yr alltud" y mae un o'r emynau mwyaf melodaidd yn yr iaith Gymraeg, a Cheiriog yw ei awdur. Meddyliwch yn gyntaf am y Salm enwog Ar lan afonydd Babilon, ac, am y tro, ni gymerwn arall-eiriad campus Huw Myfyr ohoni :
Ar lan afonydd Babel
Eisteddem oll yn syn,
A'n dagrau'n cyd-lifeirio
Wrth gofio Seion fryn...
Wel, yn yr un mesur, yn yr un cywair, a chyda'r un effaith ddwys ar y meddwl y mae emyn Ceiriog:
'Rwy'n llefain o'r anialwch
Am byrth fy ninas wiw,
Jeriwsalem fy nghartref,
Jeriwsalem fy Nuw.
Pa bryd y caiff fy llygaid,
Pa bryd y caiff fy mhen
Ymagor ac ymorffwys
Ym mro Caersalem wen?
Peth hawdd yw bod yn ddwys ac yn delynegol am Seion "ar lan afonydd Babel," ond nid mor hawdd canu amdani cyn felysed pan ddown yn ôl i'w heolydd hi.
Yn y cysylltiad hwn y mae'r feirniadaeth lymaf efallai a ellir ei rhoddi ar delynegion Ceiriog, sef hyn,—nid yng Nghymru fel y mae, fel cenedl a gwlad a chymdeithas, yr oedd ei ddiddordeb, ond mewn