Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ceinion Llenyddiaeth Cymreig Cyf I.djvu/94

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hi gyda chwi?" medd efe. "Onid yw hi gyda chwi, Rhŷs?" meddynt hwythau. "Ewch yn ol, fechgyn anwyl; ewch yn ol," eb efe; y mae hi wedi bwriadu eich siomi chwi oll; ac yr wyf yn meddwl ei bod hi wedi fy nhwyllo innau hefyd; y mae hi yn sicr o fod gartref. Gwarchod pawb, mor uchel yw yr haul! Rhedwch yn ol, rhedwch, fel am eich bywyd, onide hi a fydd yn rhy hwyr, a bydd y parson wedi myn'd adref!" "Dyn byw! i ba beth y rhedwn?" meddynt; "yr ydym ni wedi bod yno eisoes, ac ni's gwelodd ei thad mo honi er pan neidiodd hi i fynu o'r mwdwl gwair,-nid oes enaid byw yn y Nant ond yr hen wr." Safai Rhys yn syn am fynyd; amdroellai ei lygaid, a safai y chwŷs yn ddefnynau ar ei dalcen; a chan chwarddu math o chwerthiniad gwag, dywedai, "Mi warantaf ei bod hi wrth gefn yr Eglwys bellach, rhedwch! rhedwch! rhedwch!" "I ba le, Rhŷs? I ba le?" "I ofyn pardwn y ffeiriad yn sicr! chwi a'i canfyddwch hi yn rhywle tu a'r pen yma i'r llwybr tywyll, trwy y coed, nid o flaen yr Eglwys; yno y mae hi yn fy nysgwyl; y mae fy ngwraig yn dysgwyl am danaf; ond, myfi a redaf adref yn y cyfamser, ac a ddeuaf yn ol;— dywedwch hyny wrthi hi. Och fi! bydd y parson wedi myned adref yn ebrwydd!" Chwiliodd y bobl bob man oddeutu yr Eglwys a'r fynwent, ond heb weled na chlywed dim oddiwrthi: aeth yntau tuag adref, fel pe ar adenydd y gwynt. Yr oedd Rhys yn benderfynol ei feddwl, ei bod yn un o'r ddau fan; ond, pan gyrhaeddodd adref, nid oedd yno neb ond yr hen wr musgrell, wedi ymlusgo allan dan gynhyrfiad ei feddwl, o herwydd fod ei blentyn wedi myned ar goll mor ddisymwth, a dyeithriol. Erbyn hyn, safai Rhys ger bron ei thad, heb allu dweyd yr un gair, canys yr oedd anobaith bellach ar lethu ei enaid, a di orseddu ei reswm."Yna, rhaid ei bod yn yr Eglwys," eb efe o'r diwedd, er hyny efe a eisteddodd i lawr wrth ochr ei ewythr. Eto meddyliai ynddo ei hun, Pa berygl a allasai ei chyfarfod ar daith mor fer? Yr ydoedd yn ddydd golau pan gychwynasai; nid oedd na phydew na diphwys ar ei ffordd; nid oedd y ffordd yr aethai, yn agored i'r môr, ni allasai neb o'r môr ei thrais-gipio; ac ni chlybuwyd am y fath beth wedi dygwydd erioed mewn gwlad o'r fath yma, lle yr oedd pob math o yspeiliad yn anadnabyddus o fewn cof neb yn fyw. Yn ei bryder, efe a dramwyasai yr holl lwybr yr oedd yn rhaid iddi hi ei droedio, yn ol y darluniad a roddai ei thad o'r cyfeiriad a gymerasai hi; a phe y buasai hi wedi cyfarfod à damwain ofidus ar ei thaith, efe a fuasai yn rhwym o'i chanfod, neu, o glywed ei chri. Yn fyr, yr oedd yr anmhossiblrwydd i ddim niwed ddygwydd iddi, yn tawelu ei feddwl am enyd. Ond yn y fan, efe a neidiodd i fynu, gan dori allan yn yr ymadroddion cynhyrfus a ganlyn;— "Y nefoedd fawr! pa ham yr eisteddaf yma?" fel y rhuthrai y dirgelwch ar ei feddwl, ac yr ystyriai fod yr awr briodas wedi myned heibio; ac yntau, yr hwn a ddylasai fod yn wr priod er's awr neu fwy bellach, yn eistedd mor ddi ymdrech yno, gan gyfnewid tremiadau synedig â'i thad; a hithau, pwy a allai ddweyd pa le? "Y mae fy nghalon yn dychlamu, a'm haelodau yn ymollwng, fel na's gallaf gerdded nemawr gwell nag y gellwch chwithau fy Nhad!" eb efe. Yna, tarawai ei dalcen, a llygad-rythai yn wyneb yr hen wr, fel pe buasai yn orphwyllog. "Och!" eb efe, "Duw yn unig a wyr, pa un a fyddwch chwi yn Dad i mi byth, ai peidio,-pa un a fyddaf, a'i ni fyddaf byth yn fab i chwi-a fyddaf fi byth, byth, y gŵr dedwydd hwnw, y dychymygwn fy mod yn barod!-Och! myfi a âf yn wallgof heddyw!" ac ymaith ag ef unwaith drachefn i fynu yr aelgerthau, gan fwriadu cyrhaedd yr Eglwys, i edrych a oedd dim gobaith o'r cyfeiriad hwnw i gael rhyw eglurhad ar y siomedigaeth ryfedd hon. Nid aethai efe nepell oni chyfarfu â'i gyfeillion, a'u golwg athrist a siomedig, yn bradychu i'w feddwl cythryblus ef, nad oedd ganddynt ddim o hanes yr un anwyl: nid oedd eisiau gofyn nac atteb, yr oedd y ffaith alarus yn cael ei hamlygu yn ngwedd eu hwynebau. Edrychent ar eu gilydd heb allu yngan gair gan ddwysder eu teimladau. Syll-dremiai Rhys o'i ddeutu, fel un yn edrych am fan i ffoi rhag angau, heb allu canfod yr un agen na lloches i ymguddio ynddi: yna, efe a ymddangosai iddo ei hunan, fel pe yn rhodio i nos ystormus-syrthiodd i'r ddaear, a gorweddai mewn llewyg trwm pan ddynesasant ato; ac yn y cyflwr hwnw y cludasant ef adref. Ar hyd y nos hono, gwelid goleuadau yn ymsymud yn mhob cyfeiriad, a chlywid lleisiau yn ei galw wrth ei henw, yn cael eu hadseinio gan y bryniau, a'u hatteb yn unig gan y dalluanod, neu rai o'r pysgodwyr oeddynt mewn cychod ar y môr, y rhai a dybient mai arnynt hwy yr oedd rhyw rai yn galw o'r lan. Chwiliwyd pob lle, tebygol, ac annhebygol hefyd; pob twmpath, pob agen, ac ysgafell; ond y cwbl yn hollol ofer! cribau y creigfryniau anial, a gwaelodion y cornentydd anhygyrch; ond heb gael y rhithyn lleiaf o'i hôl, na'i hanes:—

"Chwilio pob man am dani,
A chwilio heb ei chael hi."

Ni ddychwelodd Margaret mwyach, i weini ar ei hen dad di allu, nac i adloni ysbryd truenus ei chefnder prudd-glwyfus; gan na's gwelwyd mo honi mwyach, ac na chlybuwyd oddi wrthi o'r dydd hwnw allan, mwy na phe buasai wedi