Moes orwydd grymus hirell,
Moes farch, ac arch a fo gwell.
CYWYDD I HARRI DDU, O EUAS.
Y Dâ hydr o'r Deheudir,
Da ei lun mewn du o lir;
Llew du mewn tŷ dillad wyd,
Llin nad el llai na du-lwyd
Harri Gruffydd, grudd y gras,
Hydd, a llywydd holl Euas.
Ystiwart dan golart gwiw,
Ucha swydd i'ch oes heddyw.
Nid anhaws it'—myn Dwynwen,
Dwyn aur nag ysbardyn hen.
Enaid Euas, Ion diwael,
A Gwent wyt, a fu gynt hael.
Ag weithian yn gywaethog,
Yn troi megis dant yr og.
Os da wr wyd, nid oes drai,
Am wir, ond ni chair mwnai.
Ni gawn gêd yna genyd,
Llyn rhwydd, ail llanw'n y rhyd;
Ni chawn o'ch arian ychwaith,
Na dim wrth fyned ymaith.
Herod gynt, Harri, da gwn,
A Chywyddwr iwch oeddwn;
Mwy nid hawdd, er amnaid teg,
Moli gwr mal y garreg.
Cloi dy ddâ, caledu 'dd wyd,
Caledach na'r clo ydwyd.
Deiamwnd ar wydr wyd yma,
Dur ar y dur, o roi dâ.—
Mae esgus estronwys drwg,
Genyd i wyr Morganwg.
Bod it' ni wn na bai dau
Ddwsin o brydyddesau.
A'i ar fedr, digrif ydwyd,
Harri eu gwaddoli ydd wyd?
Modd Gwladus, drwsiadus drud,
Haul Glyn Nedd, hael, glan oeddyd.
Meddai'r glêr a omeddwyd,
Mal Sais, emyl Euas wyd!
Eich gwledd roddech i'ch clêr,
A'ch rwmnai, a chau'r amser.
A'ch clared gwiw i'ch clerwyr,
A'ch medd, a gomedd y gwyr.
Gofyn a wnai gefn y nos,
Ganu Cywydd, gainc eos:
Galw am gudd Dafydd Gwilym,
A brudio wnei, heb roi dim.
Harri, os o ddifri ydd wyd,
Heb roddi hwya breuddwyd,
Os cellwair hwyr y ceir cêd,
Oera cellwair yw colled.
Dywaid ti pam nad wyd da,
Dy ddewr-dad di oedd wr-da.
Da fu Fawd, a difai ferch,
A wnaeth roddion Nith Rhydderch.
Gweiddi gwn, ar Gywydd gwr,
Ag weithiau, brawd Bregethwr:
Y Saint a glywais yn son,
A rodden fwy o roddion.
Un fodd a hwnw fyddaf,
Troi'n well fy natur a wnaf;
O throi gyda'r bregeth rwydd,
Cei fawr-glod acw f'arglwydd.
Oni throi, fe'th ddirwywyd,
Collaist a roist; callestr wyd!
CYWYDD I GUTTO'R GLYNN
AM NA DDAETHAI I IAL Y GWYLIAU.
(GAN SYR RHYS DREWEN.)
Gutyn y Glyn y sydd gla,
Os gweryd ni esgora:
Pa ryw gilwyf perigl ofal,
A'i lluddiodd i wahodd Iâl?
Am gynal fal mwg enaint,
Gwyl ei hun mae'n gul o haint.
Doluriau llochau a'i lladd,
O dra newyn drwy neuadd.
Gan anwyn y gwenwynodd,
Lle bu'r wyl oll heb ei rodd.
Ai gig fu ar y ddesgyl,
A di lun yn dal ei wyl.
Ni cheisiawdd gyda chosyn,
Fwrw ei gost ar fara gwyn:
Bara rhŷg a bawr a'r haidd,
Bara disgybl Bwrdeisaidd.
Guto er sgwrio ei gan,
A gnŷ'r penwig gna penan.
E ludd i'r wraig ladd yr Iar,
Ni ludd Dwgws ladd deg-iar:
Ni bu i'r carl na siarled,
Na saws, aeth i'r wyl yn sied.
Ni bu na chrochan na bêr,
Na gwin siep, gwn i'w swper;
Na diod o'r bragod brau,
Anair gwael un o'r Gwyliau;
Y glasdwr, dysgwyl Ystwyll,
A wna'r hên ni wyr y pwyll.
Ni châr Dwgws chwaer Degau,
Na'r clefyd na'r cerbyd cau.
Od oedd yn ieuane yn ddyn,
Yma'n oediog mae'n adyn.
Gwas crŷ mawr, megis cawr fu,
Gwan bellach, gwn ei ballu.
Gwan a hen yw'r angenfil,
Ac nid gwan enöad ei gil.
Ni weryd ond mewn aerwy,
Gostio math wrth ei gest mwy.
Ni phara y bara'n y bwth,
Oni rwymir hon remwth.
Mi a wn lle mae enaint,
A dyn hwn o dan ei haint.
Llan Egwst lle enwogach,