Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ceiriog (Darlith y BBC 1939).pdf/12

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hun nyddodd allan syniad a oedd yn newydd i Gymru am farddoniaeth, sef mai yn y pethau cartrefol cynefin agos-atom y mae annedd yr awen. Erbyn heddiw y mae llawer yn ymorchestu i wrthbrofi'r syniad hwn, ac yn wir y mae'n haws o lawer iawn mewn traethawd beirniadol siarad yn ei erbyn nag o'i blaid. Ond er hynny, y gwir yw mai cynhyrfydd yr awen yng Ngheiriog, pan oedd ar ei orau, oedd yr hyn y buasai Wordsworth yn ei alw yn atgof mewn tawelwch am gynhyrfiadau syml ac anghymleth yr amser a fu gynt. Mewn geiriau eraill, awen alltud oedd awen Ceiriog; awen y Cymro oddi cartref gyda holl wendidau yn ogystal â rhinweddau'r math hwnnw o ddyn.

Rhaid imi yn awr bwysleisio'n arbennig nad bwrw anfri ar ansawdd ei waith yr wyf wrth ddywedyd hyn amdano, ond ceisio dangos i'm gwrandawyr mai dyn yn canu am Gymru allan o Gymru oedd Ceiriog, dyn yng nghanol ei hiraeth ym Manceinion yn edrych yn ôl at olygfeydd a phrofiadau ei ieuenctid, ac yn cael ei wefreiddio gan ei hiraeth i droi gwrthrychau'r hiraeth hwnnw yn brydyddiaeth. Y gwir a ddywedodd amdano ei hun: