Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ceinion Llenyddiaeth Cymreig Cyf I.djvu/97

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ond ar y cyntaf, ni ddywedai air wrthynt, na wnelai, ddim cymaint a diolch iddynt. Parhaodd yn y mudandod sarrug yma am wythnosau lawer; er hyny nid oedd caredigrwydd y chwiorydd yn pallu dim, eithr parhaent i weini i'w angenion gyd a'r hunan-ymwadiad mwyaf canmoladwy. Pa fodd bynag, o'r diwedd, gwelent arwyddion sirioldeb ar ei wyneb prudd; ac un tro, diolchodd yn wresog i'w chwaer; ac o radd i radd, daeth i siarad â hwy yn lled rwydd. Gofynai un o honynt iddo, pa ham yr arhosai dan yr hen bren hwnw mwy nag yn rhywle arall: i'r hyn yr attebai,-"Am fy mod yn adwaen yr hen bren er's blyneddau; ac yn gweled fy Margared golledig, trwy fy nghwsg, pan odditano yn amlach nag yn un man arall." O fesur ychydig, cafwyd ganddo ddyfod can belled a Nant Ifan Meredydd, i weled yr hen wr; ond, nid eisteddai i lawr, ac ni fwyttai ddim yno. Safai weithiau, fel un wedi ei orlenwi gan syndod; yna, cerddai yn ol ac yn mlaen am oriau weithiau; ond, pan ddechreuai nosi, dywedai, "Rhaid i mi fyned; bydd hi yn dysgwyl am danaf yn fuan; a oes genych chwi ryw gennadwri atti hi fy ewythr?" Dim fy machgen I, ond y byddaf inau yn yr un byd a hithau yn fuan, fuan." Fel hyn yr oedd ymenydd dyryslyd Rhys Meredydd, druan, yn cenedlu rhyw feddyliau gorphwyllog, ei fod yn gweled ac yn ymddiddan a'i anwylyd yn y nos, nes y teimlai ei hun yn ddedwydd am y pryd;-eithr breuddwyd ydoedd, yn gadael ei feddwl twylledig yn fwy trallodus fyth.

Byddai Smugglers yn achlysurol, yn rhedeg eu llwythi i ryw gilfach yn agos i'r Nant hon, a thros dri diwrnod yr ymdrechodd Rhys annghofio ei drallod mewn meddwdod, gan yfed yn drwm o'r gwirodydd cryfion a roddai y dynion creulawn hyny iddo; ond mor bell oedd hyny o liniaru ei boenau, ni's gwnelai namyn peri iddo flino mwy ar ei einioes, a'i wneyd yn fwy rhyfygus i wynebu marwolaeth. Ar y pedwerydd dydd, tra eto i fesur mewn cyflwr o feddwdod, efe a ddywedai wrth ei chwiorydd, ei fod ef yn bwriadu troi yn smuggler; gwisgai ei ddillad priodas am dano, a chanai yn iach iddynt oll: ac er y buasai ei glywed yn datgan y cyfryw benderfyniad, ar adeg flaenorol, yn eu dychrynu, a'u trallodi yn fawr, nid effeithiai nemawr arnynt yn ei gyflwr presenol; gan y buasai felly yn mysg dynion; a rhyw well lle i obeithio am ei gyflawn adferiad: ond, yn mhen y tridiau, tra y meddylient hwy ei fod ef yn mhell ar y môr, efe a safai yn eu mysg drachefn, gyd a'r cyfnos; canys ei galon a ballai, fel y rhoddai i fynu ei fwriad byrbwyll, cyn ei roddi mewn gweithrediad. Ond, er iddo ddyfod i ymweled a'i chwiorydd, ac iddynt hwythau wneyd eu gorau i geisio ei ddarbwyllo i aros gyda hwynt yn y tŷ y noswaith hono, ni's mynai ar un cyfrif; ond cyfeiriai ei gamrau at yr hen bren crybwylledig, ar yr hwn y cerfiasai llaw chwareus Margaret, ei beddargraff ei hun. Y pren hwnw a safai wrtho ei hunan ar bentir uchel, oddiar y môr, ac felly yn nôd i'r daranfollt, ac fe'i tarawsid gan fellt ddwy waith of fewn cof rhai oeddynt yn fyw. Wedi y gwres dirfawr yn haf 1728, ymgrynhöai niwl dudew dros for a morlan, nes ei gwneyd yn fath o nos ar ganol dydd, yr hyn a rag argoelai ystorm ddynesäol, o daranau a mellt. Gan fod ystormydd blaenorol wedi gwneyd brigau y pren hwn yn ysgyrion, ofnai ei chwaer Gwyneth, i'w brawd druan aros dano yn y fath ystorm beryglus; ac am hyny prysurai ato, i geisio ei ddarbwyllo i ddyfod oddiyno, tra yr oedd y taranau yn dechreu rhuo yn y gaddug oedd yn gorwedd ar y môr. Fel yr oedd y fflachiad gyntaf yn chwareu yn welw-las o'i amgylch, gwelai wên yn myned dros ei wyneb curedig;y gyntaf a welsai ar ei wêdd bruddglwyfus er's blyneddoedd; a phan nesäodd hi ato, gan ymaflyd yn ei law, i geisio ganddo ddyfod o'r lle, efe a amlygai ei fod yn ddiolchgar iddi am ei gofal hoff am dano, er na fynai syflyd o'r lle: ond cusanodd ei llaw, gan ddywedyd, "Gwyneth anwyl!" Eithr pan ddechreuodd hi daer ymbil arno i ddyfod i rywle arall i lechu rhag yr ystorm, efe a ddywedai, "Na Gwyneth bach, yr wyt ti yn meddwl fod y dymhestl hon, of wynt a gwlaw, taranau a mellt, yn effeithio arnaf fi, megys y mae arnat ti; dim o'r fath beth! Dos adref, eneth anwyl! a gad rhyngwyf fi a'r ystorm; canys tangnefedd, a thawelwch mawr yw dryghin i mi, gan ei fod am y pryd yn boddi swn y dymhestl sydd o'm mewn. Y mae wedi bod y fath ystorm ddi baid yma; y fath daran-folltau yn rhuo, rhuo, a churo yma yn ddi dor, fel y dymunwn gael fy ngwaredu, fy nghuddio am byth mwyach, rhag edrych ar awyr las, na daear flodeuog! Ystorm i mi!" Yna dyna fflachiad arall. "Rhêd eneth, rhêd! y mae yn beryglus."-"A thithau hefyd, tithau hefyd!" medd ei chwaer dan wylo; gan arswydo mwy am dano ef nag am dani ei hunan.

"Dyma flam Ddwyfol arall! Dyna dordrwst arall, digon nerthol i ddihuno meirw," ebai Rhys, "ond taranau a mellt egwein ein byd ni ydyw y rhai hyn; beth am y dydd hwnw pan y bydd anian yn ymollwng, a'r greadigaeth yn un wenfilam ofnadwy, pan ddeffroir yr holl farwolion, ac y gosodir ni oll wyneb yn wyneb unwaith eto. O! tydi, yr hwn y mae pob dirgelion yn noeth ac yn agored i'th lygaid, gwrando ebychiad calon-rwygol adyn truenus, o ddyfnderau gwae, ac anobaith; fy ngweddi