am yr hyn a wnaethai erddo. Ond cyn iddo braidd gael amser i'w chyfarch hi, fe attaliwyd ei druth ganddi: "Aroswch, aroswch," ebai hi, deuwch yma ymhen yr wythnos; chwi a fyddwch yn fwy profiadol erbyn hyny o fawredd y gymmwynas a wnaethum i chwi, ac felly hefyd o'ch rhwymau i mi am yr unrhyw."
Sion yn fawr ei lawenydd oherwydd yr hyn a gymmerasai le, a frysiodd yn ol i hysbysu y peth i'w wraig a'i dylwyth. "Ni chaf fi mwyach," ebai efe, "mo'm cythruddo beunydd gan yr annghymariaeth amgylchiad rhwng cyfoethog a thlawd; ac y mae yn rhaid i'r hyn a gollasant hay fod yn ennill i ni; a diammeu genyf y cawn yn fuan weled agwedd tra gwahanol ar bethau." Ond ei wraig, Elin, oedd yn methu cydweled yn union à Sion, ac nid oedd y cyfnewidiad yn ei boddio hi cystal; ac yn enwedig foreu ddydd Sul, pan aeth hi i wisgo am dani, ar fedr myned i'r eglwys, hi a welai ei gown cotwm goreu wedi colli nid yn unig ei liwiau siriol, ond hefyd ei feindra a'i degwch, ac wedi troi fel math o hen wlanen gartref; a'r piser tê o wneuthuriad China, a roesid iddi gan wraig ei meistr tir, o'r hwn yr oedd hi mor hoff (er bod ei ddolen wedi tori), yr oedd hwn hefyd wedi troi fel llestryn pridd cyffredin!
Ynghanol y trallodau hyn, a'r dagrau yn byrlymu o'i llygaid, hi a ddaeth i fynegi i Sion yr anffodion oeddynt wedi dygwydd. Hwmham, meddai Sion, i aros i ystorm Elin fyned heibio, gan benderfynu yn ei feddwl erbyn hyn na fynegai byth mai efe fuasai yr achlysur o'r holl gyfnewidiadau hyn. Ond ar y gair, dyma un o'r bechgyn lleiaf yn dyfod i fewn i'r tŷ yn fawr ei nâd. "Beth sydd arnat ti, Twm?" ebai'r tad, gan led ofni mai rhywbeth o achos y cyfnewidiad oedd wedi cythruddo hwn hefyd. "O tada," ebai'r bychan, "y mae fy ngwasgod goch wedi troi yn llwyd, a'm cadach brith wedi myned i gyd yn unlliw." "Pw, pw!" ebai'r tad, "gad lonydd i mi, a dos allan i chwareu." Ac er mwyn cylchdroi y pethau hyn yn ei feddwl yn fanylach, efe a alwai am ei bibell, a'r wraig fwyn ufuddgall a aeth yn ebrwydd i'w chyrchu; ond er ei syndod, yr oedd y pibellau wedi eu troi i gyd yn glai, o'r hwn y gwnaethid hwy yn y dechreu; hyn a yrodd Sion i ddrwg dymherau; ond Elin, i geisio ei lareiddio, a gynnygiai iddo binsied o drewlwch. Eithr erbyn agor y blŵch, yr oedd y snisin wedi diflanu ymaith!
Yr holl groes ddamweiniau hyn a barai i Sion fyned allan o'r tŷ, a cherdded i gwr draw yr ardd, lle y clywai un o'r cymmydogion, oedd y tu arall i'r gwrŷch, ef yn siarad ag ef ei hun, gan ddywedyd: "Mor ynfyd oeddwn na buaswn yn ei rhybuddio i beidio niweidio dim ond gormodau y cyfoethogion yn unig: fe wyr pawb nad oedd genym ni, dlodion, ond ychydig iawn un amser, ac y mae yn galed iawn i ni gael ein hamddifadu o'r rhai hyny. Mi a af at yr hen wrâch drachefn ddiwedd yr wythnos, i grefu arni adferu cysuron y tlodion fel o'r blaen, a difwyno rhai y cyfoethogion yn unig." Ybwriad hwn a foddlonai ei feddwl dros ychydig; ond ymhell cyn diwedd yr wythnos, fe gafodd Sion druan ddigon o achosion i edifeirio am yr hyn. a wnaethai. Cyn pryd cysgu y noswaith hono, wele ei frawd Owain yn dyfod i'r tŷ, yn bendrist iawn, ac yn dechreu cwyno, gan fynegi ei fod ef a'i gyd—wehyddion wedi cael eu troi ymaith oll o'r weithfa sidan oedd yn y dref; a hyny o herwydd darfod i'r defnyddiau ddiflanu yn llwyr ryw noswaith, nas gwyddai neb pa fodd! Ond fe ddeallai Sion hyn yn burion, a chan ystyried ei hun fel yr achos o'r trychineb, ni's gallai lai na rhoi llettŷ i'w frawd y noswaith hono. "Chwi a gewch weled cyfnewidiad mawr ar bethau er gwell yn fuan iawn," ebai efe wrth ei frawd; "fe geir digon o waith cyn pen hir." "Pa fodd? a pha le?" ebai Owain. Ond Sion ni fedrai atteb hyny.
Toc ar ol hyn, dyma Ned, ei fab henaf, yn dyfod i'r tŷ, yr hwn oedd yn gweithio gyda saer cerbydau (coach maker.) "O," meddai efe, "ni welsoch chwi erioed y fath derfysg sydd wedi bod acw: mae yr holl gerbydau wedi troi yn droliau, ac yn erydr!"—"Ond pa'm na buasit ti yn aros gyda dy feistr, i wneud gwageni yn lle cerbydau?" ebai ei dad.—"Gwageni yn wir," ebai Ned; "y mae gan fy meistr eisioes fwy o'r rheiny nag a ddichon efe gael gwared o honynt dros rai blyneddoedd: yr oedd gan yr amaethwyr ddigon o'r cyfryw o'r blaen; felly fe fydd saeri troliau yn yr un trabludd a ninnau yn ebrwydd."
Yma y clywid Sion yn bwrw ochenaid ddwys; a phrin y medrai guddio gloesion ei gydwybod. Etto er mwyn bwrw hyn heibio, sylwai, "Mae'n dda iawn i mi yn awr fy mod yn gallu ennill fy mywioliaeth wrth weithio yn y meusydd. Moliant i Dduw, nid yw ŷd a gwair ddim yn foethau, ac felly nid oes dim perygl i mi fod. allan o waith."
Ymhen deuddydd neu dri, beth bynag, dyma'r gŵr boneddig, ar dir yr hwn yr oedd Sion ab Morgan yn gweithio, yn dyfod i mewn i'w bwthyn. Nid oedd Sion ddim yn ei adnabod ef yn union, oherwydd fod ei ddillad heirddwych wedi troi ymron fel diwyg yr hwsmon. "Wel Sion," ebai efe, "yr wyf yn addef eich bod chwi yn weithiwr diwyd a gonest; ac fe fyddai yn ddrwg genyf eich gweled mewn cyfyngder; dyma i chwi gwpwl o sofrens tuag at eich cynnal chwi a'ch teulu hyd oni ddeloch o hyd i waith yn rhywle; ond o'm rhan i, ni bydd arnaf eich