rhyw Gymru ledrithiol a grewyd gan ei ddychymyg ei hun allan o'i "nostalgia," allan o hiraeth yr alltud yn Lloegr. Am hynny, ni cheir yn ei waith ddim ymdeimlad â bywyd cyfamserol Cymru na dim diddordeb yn nhynged Cymru ymhlith y cenhedloedd. I Geiriog y mae Cymru yn debyg iawn i'r darlun a dynnodd ef o'i fam. A barnu oddi wrth y cwbl a ddywed amdani, prif rinwedd bywyd ei fam oedd ei bod hi yn gallu tywallt dagrau dros ei mab pan oedd ef yn gadael ei gartref. A ydyw hyn, meddwch, yn profi bychander Ceiriog fel bardd? Nac ydyw yn bendifaddau, ond yn hytrach gellid dadlau'r gwrthwyneb, oherwydd gallodd Ceiriog greu corff o delynegion o'r radd flaenaf ar waethaf bod ynddynt lai o gynnwys mewnol na gwaith yr un bardd arall yng Nghymru. Unwaith yn unig y cynhyrfwyd ef i ddangos bod ganddo rywbeth mwy na hiraeth yn deimlad at ei wlad ei hun, sef yn y gân "Carnfradwyr ein Gwlad " yn condemnio Brad y Llyfrau Gleision, a rhaid rhestru hon yn nosbarth cyntaf ei waith.
Credaf mai seicolegol yw'r esboniad ar yr ansawdd arbennig hon yn ei brydyddiaeth. Pan oedd yn canu ym Manceinion, yr oedd