Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ceiriog (Darlith y BBC 1939).pdf/10

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

o'r wlad, am nad yw yn gwybod y ffasiwn, yn ymddangos yng nghanol gwychder y cyfoethogion yn fwy chwaethus oherwydd symledd ei gwisg,—felly yr oedd Ceiriog hefyd. Nid oedd yn gwybod am y crandrwydd gwneud ofnadwy a dderbynnid fel gwisg i farddoniaeth yn yr oes honno, onid e efallai y buasai ef ei hun ar y dechrau cyn waethed â'r un ohonynt. Hogyn o'r wlad ydoedd wedi ei fagu yn Llanarmon, yn un o unigeddau mwyaf anghysbell Cymru, ac yn perthyn i enwad bychan distadl y Bedyddwyr Albanaidd, ac yr oedd llifeiriant llenyddol ei oes ef yn rhedeg drwy gymoedd nad oedd ef erioed wedi ymweled â hwy. Mewn gair, yr oedd Ceiriog yn byw'n ddigon pell oddi wrth ffasiynau Cymru i dybio bod yr awgrym cartrefol sydd mewn geiriau cynefin yn ddigon i gynhyrchu telyneg; yr oedd yn ddigon diniwed i feddwl bod rhediad melys y mydr a llyfnder y seiniau yn ddigonol, heb ymdrafferthu i geisio gwthio sylwedd y Deg Gorchymyn neu Athrawiaeth yr Iawn i'w ganu. Yr oedd wedi ei drwytho yn yr hen emynau, ac yr oedd yn ddigon gwreiddiol hefyd i feddwl mai ei ddyletswydd oedd ail-gynhyrchu yn y canu seciwlaraidd yr un