Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ceinion Llenyddiaeth Cymreig Cyf I.djvu/91

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yn y cyfamser, yr hon oedd i'w phriodi dranoeth, heb ei llithio gan yr holl amgylchiadau dyeithriol hyn i esgeuluso ei dyledswyddau beunyddiol, a welid yn penlinio yn hynaws i fyclu esgid henafgwr boch-goch a phenwyn, a eisteddai yn ei gadair, yn nrws-borth henafol ei dŷ; a'r hwn yr oedd hi newydd ei gynnorthwyo i ymwisgo, gan fod y gymmalwst wedi ei analluogi i wneyd hyny ei hunan. Hi a ddygasai ei gadair allan, ac a'i dodasai a'i hwyneb tu a'r môr, fel y gallai fwynhau tês y dydd, a pherarogl ei weirgloddiau ei hunan, lle yr oedd y gwair newydd gael ei dori, lle y cricianai y ceiliogod rhedyn yn mysg blodau y meillion, nad oeddynt eto wedi meirw yn y gwanafau, er na chlywid trwst y bladur y dydd hwnw, gan fod pob peth wedi rhoddi lle i un amgylchiad dyddorol. Edrychai yr hawddgar Fargared yn ei wyneb, a meddyliai fod ei wedd yn athrist; canys dyma oedd y diwrnod olaf iddi i fyw yr ochr yma i'r cornant, a hi a arferasai ei wisgo a'i ddadwisgo, ddydd a nos, er's tair neu bedair blynedd bellach; ond yr oedd hi yn awr ar roddi ei swyddau cymmwynasgar hyn i fynu i chwaer ei phriod dyfodol; yr hon a fuasai yn byw yn wastadol gyd a'r hen wr, ei hewythr, ond na chaniattasid gan serchogrwydd y ferch erioed o'r blaen, i wneyd y cymmwynasau hyn iddo yn ei gyflwr analluog. "Mi dynaf fi oddiam danoch, ac a'ch gwisgaf, nos a boreu eto, dadi bach! ni bydd yn un gwahaniaeth fy mod wedi prïodi a myned oddiwrthych," medd yr eneth dyner, gan dynu ei llaw dros ei rudd ef, fel plentyn diniwed; "nid oes nemawr o waith i groesi o'r tŷ arall; dim ond rhedeg i waered y Rhaiadr du, a rhyw gamrau ar y llamfeini, neu ysgŵd ger cangau yr onen fawr os bydd yn llifeiriant uchel, ac felly i fynu glan y geu-ffos, a heibio i'r Fawnog fawr, a naid neu ddwy ar draws y siglen frwynog gerllaw, a thyna fi gyda chwi yn ebrwydd dadi; nid yw e yn ddim i son am dano, chwi a wyddoch. A gwyddoch hefyd. pan na byddo y môr yn rhuo, na'r Rhaiadr du yn taranu yn erwin, y gellir yn rhwydd glywed un yn galw ar draws y gornant;-ni bydd dim perygl: ac yn wir o ran hyny, fe fydd i nghyfnither Gweni, eich trin yn llawn mor dyner ag y gallwn innau wneyd."

Ac yma, er ein bod trwy hyny yn tori ar draws trefn y Cronicl hwn o helyntion Nant Gwrtheyrn, ni's gallwn ymattal rhag myned yn ôl ddiwrnod neu ddau, i roddi dysgrifiad o'r hen ddefod o wahodd, a ffynai yn Nghymru yn yr amser gynt.

