Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ceiriog (Darlith y BBC 1939).pdf/13

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Mab y mynydd ydwyf innau
Oddi cartref yn gwneud cân.

Gwyddom oll mai un o eiriau mawr y ffasiwn ddiweddaraf mewn beirniadaeth lenyddol yw "nostalgia," ond yr oedd y Cymry'n ymglywed â'r peth ymhell cyn i'w enw ddyfod yn boblogaidd ymhlith cenhedloedd mwy, ac y mae ganddynt air amdano nad oes gan neb arall, sef Hiraeth. Wel, hiraeth am yr hen fywyd Cymreig, yr hen fywyd sydd, oherwydd newid lle neu newid amser, wedi dianc o'i afael, dyma yw ysgogydd holl ganu gorau Ceiriog. Pan ddaeth yn ôl i fyw i Gymru, nid oedd yr atgof am Lanarmon wledig nag am grefydd y Bedyddwyr Albanaidd yn cynhyrfu llawn cymaint arno, canys yr oedd wedi peidio â bod yn alltud; ac wrth beidio â bod yn alltud, peidiodd hefyd â chanu.

Pe bai amser byddai'n ddiddorol myned ar ôl un o nodweddion eraill "cân yr alltud," sef ei harddull, neu'n hytrach, ei chywair mynegiadol. Sylwch ar gywyddau Goronwy Owen. Cadernid yw nodwedd y rhan fwyaf ohonynt, ond yn ei ddau gywydd Hiraeth am Fôn y mae'r nodyn melys telynegol yn swnio'n uwch na'r un arall. Mae'n arwyddocaol mai yn nosbarth "cân