y coed yn eu gwisgoedd newyddion o wyrddddail blydd, y ffurfafen las-dywell oedd heb un brycheuyn o gwmmwl ar ei hwyneb gloyw; a'r haul a belydrai ei gryfder mwll dros y wlad, nes gwneyd yr ehediaid yn chwareus a thrydarawl gan eu gorhoenedd.
Ond och! pa beth ydoedd yr holl ogoniant anianyddawl yma i'r dorf athrist a ymsymmudai ar hyd y ffordd, gan syn-fyfyrio am y beddrod, a marwolaeth anamserawl y bendefiges ieuane, brydferth, a rhinweddawl, a hebryngid ganddynt tuag yno? Pa fodd y gallent hwy fwynhau teloriad pereidd-sain yr adar, tra yr oedd cnuliad cloch angau yn cryfhau fel yr elent rhagddynt, gan daraw eu clustiau, a chyffroi eu trallod dirgel â'i swn rheolaidd a pharhaus? Nid oedd lliw llonwych y glaswellt a'r dail, yn cyfatteb i'w galar-wisgoedd hwy; a phrin y gellid mwynhau pelydrau llachar yr haul, a ddisgynent ar eu dagrau, ac ar yr elor-gerbyd ddu, a symmudai mor araf.
Nid hawdd y gellir goddef gwasanaeth y claddedigaeth gan wrandawr anmherthynasol, gan mor orlethawl yw yr ymadroddion tywyll, a phruddaidd, yn y rhai y mae wedi ei ysgrifenu. Gan hyny pa beth a all fod teimlad y galarwyr, colled y rhai oedd mor annysgwiliadwy a llem-dost, pan eu cyfarfyddid gan yr offeiriad wrth borth y fynwent, yr hwn a gerddai i'r llan o'u blaen, gan adrodd ei eiriau difrifddwys? Yna gloes eu gofid a dorai allan mewn ebychiadau wylofus, fel eu llenwid â'r meddwl nad oes dim ond y marwol a'r llygradwy yn y byd!
Ond yr ydym i fesur helaeth yn gaeth-ddeiliaid i amgylchiadau; canys y syniadau hyn, y rhai a ymddangosent yn eu gorlethu i anobaith, a ddyrchefid i anadliadau mwy dedwydd gan seiniau ton-chwyddawl yr organ; a'r bwthynwyr a safent yn ben-brudd yn y fynwent tra y parhaodd y dystawrwydd, a adlonid gan sain y beroriaeth.
Pan darawyd y foneddiges am yr hon yr ydwyf yn ysgrifenu, gan yr anhwyldeb, yr hyn nid ydoedd namyn wythnos cyn ei marwolaeth, hi a ddymunai ar i'w phriod ddwyn iddi y gadwaen a'r lloced aur am ei wallt, a roddasai efe iddi cyn eu prïodi. Dodai hon i hongiaw am ei gwddf, a difyrai ei horiau poenus a blinion wrth syllu ar yr addurn-dlws, a thrwy rym cymdeithas y meddyl-ddrychau a gynnyrchai, ymdeimlai fel yn byw drosodd eilwaith yr amserau a aethant heibio. Un hwyr, hi a amneidiai ar Syr William, yr hwn a eisteddai yn yr ystafell, i ddyfod at ei gwely; a dywedai, "Estynwch eich llaw i mi fy anwyl briod: yr ydwyf yn myned yn llawer gwaeth. Yr ydwyf yn teimlo ymollyngdod peryglus yn fy nghyfansoddiad; ac y mae marwolaeth yn fy meddyliau. Os nad yw hyn yn ddim amgen nag ofnusrwydd benywaidd, cyd ddygwch ag ef fy anwylyd, er fy mwyn i; a chalonogwch fi trwy aros wrth fy ngwely trwy y nos."
"Cymerwch gysur, fy anwylyd," medd ei gwr, "Y mae y cyfryw wendid yn beth digon cyffredin. Chwi a fyddwch yn well yn y boreu; ac yn y cyfamser, ni syflaf fi ddim oddiwrth eich gwely. Chwi a ymddiddanwch yn wahanol a mi wedi i chwi gael cwsg dda, a dangosaf i chwi oleuni siriol ac adfywiol yr haul, yn ymlithro ar adenydd y wawr. Gwelaf eich llygaid yn dechreu trymhau yn barod; gan hyny, fy anwylyd, ymroddwch i gysgu."
Cadwyd pob peth yn ddystaw yn yr ystafell, gorweddai y foneddiges glaf yn llonydd, mewn cwsg mor drwm fel na chlywid mo'i hanadliad; a Syr William a ymgysurai a'r meddwl fod ei wraig o'r diwedd wedi cael ymwared o'i phoen, a gymerth lyfr, a chan sefydlu ei feddwl arno mor ddyfal ag y gallai, a dreuliai oriau y nos drosodd felly. Parhâi pob peth oddi fewn ac oddi allan mewn dystawrwydd perffaith, yr hwn y torid arno yn unig tu a'r boreu, gan y cyfryw arwyddion hyfryd o ddeffröad natur ar a ellid eu clywed yn y cyfryw lanerch neillduedig, megis trydar yr adar, si y gwenyn yn hedfan o'u cychau yn yr ardd goris y ffenestr; a thrwst y dail yn chwareu dan awel y boreu. Y pethau hyn, a'r llinellau gwynion cryfion, a drawsent gloriau y ffenestr, a ddarbwyllai Syr William, a'r faethwraig (nurse), gyhyd y parhasai cwsg yr un glaf. Gan hyny gollyngid y goleuni i'r ystafell; ac edrychent i'r gwely. "Pa fodd y mae hyn?" medd Syr William, "Nid yw hi ddim wedi symmud trwch blewyn er pan ei gwelsom neithwyr. Y Duw mawr! mor welw yr ymddengys ei hwyneb a'i gwefusau! Caniattaed y nefoedd fod pob peth yn dda; ond, yr ydwyf yn crynu gan ofn. Ewch i ymofyn y meddyg yma yn ddïoed."
Daeth y meddyg, ac fe'i llanwyd gan fraw yn yr olwg arni; dodid pluen ar ei gwefusau; a gogwyddai Syr William i graffu arni. Ond nid oedd yn symmud. Och! och! yr oedd ei hysbryd wedi ymadaw, tra yr oedd ei gwr, a eisteddai gerllaw iddi, yn gwenieithio iddo ei hun ei bod yn cael ei hadferu.
Rhaid ei bod wedi syflyd unwaith yn y nos, er y gwnelsid hyny mor esmwyth fel na buasai yn ganfyddadwy; canys canfyddid fod un o'i dwylaw o'r tu fewn i'w gwisg, yn cydio yn y lloced, am yr hwn y crybwyllais, ar ei mynwes noeth.
Ni cheisiaf ddarlunio tristwch calon ei phriod, ac ymruthriad ei ddagrau, pan y gwnaed yr ennghraifft darawiadol hon o'i chariad yn hys-