Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ceinion Llenyddiaeth Cymreig Cyf I.djvu/95

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

marw o farwolaeth naturiol, a'i chladdu yn y nos,—ei chladdu ar ddydd ei phriodas, fel y rhag-ddywedasai hi yn gellweirus wrth Rhys y nos flaenorol, o dan yr hen geubren. Tra y dygid yr ymchwil yn mlaen ar hyd y dydd canlynol, yr oedd Rhys yn gorwedd yn ddi deimlad, mewn math o lewyg, dan ddylanwad cyffroad ingawl ei feddwl; yr hyn a fygythiai droi yn llycheden ar yr ymenydd: a phan ddadebrodd i ryw fesur yn y prydnhawn, ei lygaid a dröent yn wyllt yn ei ben, gan rythu am dani o gylch yr ystafell, cyn gallu o hono yngan gair; a gwelai y darpariadau priodasol yn addurno yr ystafell, yr hyn a barodd i'r holl brofedigaeth ymrithio i'w feddwl yn adnewyddol. Tywynai yr haul o fan ei fachludiad ar ei wyneb gwelw, trwy ffenestr fechan ei fwthyn; a deallai drwy hyny fod y dydd ar derfynu. Mor hyfryd a chydweddol a thawelwch meddwl priodfab gwledig! ond mor annghyson â phrudd-der cythryblus ei feddwl ef! Dywedai wrtho fod y nos yn nesau; fod oriau heddychol y cyfnos yn dechreu lledu ei lleni euraidd adfywiol, dros y wlad, tra yr oedd ef, druan, yn gorwedd mewn clefyd, a'i ymenydd ar dân, yn dihoeni ar ei wely, ïe, ei wely priodas! yn unig-heb yr un briod-ferch wedi tywyllu ei ddrws!

Yn ol arfer yr oes hygoelus hono, penderfynai rhai o gyfeillion Rhys, gyrchu at ryw "un cyfarwydd" i ymofyn am oleuni ar y dirgelwch. Tra yr oedd un chwaer yn gwylio gwely y claf, prysurodd y llall gynted y gallai at ddewines oedd yn byw mewn bwthyn bychan di addurn, yn uchel, uchel, ar lechwedd un o fynyddoedd Eryri, yn mhell uwchlaw rhodfeydd cyffredin dynion, yn mŷd y cymmylau, y grug, a'r cigfrain. Dynes bruddaidd, hagr, oedd hi; a'i neillduedd di gymdeithas, a'i hymddygiadau haner gwallgof, a barent i werin y parthau hyny gredu ei bod yn gwybod y dirgelion oll, trwy ei chyfathrach a'r un drwg. O flaen y feudwyes hon y daeth y llances o Nant Gwrtheyrn; ac yr oedd ei hattebion, fel oraclau eraill o'r fath, wedi eu gwisgo mewn iaith ammwys, i'r hon y gellid rhoddi dau ystyr, neu yn hytrach, nid oedd iddynt unrhyw ystyr sicr mewn gwirionedd."A ganfyddir hi?" "Gwneir." "Pwy a'i cenfydd? a pha fodd, ac yn mha le yr ydym i ymofyn am dani?" Ysgydwai y ddewines ei phen. "A gaiff y prïodfab ei brïodferch drachefn?" "Caiff." "Ar y ddaear ynte yn y nefoedd?" "Ar y ddaear." "Diolch i Dduw," medd y chwaer ofer-goelus, gan droi gwyn ei llygaid i fynu, plethu ei dwylaw yn nghyd, ac wylo of lawenydd. "Ond, pa bryd? O pa bryd?" "Pan ei dangosir iddo gan oleuni o'r nef. Na chwiliwch ychwaneg am dani; y nêf a'i dengys hi iddo; ac wyneb yn wyneb y safant yn ei goleuni." "Pa hyd y bydd hi oddiwrtho-oddi wrthym?" "Nid ydyw oddiwrthych!" Dyma y gair olaf a ellid ei gael o enau y feudwyes hagr-wedd. A dychwelodd y llances adref.

Yn y cyfamser, yr oedd Rhŷs yn gorwedd yn bruddaidd a difywyd, gan wrthod pob cais er ei gysuro; yr oedd gwg arhosol ar ei ael; a chauai ei ddwrn mewn agwedd fygythiol, pan y cynnygiai neb siarad âg ef; ac nid ymofynai a neb o honynt am ffrwyth eu hymchwiliad, fel pe na's mynasai lethu y wreichionen o obaith a goleddai trwy eu dystawrwydd. O'r diwedd, efe a neidiodd o'r gwely, fel yr oedd wedi ymwisgo yn ei ddillad priodas, a chydiai yn ei chwaer gerfydd ei breichiau, fel pe y mynasai ei gorfodi i roddi iddo y cysur hwnw yr oedd efe yn marw o'i eisiau, a lliniaru y trallod hwnw, na's gallai ymgynnal dano yn hwy; ac o'r diwedd ebychiai y gofyniad, "A gafwyd hi eto?" Yr eneth druan, yr hon ni allai oddef y meddwl am rwygo ei galon drachefn âg atteb naccaol, eto na's meiddiai ychwaith ei dwyllo â chelwydd, a edrychai ar ei hanwyl frawd, edrychiad o dosturi annrhaethol, ac yna a drodd ei phen draw, i wylo. "Wedi marw? wedi ei chael yn farw? A gafwyd hi?" "Naddo! naddo!" Ail adroddai yntau y gair arswyd-lawn, mewn gwaedd ddolefus, a barai i'r creigiau cylchynol ddíaspedain. Yna, gan sefyll ar drothwy yr ystafell fechan, oedd newydd gael ei gwyngalchu a'i haddurno, ar gyfer y briodas, a chwrlyd o glytwaith amryliw ar y gwely, of waith llaw ddiwyd yr un golledig, efe a sibrydai, "Nos,-nos! a hithau heb gartref dros ei phen; gan hyny, na fydded yr un byth dros fy mhen innau ychwaith!" ac ymdorodd o afael ei chwaer frawychus, gan redeg tu a'r coed, ac ogofeydd y mynyddoedd, lle y crwydrai yn wyllt o'r awr hono allan, heb ddychwelyd i blith dynion, oddieithr pan fyddai newyn yn gwasgu arno; fel y gwyllt-filod a orfodir gan newyn yn nryghin gauaf, i gynniwair am ymborth o amgylch trigfanau dynol. Yn y coedwigoedd anial, ac ogofeydd llaith y mynyddoedd, y breuddwydiai ef ei fywyd ymaith, nes dyfod yn wrthddrych gresyndod a thosturi pawb a'i hadwaenent, neu a'i gwelent. Yr oedd ei farf yn hir, ac yn britho yn gyflym; a'i ewinedd yn hirion, fel yr eiddo rhyw aderyn ysglyfaethus; a thrwy ei fod yn ei esgeuluso ei hun, yn hir ymprydio, ac yn arwain buchedd wyllt, a di rëol, ei wyneb a grebychai fel dail Hydref, y rhai oeddynt ei sedd y dydd, a'i wely y nôs. Ar rai adegau, gwaeddai y gair "Naddo!" yr hyn oedd wrth wraidd ei holl drueni, gyd a'r fath egni, nes y byddai ei lef yn diaspedain o glogwyn i glogwyn, a'r creaduriaid di reswm o'i amgylch a ddy-