Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ceinion Llenyddiaeth Cymreig Cyf I.djvu/96

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

chrynent, a'r bugeiliaid yn eu hafod-dai a grynent gan arswyd. Bryd arall, rhuthrai yn ol a blaen, ar lan môr tymhestlog Rhagfyr, a'i donau brigwyn yn bygwth claddu yr adyn unig yn eu glafoerion. Yno y safai, yn wlŷb gan yr ewyn, ac yn rhuo allan gynddaredd gableddus, fel pe y buasai yn amcanu â'i lais cras, or-ruo cynddaredd yr eigion, yn erbyn yr oruchwyliaeth galed hono, a gelai dynged ei anwylyd rhagddo. Nid aeth i'w dŷ byth drachefn; ac oddiar ei hawl treftadol i'r lle, ni oddefai i ddodrefnyn gael ei symud oddiyno, nac i'r adeilad gael ei hadgyweirio mewn un modd; ac felly y safai mewn dystawrwydd angeuol, ac yn ddrychiolaeth of daclusrwydd adfeiliedig, oni ddarfu i wyntoedd cryfion o'r môr ysgubo rhan fawr o'r to gwellt ymaith, ac y glasodd y muriau gwyn-galchog oddi fewn, mor lâs a'r dywarchen oddiallan; ac yn y diwedd, y ddallhuan a'r ystlum a gynniweirient ei ystafelloedd, a'r llwynog a'r gath goed, yn eu tro, a epilient ac a udent ar y gwely priodas!

Ond er fod Rhys Meredydd yn arwain bywyd y gwallgof-ddyn, eto, er ei alar, yr oedd ei feddwl yn ymwybodol o'i holl drueni; a hyn sydd yn gwneyd gwallgofrwydd y cystudd mwyaf arteithiol a ddichon gyfarfod dyn. Y gorphwylldra hwnw sydd yn dryllio y teimladau naturiol, y serchiadau, y nwydau, a'r arferion, heb anmharu ond ychydig ar y deall, a adwaenir gan rai meddygon wrth yr enw, "Gwallgofrwydd Moesol;" a'r cynneddfau ynddo, fel cynneddfau ambell feddwyn pan y byddo mewn man peryglus-yn gweled y geulan erchyll, ond heb allu ei hysgoi, am nad oes ganddo lywodraeth ar ei ysgogiadau. Y cyssylltiad yn bodoli rhwng y deall a'r aelodau, wedi ymddyrysu; a thra y mae y meddwl heb ei anmharu, y mae yr ymddygiadau yn hurt, a di reol. Anobaith, fel bedd, yn agor ei safn i lyncu yr enaid; a'r deall yn ymwybodol o hyny, eto heb allu i ysgoi y gyflafan o'i gladdu yn fyw. Dyma y wedd erchyllaf ar wallgofrwydd; ac i ddannedd y math yma o'r anhwyldeb y syrthiodd Rhys. Bu am fisoedd rai heb ddywedyd gair wrth neb ond ei Gi. Math o gorgi defaid bychan oedd y ci hwn, yn hanu o dylwyth o gŵn enwog am eu ffyddlondeb i'w meistriaid, a'u greddf ddeallgar. Pan oedd Rhys yn ei bwyll, arferai y creadur bychan hwn ei ddilyn ar hyd y maesydd pan yn aredig, neu ar hyd y mynydd pan yn bugeilio y praidd: anfynych y gwelid y ci heb ei feistr, na'r meistr heb y ci; a phan gollodd Rhys ei bwyll, ni chollodd gymdeithas ei gi. Y lledfegyn gwirion a'i dilynai yn ei holl grwydradau afreolaidd, heb ond ychydig luniaeth y dydd, ac yn gorwedd y nos wrth ei draed. Ymdrechodd yr hen wr unwaith ddiddyfnu ei serch oddiwrth ei feistr trallodedig, trwy beri ei gau i fynu mewn congl o'r beudy; ond gwelwyd mai trengu y buasai yn y cyfryw gaethiwed yn fuan, gan mor swrth a di galon yr edrychai: gan hyny gollyngwyd ef yn rhydd, ac aeth yn y fan i chwilio am ei feistr trallodus hyd oni chafodd ef. Arferai Rhys siarad â'r ci fel pe buasai yn greadur rhesymol; gan adrodd wrtho ei brofiad chwerw, a'i helynt flin, a hyny mewn tôn mor alarus, nes y byddai y creadur yn edrych yn myw ei lygad, ac yn udo yn dorcalonus, fel pe y buasai yn deall y cwbl. Ond, pan ddaeth y gauaf oer, a'r barug gwyn i orchuddio y ddaear bob boreu, tra nad oedd caledfyd yn effeithio ond ychydig ar gyfansoddiad y gwallgof-ddyn, a galedasid gan ei wallgofrwydd; y ci druan a ddihoenodd, ac a drengodd o wir newyn ac anwyd; ac felly disgynodd yn aberth i'w reddf ardderchog o ffyddlondeb. Bu hyn yn ddyrnod ychwanegol i feddwl cystuddiol Rhys, gan ei fod bellach wedi colli ei unig gydymaith ar wyneb y ddaear. Yr oedd ei ymddygiad at y gelain farw yr ennghraifft fwyaf cyffrous o wallgofrwydd y clywsom erioed son am dani; ac yn ddangoseg alarus y fath greadur dystadl a thruenus ydyw dyn wedi ei amddifadu o'i synwyrau. Gwyliai drosti yn barhaus, cofleidiai hi, a dygai hi oddiamgylch yn ei freichiau am ddyddiau lawer; a thywalltai gwynfanau ei enaid uwch ei phen, hyd oni ddarfu i Ifan, y Ciliau, ei Wahoddwr, a dau o wŷr cryfion eraill, o wir dosturi tuag atto, ruthro arno, a mynu claddu yr ysgerbwd mewn man anhysbys iddo. Ar ol colli y cydymaith hwn, yr hen geubren hwnw ar lan y môr oedd ei gyfaill penaf. "Y mae mor debyg i mi," meddai, "wrtho ei hunan yn goddef holl gynddaredd yr ystormydd, felly finnau; yn crino yn gyflym, felly finnau; yn ysgwyd ei gangau bregus uwch ben môr mawr, i ba un y syrth yn fuan, felly finnau; bydd ef a minnau wedi myn'd yn fuan, a chyn pen ugain mlynedd, daw cenedlaeth i fynu, a ddywaid, 'Dyma lle yr oedd yr hen geubren! Daew lle y talodd Rhys Meredydd ddyled drom ei natur! Wrthyt ti bellach y tywalltaf chwerwder fy enaid; clywaist lawer o'm hymddyddanion serch; gwrando hefyd ar gwynfanau fy ngweddwdod: ac oni elli fy nghlywed, eto, ni's gelli fy ngwawdio; ac oni elli di gyd ymdeimlo â mi, ni's gelli fy mradychu ychwaith! Dan dy aden garuaidd yr ymgysgodaf y nos, ac y breuddwydiaf am fy anwylyd golledig!" Ac yno y byddai ddydd a nos, yn neidio ac yn gorwedd, yn canu ac yn wylo, yn gweddïo ac yn cablu, bob yn ail. Daeth ei chwiorydd yn fuan i ddeall pa le y deuent o hyd iddo; a mynych y dygent ymborth iddo, gan ei gyfleu ger ei fron, ac yntau a'i bwyttai fel un a rhaib newyn arno;