ar yr arddunawl, yn hytrach na'r hurtrwydd di fywyd a gynnyrcha mewn meddyliau llai teimladwy, nid rhyfedd i hoffder, yn ymylu ar y rhamantus, gynnyddu rhyngddynt, er nad oedd. eu sefyllfa ond isel. Mewn gwirionedd, yr oeddynt wedi eu hamgau gyd a'r arddunawl, a'r naill y llall, a thra y mae Natur yn ei mawrwychedd yn dyrchafu y meddwl, y mae yn dyrchafu y nwydau a'i meddiannant yn gyfattebol hefyd.
Yr oedd unigedd morawl Nant Gwrtheyrn, curiadau tragywyddol y tonnau ar y tywyn, cysgod enfawr Craig y Llam, yn ymdaflu ar draws y dyffryn; ei hunig gymdeithion ei dwy gyfnither, y rhai a ddyoddefent dan afiechyd; yr holl bethau hyn yn nghyd, yn cynnyrchu ar ysbryd llednais yr eneth, effaith cyffelyb i'r eiddo lleiandy yn mysg y mynyddoedd, gyd a'i gerddoriaeth arbruddaidd, a'i chwaeroliaeth welwaidd. Golygfa chwith yn wir oedd gwedd ymwelydd, ac yr oedd ymweliad yn ffurfio cyfnod o'r bron yn mlwyddolion y glyn celedig hwn. Byddai rhodianwyr weithiau yn dyfod hyd ael y diphwys creigiawg a'i hamgylchai, yn edrych i waered ar y ddwy golof o fwg glasaidd, a ymddyrchafai o'r ddau fwthyn a welid yn aneglur, ac yn myned yn ol drachefn, gan ddywedyd, "Tynu i fynu drachefn a fyddai yn orchwyl mor galed." Felly, prin y gellid dychymygu am unigrwydd mwy arbruddawl, nag a eisteddai hyd yn nod ganol dydd dros Nant Gwrtheyrn, gyda brefiadau ei hychydig ddefaid, gruddfanau ei lluaws rhaiadrau, a'r cefnfor anial diderfyn a ymledai o'i blaen, lle nad oedd unrhyw arwydd o fywyd i'w ganfod ond yn symudiad dystaw ambell i long wen ei hwyliau, heibio i safn y Nant, ond yn rhy bell i unrhyw lais dynol gyrhaedd y lan o honi, er y gallai ei bod yn cludo llawer o fodau dynol ar eu hynt ddystaw, ac anhysbys.
Ond, un diwrnod, wele ryw gyffro annghyffredin, a lleisiau yn galw, a gŷnau gwlanen amryliw yn dysgleirio dan belydrau yr haul, fel yr ystreiglent i waered y llechweddau, gan amdroi rhwng y twmpathau eithin blodeuawg, âg aeliau iwrwgaidd y graig,-oll yn cyfeirio eu camrau tu a'r bythynod; yr hyn oll a rag-ddangosai fod rhyw uchel-wyl arbenig gerllaw. Y mae Rhys a'i gyfnither i'w priodi yforu, dydd Sadwrn, hoff ddydd y Cymry fel eu dydd prïodi; a chyfeillion y ddeu-ddyn ieuainc oedd y rhai hyn, y rhai a wahoddasid, (am yr hyn y cawn ddywedyd ychwaneg yn ol law,) y rhai a gyrchent i'r Nant, i gyflwyno y rhoddion arferol ar yr achlysuron hyn, yr hon ddefod a elwir "Pwis a Gwregys." Arferai pob un a wahoddid, ddwyn rhyw anrheg yn ol ei allu i'r pâr ieuanc a fyddont ar fyned i ddechreu cadw tŷ; yr hyn yn nghyd, a fyddai yn gymhorth effeithiol iddynt hwy, er na byddai ond treth ysgafn ar garedigrwydd pob un o'r cyfranwyr: cofnodid anrheg pob un mewn llyfr, gan ysgrifenydd wedi ei bennodi i'r perwyl hyny; a dysgwylid i'r cyffelyb rodd, mewn nwydd, neu werth, gael ei dychwelyd ar briodas ddyfodol y rhoddwr; ie, gellid ei hawlio trwy gyfraith.
Yr oedd gweled yr ymwelwyr cymmwynasgar hyn yn britho y Nant, ddiwrnod mor hyfryd, yn olygfa dra dymunol,-y rhai ieuaine yn cynnorthwyo yr hen rai, pa le bynag y byddai y llwybr yn rhy serth i'w haelodau anystwyth, oll yn trawsdeithio y llechweddau yn finteioedd bychain, y naill uwchlaw y llall, i waered y llwybrau igam ogam, yn hen ac ieuainc, cyfoethocach a thlottach, oll yn eu dillad gorau! Eu gwisgoedd mynyddig, ambell un o'r hen bobl yn syrthio, ac yn bloeddio; a'r ieuenctyd difeddwl yn chwerthin am ben eu hanffodion, yn nghyda gwylltedd ceinwych y ddrychfa, eur-flodau yr eithin, y grug glas-goch-liw, y gwydr-fein gwynion o amgylch, a'r tyddynod bychain islaw, oddiar y rhai y crogai y mynyddoedd aelgerth, dan dywyniad heuldes canol-ddydd haf, a gyfansoddai gylch-arlunfa nad oedd mewn un modd yn annymunol i'r llygad a allai fwynhau tegwch gwledig symlrwydd naturiol. Yma gwelid hen wreigan, yr hon ni's gallai onid yn brin ddwyn ei phwysau ei hunan trwy gynnorthwy ffonfagl, eto yn bachellu cosyn dan ei braich deneu, neu fasgedaid o gywion yn crogi wrth ei garddwrn, er peryglu ei chodwm yn ddirfawr; rhai bychain yn dwyn cydeidiau o amryfal hadau, ac eraill, rai mwy, yn llawn o flawd ceirch; a dygid bara ceirch, wedi eu crasu yn barod, wyau, dof-ednod, a phob peth angenrheidiol a gwasanaethgar yn y fath breswylfa neillduedig; a helaethrwydd o gynnyrchion y defaid, a'r gwehydd, er meithrin cynesrwydd, pan yn cerdded allan ar dymhor yr iâ, neu er gwneyd y gwely yn gysurus o gynes, i gysgu ynddo hirnos gauaf.
Ymddangosai drychfa brysurach fyth i waered yn y ddau fwthyn: "yr ystafell," hyny yw, eiddo y ferch, a symudid dros y cornant, o un tŷ i'r llall, gan hyny o gyfeillion y priodfab ag oeddynt wedi cyrhaedd yno yn barod: canys y pryd hyny fe'i cyfrifid yn foesgarwch i gyflawni y gwasanaeth hwn heb ei drafferthu ef mewn un modd; ac ar yr achlysur hwn, nid gwaith ysgafn oedd trosglwyddo llestri trymion dros ddyfroedd codymawl y gornant, ar hyd y greig-bont, coffr enfawr o hen dderw du, y crochan tri-throed, a fyddai gynt yn mhob simnai Gymreig, dysglau pewter mawrion, pren-bladau, a phren-ddysglau, cwpanau, a llwyau, wedi eu gwneyd o ffawydd, neu fedw, oeddynt yr ychydignwyddau a wnelent i fynu yr hyn a gynnwysid dan yr enw cyffredinol "Ystafell."