i sefyllfa unigol, gan nad oedd yno un garnedd arall yn agos, a gadarnhai y dŷb nad oedd yr esgyrn hyny, namyn gweddillion yr hen bennadur anffodus, Gwrtheyrn.
Y mae y glyn hwn, yr hwn ni chynnwysa namyn dau neu dri o dai, yn ymagor tu a'r cefnfor, ac yn wyrdd-las hyd ei ymyl, tra ar bob ochr arall, y mae yn cael ei gylchynu gan ael gerthau mor ofnadwy o serth, fel y gwneir y fynedfa i'r "Nant," bron yn anhygyrch, o fynydd, ac o fôr. Y mae y wlad oddiarni yn dra gwyllt, ac agos yn annghyfanneddol; gan mai tref fechan Nefyn ydyw yr unig le o'r bron, i'r hwn yr ar weinia y ffordd droellog hono y teithydd synedig, ar draws y gwddf-dir hwnw. Y mae llifeiriant ewynawl yn ymdreiglo i waered trwy ganol y ceule rhyfedd hwn, gan ei ranu yn ddau; o'r rhai y tramwya y trigolion, y naill i'r llall ar hyd math o bont naturiol, y cyfryw ag y gallu ogir trigolion y cyfryw ardal dlodaidd i'w darpar; sef talpiau anferth o'r graig, fel llam-feini mawrion, ac onen fynyddig, neu ddwy, i gynnorthwyo yr ofnus yn eu naid dros y llifeiriant rhuadwy. Ar bob ochr i'r afonig hon, y safai ar gyfer eu gilydd, ond heb fod yn agos iawn i'w gilydd, ddau fwthyn, llwydaidd a henafol yr olwg arnynt, ac mor debyg eu lliw i'r creigiau a'u cylchynent, fel yr ymddangosai pob un o honynt yn debyccach i delpyn noeth o'r graig ei hunan, nag i annedd ddynol, gynes, a dâ, yr hyn ydoedd mewn gwirionedd oddifewn. Yn un o'r rhai hyn yr oedd Rhys Meredydd yn byw; ac yn y llall, y cyfanneddai ei gyfnither, Margaret Meredydd, gyd a'i thad oedranus a llesg. Y rhai hyn, yn nghyda dwy chwaer i Rŷs, oedd yr unig rai a adawsid yn fyw, o ddau deulu, a fuasent yn hir yn meddiannu y glyn bychan hwnw, yn nghyd a'i glytiau o yŷd glas, ei weir gloddiau bychain, a'i deisi o fawn du o amgylch, fel rhyw ettifeddiaeth batriarchaidd, o genedl aeth i genedlaeth. Yr oedd eu sefyllfa wedi gwneyd y ddeu-ddyn ieuainc hyn yn fath of feudwyod o angenrheidrwydd; a chan ei fod ef yn olygus a synwyrol, er yn wylaidd fel plentyn; a hithau yn eneth dyner, a theg, a hynod o'r serchog, a theimladwy; ar yr hon yr oedd ei neillduaeth gwastadol wedi cael yr effaith o gyn nyrchu meddylgarwch difrif-ddwys, yn ymylu.