Yn foreu iawn y dydd yn mlaen, byddai gwr a ddewisasid i fod yn Wahoddwr, yn prysur gyrchu o dŷ i dŷ trwy y gymmydogaeth, ac yn ei law, ffon hir, wedi ei haddurno âg ysnodenau, a blodau, a mintai fawr o blant, a segurwyr yn ei ganlyn; a phan ddelai i dŷ, tarawai ei ffon yn y llawr, ac adroddai y Gân ganlynol,

"Dydd da i chwi bobl o'r henaf i'r baban,
Mae Stephan Wahoddwr à chwi am ymddiddan;
Gyfeillion da mwynaidd os felly'ch dymuniad,
Cewch genyf fy neges yn gynnes ar ganiad.
Y mae rhyw greadur drwy'r byd yn grwydredig,
Ni's gwn i yn hollol a'i glanwedd, a'i hyllig,
Ag sydd i laweroedd yn gwneuthur doluriad,
Ar bawb yn gonewerwr, a'i enw yw Cariad.
Yr ifaine yn awchus wna daro fynycha',
A'i saeth trwy ei asen mewn modd truenusa';
Ond weithiau a'i fwa fe ddwg yn o fuan,
O dan ei lywodraeth y rhai canol oedran;
Weithiau mae'n taro yn lled annaturiol,
Nes byddant yn babwyr yn wir yr hen bobol;
Mi glywais am ryw un a gas yn aflawen,
Y bendro'n ei wegil yn ol pedwar ugien.
A thyma'r creadur trwy'r byd wrth garwyro,
A d'rawodd y deuddyn wyf drostynt yn teithio,
I hel eich cynnorthwy a'ch nodded i'w nerthu,
Yn ol a gewch chwithau, pan ddel hwn i'ch brathu.*
Yr wyf yn attolwg ar bob un o'r teulu
I gofio fy neges wyf wedi fynegu,
Rhag i'r gwr ifanc, a'i wraig y pryd hyny,
Os na chan' ddim digon weyd mai fi fu'n diogi.
Chwi gewch yno roesaw rwy'n gwybod o'r hawsaf,
A bara a chaws ddigon, onide mi a ddigiaf;
Caiff pawb ei ewyllys, Tybaco. pibelli,
A dïod hoff ryfedd, 'r wyf fi wedi' phrofi."


Yn y fan lle y gwelir y seren, enwai y Gwahoddwr y pleidiau, ac weithiau adroddai achau eu teuluoedd, dydd y briodas, a'r lle y cynhaliant eu neithior, ac enwau y rhai fyddai yn galw eu pwythion i mewn. Y canlyniad o'r cyfryw wahoddiad, oedd y ddrychfa drybestawl a ddarluniasom yn nechreu ein chwedl, a'r lluaws a ddysgrifiwyd yn disgyn ar hyd llethrau y mynydd i'r Nant, nid oeddynt neb amgen na'r cymmydogion yn dyfod i dalu y pwyth, neu offrymu eu rhoddion i'r ddeu-ddyn ieuanc.

Yn gynnar yn y prydnhawn, yr oedd yr helynt yma drosodd, a'r holl ddyeithriaid wedi gadael y Nant i'w thawelwch arferol. Ond wedi i Rŷs orphen mwdylu y gwair yn ei gae ei hun, a dau gae bychain ei ewythr, trwy gymhorth Pegy, (yr hon a ymguddiasai tra yr oedd y dyeithriaid yn y Nant,) a'i dwy gyfnither, ac iddi hi odro y defaid, a chyrchu dau oen o'r mynydd, cipiodd y cariadon haner awr cyn yr adeg y byddai ei thad yn dysgwyl am dani hi i ddïosg oddiam dano; a chyd fwynhaent yr olygfa ar yr haul, yn belen goch, ddigwmwl, yn machludo megys i'r môr llachar, gan daflu rhyw lewyrch gogoneddus ar holl gilfachau a phenrhynoedd beisfor Caer yn arfon; tra yr oedd yr Eifl yn dyrchu eu clogwyni tragywyddol rhwng eu cartref tawel hwy a'r byd mawr cynhyrfus, a phoblogaidd. Ar fryncyn esmwyth oddiar lan y môr, safai hen bren casten, (chestnut tree,) allan o lwybr cyffredin